Cyngor eisiau creu gwarchodfa gyntaf i afancod yn y gogledd

Gobaith y cynlluniau posib fyddai lletya teulu o afancod Ewrasiaidd
- Cyhoeddwyd
Mae cyngor yng ngogledd Cymru yn ymgynghori ar gynllun i greu gwarchodfa newydd ar gyfer afancod.
Bwriad Cyngor Sir Ddinbych yw cynnal prosiect pum mlynedd i letya teulu o afancod Ewrasiaidd mewn man diogel 24 erw.
Yn amodol ar gael trwydded gan Gyfoeth Naturiol Cymru, mae'r cyngor yn gobeithio darparu'r prosiect cyntaf ar gyfer afancod yng ngogledd Cymru, a hynny yn ardal Llanelwy.
Dywedodd y cynghorydd sy'n gyfrifol am yr amgylchedd y byddai'r cynllun yn "gam arwyddocaol yn ein gwaith i adfer rhywogaethau cynhenid, gwella bioamrywiaeth a chefnogi ecosystemau gwydn yn Sir Ddinbych".

Roedd afancod yn frodorol yng Nghymru, ond fe ddiflannodd y rhywogaeth mewn rhannau mawr o Ewrop yn sgil eu hela am eu crwyn gwerthfawr, castorewm a'u cig.
Ar ôl sawl achos o ailgyflwyno'r rhywogaeth yn llwyddiannus, mae yna bellach 1,500 o afancod yn byw ym Mhrydain - yn yr Alban a Lloegr yn bennaf.
Ar hyn o bryd mae poblogaeth fach o afancod Ewrasiaidd yn bodoli yng Nghymru, mewn mannau caeedig ac yn y gwyllt.
Mae ymgynghoriad cyhoeddus gyda chymunedau Llanelwy ynglŷn â Gwarchodfa Natur Green Gates, ger y parc busnes, wedi dechrau ers dydd Llun ac mi fydd yn bedair wythnos o hyd.
- Cyhoeddwyd2 Mai
- Cyhoeddwyd30 Mawrth 2021
Fe gyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei bod yn cefnogi symud tuag at ail-gyflwyno afancod dan reolaeth ym Medi 2024.
O dan Ddeddf yr Amgylchedd 2016, mae gan gynghorau sir ddyletswydd i "gynnal a gwella bioamrywiaeth ac, wrth wneud hynny, hyrwyddo gwytnwch ecosystemau".
Mae Cyngor Sir Ddinbych yn anelu at wella a chynnal asedau naturiol i gefnogi bioamrywiaeth a chynyddu'r cynefinoedd sydd ar gael i fywyd gwyllt, meddai llefarydd.

Dywedodd Joel Walley, Swyddog Arweiniol Ecoleg a Bioamrywiaeth y cyngor, bod afancod yn cael eu cyfeirio atynt, "yn aml, fel peirianwyr ecosystemau ac mae llawer o dystiolaeth y gall afancod gynyddu bioamrywiaeth o fewn eu hamgylchedd drwy eu hymddygiadau fforio ac adeiladu argaeau".
Esboniodd ei fod yn credu y bydd cynlluniau fel y rhai yma yn "creu cynefin gwlyptir deinamig a chyfoethog o ran rhywogaethau, gan ein helpu i gyflawni ein targedau bioamrywiaeth".
Dywedodd hefyd nad yw'n rhagweld "unrhyw effeithiau negyddol oddi ar y safle" oherwydd "lleoliad a dyluniad gofalus y man caeedig".
Dywedodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant y cyngor, fod y cynlluniau posib yn "cynrychioli cam arwyddocaol yn ein gwaith i adfer rhywogaethau cynhenid, gwella bioamrywiaeth a chefnogi ecosystemau gwydn yn Sir Ddinbych".
Dywedodd fod yr arbrawf yn "cynrychioli ein hymrwymiad hirdymor i adferiad ecolegol, ac yn darparu cyfleoedd i drigolion lleol gael gweld a dysgu am y rhywogaeth allweddol hon drostynt eu hunain".
Ond ychwanegodd mai pwrpas yr ymgynghoriad ydy "nodi unrhyw effeithiau posibl", gan addo cysylltu gyda phob tirfeddiannwr lleol yn rhan o'r broses.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.