'Gormod o bobl yn cael anafiadau diangen ar ôl torri esgyrn' - elusen
- Cyhoeddwyd
Mae angen gwneud mwy i atal pobl rhag cael anafiadau dwys ar ôl torri esgyrn, yn ôl un elusen.
Yn ôl y Gymdeithas Osteoporosis Frenhinol, mae ysbytai Cymru yn llawn cleifion gyda thoriadau cyson, gyda dau allan o bob tri chlaf yn colli allan ar gyffuriau asgwrn rhad ac effeithiol.
Wrth siarad â BBC Cymru, fe ddywedodd cleifion bod angen mwy o gefnogaeth i atal anafiadau.
Mae Llywodraeth Cymru yn gwario £1m er mwyn ariannu clinigau i gleifion dros 50 oed, gyda'r bwriad o ganfod 80% o gleifion osteoporosis erbyn 2030.
- Cyhoeddwyd20 Hydref 2022
- Cyhoeddwyd7 Ionawr
- Cyhoeddwyd7 Rhagfyr 2024
Pan dorrodd Sian Allen, 72 oed o Abertawe, rai o'i hesgyrn, roedd ganddi gwestiynau mawr am ei hadferiad a'i hiechyd.
Ar ôl iddi ddarganfod bod peryg iddi ddioddef mwy o doriadau ar ôl mynd drwy'r menopos, fe benderfynodd hi newid ei ffordd o fyw.
"Dwi wedi ymuno â grŵp pilates yn wythnosol sy'n helpu ym mhob ffordd; ystwythder, cryfhau'r esgyrn, cymdeithasu."
Ar ôl cael glun newydd, dysgodd Ms Allen fod hefyd ganddi lefelau isel o estrogen sy'n golygu bod ei siawns o dorri esgyrn pellach yn uwch neu datblygu cyflwr osteoporosis.
"Ges i ddim arweiniad o ran beth i wneud i gadw fy hunan yn iach," meddai Ms Allen.
Yn ôl y Gwasanaeth Iechyd, mae osteoporosis yn gyflwr iechyd sy'n gwanhau esgyrn, gan eu gwneud yn fregus ac yn fwy tebygol o dorri.
Mae'r cyflwr yn gallu effeithio ar unrhyw oedran ond mae menywod hyn sydd wedi bod drwy'r menopos yn wynebu mwy o berygl.
Dywedodd Sam Mitchell, sy'n 50 oed ac o Wauncaegurwen, ei bod hi hefyd yn pryderu am anafiadau yn y dyfodol wedi iddi gwympo a thorri ei phelfis ar ei gwyliau yn 2022.
Er ei bod hi'n perimenopausal pan gwympodd, a bod gan ei theulu hanes o osteoporosis, nid oedd ei gofal dilynol yn cynnwys unrhyw wiriadau o'i hesgyrn.
"Soniodd neb y gallai fod 'na broblem gyda dwysedd fy esgyrn ac efallai mai dyna pam nes i dorri asgwrn mor ddifrifol wedi cwymp mor fach."
Dywedodd ei bod yn credu y dylai profion esgyrn a chynllun i atal toriadau esgyrn gael eu cynnig i bob menyw pan fyddan nhw'n cyrraedd oedran y perimenopause.
'Iechyd esgyrn ddim yn flaenoriaeth'
Mae mwy na hanner o fenywod yn torri asgwrn ar ôl 50, meddai Prif Weithredwr y Gymdeithas Osteoporosis Frenhinol, Craig Jones.
"Mae yna feddyginiaethau da iawn all atal y toriadau hyn rhag digwydd ac maen nhw'n ddiogel ac yn effeithiol ac yn fforddiadwy iawn."
Ond nid yw'r "mwyafrif llethol" sydd angen y cyffuriau yn eu cael, meddai, ar ôl "torri asgwrn yn ddiangen".
Er hynny, meddai Mr Jones, mae ysbytai Cymru yn gweld cleifion yn dychwelyd dro ar ôl tro.
Ymatebodd yr Ysgrifennydd Iechyd Jeremy Miles y llynedd gyda £1m i dalu am 17 o staff newydd sy'n gweithio mewn clinigau arbenigol ym mhob bwrdd iechyd.
Mae Dr Shannon Rowlands yn gweithio i dîm yn Ysbyty Ystrad Fawr, Ystrad Mynach sy'n llywio'r clinigau arbenigol ac yn cynnig gwasanaethau i bobl sydd wedi torri eu hesgyrn.
"Fi'n meddwl bod iechyd esgyrn 'falle ddim wedi bod yn gymaint o flaenoriaeth dros y blynydde'," meddai Dr Rowlands.
"Yng Nghymru bob dwy funud mae rhywun yn torri asgwrn.
"Fi'n meddwl bod e'n rhywbeth sy'n gallu arwain at lot o gymhlethdodau eraill."
Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod nhw'n "deall y pryderon sy'n gysylltiedig â thorri esgyrn dro ar ôl tro" ac yn sgil hynny "wedi gosod safonau uchel" er mwyn cynnig gofal i leihau'r risg.
Ychwanegodd y llefarydd: "Yn ogystal â'r gwasanaeth Cyswllt Torri Esgyrn sy'n cael ei gyflwyno ledled Cymru, mae'r Datganiad Ansawdd ar gyfer Osteoporosis ac Iechyd Esgyrn yn nodi ein disgwyliadau ar gyfer gofal i bobl sy'n dioddef o gyflyrau esgyrn fel osteoporosis."