Croesawu ffilm sy'n codi ymwybyddiaeth am gyflwr Tourette

MeganFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae siarad am ei chyflwr wedi helpu Megan i deimlo'n llai unig a'i gobaith yw helpu pobl ifanc trwy rannu ei phrofiad

  • Cyhoeddwyd

Ar ôl gweld ffilm newydd 'I Swear' - sydd i'w gweld yn y sinema o 10 Hydref - mae'r myfyrwraig Opera a Chanu Clasurol, Megan Hastings, yn dweud ei bod yn braf gweld ffilm sydd yn chwalu stigma cyflwr Tourette.

Cafodd Megan, 21, ddiagnosis o'r cyflwr pan oedd hi'n 17.

"'Ces i cwpwl o 'tics' pan oedden i'n ifanc ond doedden i byth wedi clywed am Tourette's o'r blaen," meddai.

"Cyn y diagnosis roedden i'n meddwl bod rhywbeth o'i le, ond ers hynny dwi wedi bod yn ceisio dysgu mwy."

I Megan, y peth mwyaf pwerus am weld portread o'r cyflwr ar y sgrin yw'r pwyslais ar y ffaith mai nad Tourette's yw'r broblem, ond diffyg dealltwriaeth am y cyflwr.

MeganFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae Megan o'r Bontfaen wedi bod yn mwynhau cerddoriaeth a chyfansoddi ers yn ifanc

Mae Megan wedi bod yn gerddorol gydol ei bywyd ac mae perfformio'n gysur mawr iddi.

Wrth iddi ganu mae'r 'tics', sef yr enw ar y symudiadau anwirfoddol, yn lleddfu.

"Dwi'n canu ac mae rhan o'r ymennydd jyst yn ffocysu. Dwi'n teimlo'n rhydd a dwi ddim yn cael tics mor aml."

Mae cerddoriaeth a pherfformio wedi helpu Megan i deimlo fel "hi ei hun", ychwanegodd.

Megan a'i ffrind yn ystod perfformiad Lewis Capaldi yng NghaerdyddFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Megan a'i ffrind yn ystod perfformiad Lewis Capaldi yng Nghaerdydd

Mae nifer o gantorion a ffigyrau cyhoeddus wedi siarad am fyw gyda'r cyflwr yn ddiweddar gan gynnwys Lewis Capaldi sef un o hoff artistiaid Megan.

Mae un o'i ganeuon diweddaraf sef 'Survive' yn sôn am fyw gyda'r cyflwr a'r seibiant yr oedd yn rhaid iddo gymryd o'i waith yn dilyn y diagnosis.

Fe wnaeth gweld ffigyrau cyhoeddus yn siarad am y cyflwr yn ogystal â'r ffilm 'I Swear' ysbrydoli Megan wrth iddi fynd i'r coleg.

"Roedd dod i'r coleg i astudio cerddoriaeth a peidio gweld unrhyw un arall gyda'r cyflwr yn gwneud i fi deimlo'n unig.

"Weles i Lewis Capaldi cwpwl o wythnosau yn ôl a roedd e'n anhygoel ac yn eitha emosiynol," meddai.

Megan yn canu fel rhan o gôr ymgyrch Tourette's Action UK Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Megan yn canu fel rhan o gôr ymgyrch Tourette's Action UK

Mae Megan wedi bod yn rhan o gôr ymgyrch Tourettes Action UK o'r enw 'Misunderstood'.

"Roedd e'n anhygoel gallu canu gyda phobl eraill sydd â'r cyflwr.

"Dwi heb neud hwnna o'r blaen a roedd e'n rhywbeth emosiynol iawn gallu rhannu'r un profiad gyda nhw.

"Mae siarad am y cyflwr wedi helpu fi'n bersonol a dwi'n gobeithio gallu helpu pobl ifanc sydd yn yr un sefyllfa â fi.

"Dyw e ddim yn neis i fyw gyda ond dydyn ni ddim am deimlo cywilydd neu siom."

Mae elusen Tourettes Action wedi darparu e-adnoddau i Niwrowahaniaeth Cymru er mwyn i bobl ddysgu mwy am y cyflwrFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae elusen Tourettes Action wedi darparu e-adnoddau i Niwrowahaniaeth Cymru er mwyn i bobl ddysgu mwy am y cyflwr

Mae Sioned Thomas yn gweithio fel Uwch Swyddog Datblygu gyda thîm Niwrowahaniaeth Cymru ac yn hynod o falch bod y ffilm yn arwain at drafodaethau pwysig.

"Dwi'n meddwl bod o'n wych bod y ffilm allan i godi ymwybyddiaeth ac i ddeall mwy am y cyflwr mewn bywyd bob dydd.

"Mae'n rhoi mewnwelediad i brofiadau personol sy'n bwysig i'w gweld ar y sgrin."

Mae'r sefydliad Niwrowahaniaeth Cymru yn cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru ac yn darparu adnoddau a chymorth i unigolion, ac i deuluoedd gyda'r cyflwr.

"Mae yna lawer o gamddealltwriaeth o beth yn union mae'r cyflwr yn ei olygu.

"Mae llawer o bobl yn ymwybodol o'r motor tics o ran y corff ac y rhai lleisiol ond yn ehangach mae'n bwysig nodi yr effaith emosiynol ar y person o ran byw gyda'r cyflwr," ychwanegodd Sioned Thomas.