Canfod dyn yn euog o lofruddiaeth yng Nghaerdydd

Dywed teulu James Brogan ei fod yn berson hael, gofalgar ac ystyriol oedd wrth ei fodd yn gwneud iddyn nhw chwerthin
- Cyhoeddwyd
Mae dyn 20 oed wedi cael ei ganfod yn euog o drywanu dyn 43 oed i farwolaeth yng Nghaerdydd.
Fe wnaeth rheithgor yn Llys y Goron Casnewydd ganfod Georgie Tannetta, o ardal Trowbridge y brifddinas, yn euog o lofruddiaeth ddydd Iau.
Cafodd James Brogan, o ardal Llaneirwg, ei ganfod gydag anafiadau difrifol ar Coleford Drive ar 12 Tachwedd 2024, a bu farw yn yr ysbyty yn ddiweddarach.
Cafodd ei ddisgrifio gan ei deulu fel "tad balch, hael a charedig".
Bydd Tannetta yn cael ei ddedfrydu ar 27 Mehefin.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Rhagfyr 2024