Carchar am oes i ddyn am ladd gyda machete yng Nghaerdydd

Bydd Georgie Tannetta yn treulio isafswm o 22 mlynedd yn y carchar
- Cyhoeddwyd
Mae dyn 21 oed wedi cael dedfryd o oes yn y carchar am lofruddio dyn 43 oed gyda machete yng Nghaerdydd.
Cafwyd Georgie Tannetta yn euog o lofruddiaeth mewn gwrandawiad ym mis Mai.
Cafodd James Brogan, o ardal Llaneirwg, ei ddarganfod gydag anafiadau difrifol mewn eiddo ar Coleford Drive ar 12 Tachwedd 2024, a bu farw yn yr ysbyty yn ddiweddarach.
Fe wnaeth y barnwr, Daniel Williams ddisgrifio'r ymosodiad fel un "parhaus" gydag "arf ofnadwy".
Bydd Tannetta yn treulio o leiaf 22 mlynedd yn y carchar cyn bod modd ei ystyried ar gyfer parôl.
'Fel rhywbeth o ffilm arswyd'
Fe wnaeth un tyst ddisgrifio'r ymosodiad - a ddigwyddodd yng ngolau'r dydd mewn parc chwarae i blant - fel "rhywbeth o ffilm arswyd".
Fe ddefnyddiodd Tannetta'r machete - cyllell hir rhwng 12 a 15 modfedd - i drywanu James Brogan sawl tro.
Cafodd un tyst ei ganmol gan y barnwr am geisio camu mewn i rwystro Tannetta, ond dywedodd y Barnwr Williams ei fod yn syndod nad oedd unrhyw un arall wedi ymyrryd.

Dywed teulu James Brogan ei fod yn berson hael, gofalgar ac ystyriol
Clywodd y llys fod y ddau ddyn wedi ffraeo pythefnos cyn yr ymosodiad, a bod Tannetta wedi dweud wrth ffrindiau ei fod am drywanu Mr Brogan.
Roedd Mr Brogan wedi bod yn eistedd ar fainc ger mynedfa'r parc, oedd yn cael ei ddefnyddio gan blant a "dynion yn gwisgo dillad tywyll a gorchuddion wyneb".
Fe welodd Tannetta Mr Brogan ac fe aeth i ofyn i'r grŵp o ddynion am gyllell, cyn cuddio'r machete dan ei ddillad.
Dywedodd y barnwr na fyddai Mr Brogan wedi deall fod Tannetta yn fygythiad iddo tan i'r ymosodiad ddechrau.
Mewn datganiad, dywedodd merch Jamie Brogan, Sophie bod marwolaeth ei thad wedi "llorio'r teulu yn emosiynol ac yn gorfforol" a hebddo dydyn nhw "ddim yn teimlo'n ddiogel".
"Dim moment lle aeth pethau allan o reolaeth oedd hon," meddai Ms Brogan.
"Roedd yn ddewis clir, ac mae'n rhan o'r broblem ehangach o ran troseddau cyllyll."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Mai
- Cyhoeddwyd18 Rhagfyr 2024
- Cyhoeddwyd17 Tachwedd 2024