Arglwydd Davies yn ymddiheuro am sylwadau ar anhrefn Lloegr

Arglwydd Byron Davies
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Arglwydd Byron Davies wedi ymddiheuro ar ôl awgrymu bod "cyfiawnhad gwleidyddol" i'r terfysgoedd

  • Cyhoeddwyd

Mae ysgrifennydd yr wrthblaid dros Gymru wedi ymddiheuro ar ôl awgrymu fod "cyfiawnhad gwleidyddol" i'r terfysgoedd diweddar yn Lloegr.

Dywedodd yr Arglwydd Byron Davies o Benrhyn Gŵyr yn ei ymddiheuriad ei fod yn “condemnio’n llwyr” y trais ond ei fod yn dal i gredu fod agwedd Llafur tuag at fewnfudo a throseddau trefniadol yn “hollol negyddol”.

Cafodd y sylwadau eu gwneud mewn ymateb i bost gan y newyddiadurwr Dan Hodges ar X a ddywedodd fod "dim cyfiawnhad gwleidyddol" i'r ymosodiadau a bod unrhyw feio ar y blaid Lafur yn "hurt".

Ers hynny mae’r Arglwydd Davies wedi cael ei geryddu gan ei brif chwip a’i atgoffa o ganlyniadau camddefnydd iaith, yn ôl y Ceidwadwyr.

Fe wnaeth yr Arglwydd Davies amddiffyn ei sylwadau i ddechrau, a dywedodd fod cyfiawnhad gwleidyddol i'r ymosodiadau oherwydd bod "Llafur wedi rhwystro Cynllun Rwanda 130+ o weithiau".

Mae Cynllun Rwanda yn ymgais gan y Ceidwadwyr i anfon ymfudwyr i Rwanda i gael eu ceisiadau lloches wedi'u prosesu.

Mae'r sylwadau yn dilyn cyfres o anhrefn treisgar mewn rhannau o Loegr ers i dair merch gael eu lladd yn Southport ddydd Llun.

Mae Axel Rudakubana, 17, a gafodd ei eni yng Nghaerdydd, wedi’i gyhuddo o’r ymosodiad ond mae sïon ffug wedi lledaenu ar-lein bod y llofrudd yn geisiwr lloches a deithiodd i’r DU ar gwch.

'Annerbyniol'

Wrth bostio ar X, dywedodd Ysgrifennydd Cymru, Jo Stevens, fod sylwadau’r Arglwydd Davies yn “ffiaidd, yn gyfeiliornus ac yn beryglus”.

“Nid yw trais hiliol byth yn cael ei gyfiawnhau,” meddai.

Dywedodd llefarydd ar ran y Ceidwadwyr wrth Nation Cymru fod sylwadau’r Arglwydd Davies yn “annerbyniol” a bod prif chwip yr wrthblaid yn yr Arglwyddi yn siarad ag ef.

Pynciau cysylltiedig