Dafydd Jones: 'Dod o hyd i'r foment ddiddorol yna'

Dafydd JonesFfynhonnell y llun, Dafydd Jones
  • Cyhoeddwyd

O fagwraeth yng Nghaerfyrddin i deithio’r byd yn tynnu lluniau o’r cyfoethog a’r enwog, mae Dafydd Jones yn un o ffotograffwyr cymdeithas mwya’ blaenllaw Prydain.

Tra’n gweithio i gylchgronau fel Tatler, Vanity Fair a’r New Yorker mae ei waith mwya’ adnabyddus yn cynnwys lluniau cynnar o wleidyddion fel Boris Johnson a David Cameron ac hefyd enwogion cymdeithas Efrog Newydd fel Donald Trump a’i deulu mewn partïon a digwyddiadau cymdeithasol.

Bu’n siarad gyda Cymru Fyw am ei wreiddiau yng Nghymru a’i yrfa.

Meddai am ei lwyddiant fel ffotograffydd sy’ wedi dal cipolwg ar bobl enwog yn ddiarwybod iddynt: “Mae gen i ddiddordeb mewn pobl ond dwi hefyd yn lowkey a dydw i ddim yn gosod lluniau. Mae pobl yn parchu'r ffordd dw i'n tynnu lluniau.

“Erbyn diwedd yr 80au roedd fy lluniau yn ymddangos bob mis yn Tatler ac o’n i’n eithaf adnabyddus a byddai pobl yn dechrau actio i fyny ychydig o flaen fi a fy nghamera.

"Pan es i i Efrog Newydd roedd yn wych bod pobl ddim yn sylweddoli mod i yno oherwydd o’n i’n gallu dechrau eto o'r newydd a doedd pobl ddim yn gwybod pwy oeddwn i.

“Dwi'n hoffi tynnu lluniau a dod o hyd i'r foment ddiddorol honno.”

Gwaith cynnar

Mae’r ffotograffydd yn fwyaf enwog am ei waith cynnar yn tynnu lluniau o fyfyrwyr breintiedig Rhydychen a Chaergrawnt ar gychwyn yr 1980au.

Mae ei gasgliad Bright Young Things yn cynnwys lluniau o nifer o bobl sy’ erbyn hyn wedi cyrraedd y rheng uchaf yn y llywodraeth, mewn byd busnes ac yn y cyfryngau. Mae’r lluniau yn gipolwg ar fywyd cymdeithasol gwyllt rai o fyfyrwyr mwya’ cyfoethog y brifysgol.

Ffynhonnell y llun, ACC Art books /Dafydd Jones

Yn ôl Dafydd, dyma oedd cychwyn ei yrfa: “Ches i erioed ganiatâd i dynnu lluniau o'r Clwb Bullingdon (grŵp elitaidd o ddynion ym mhrifysgol Rhydychen oedd yn cynnwys Boris Johnson a David Cameron fel cyn-aelodau) ond fe wnes i luniau eraill o'r un bobl. Roedd yr un bobl yn mynd i wahanol bartïon (lle oedd Dafydd yn tynnu lluniau).

“Fe helpodd fi i gychwyn fy ngyrfa. Roedd gan The Sunday Times gystadleuaeth ar gyfer ffotograffwyr ifanc ac oedd llawer wedi cystadlu, a'r wobr oedd cael gweithio i'r Sunday Times.

“Wnes i ddim ennill ond roeddwn i’n ail ac roedd fy lluniau’n cael eu cyhoeddi yn y papur a dyna wnaeth arwain at Tina Brown (golygydd The New Yorker) yn cynnig swydd i mi.

“Felly dyna’r effaith gafodd lluniau Rhydychen ar fy ngyrfa.”

Efrog Newydd

Mae gan Dafydd lyfr newydd o’i luniau gorau o’i gyfnod yn Efrog Newydd, sef New York: High Life/Low Life.

Ffynhonnell y llun, ACC Art books / Dafydd Jones

Meddai am ei gyfnod yn gweithio yno i’r New Yorker: “Ro’wn i’n cael fy anfon i dynnu lluniau o'r digwyddiadau mawr. Fy ffordd i o weithio oedd dilyn fy nhrwyn a thynnu lluniau o bethau oedd yn fy nharo i neu oedd yn gweithio’n dda fel delweddau.

“Y peth dyw pobl ddim yn sylweddoli am ffotograffiaeth yw bod llawer ohono'n cael ei gomisiynu - nid mynd i Efrog Newydd i grwydro o gwmpas yn cymryd lluniau oeddwn i.

“Mae’r lluniau’n dangos pethau o’n i wedi gweld o fewn munudau i’w gilydd – pethau sy’n neidio allan ata’i.

“Dwi’n cofio mynd i barti yng nghaffi Harley Davidson a thynnu llun o ddyn yno oedd yn edrych yn fleiddaidd - Jeffrey Epstein oedd e. Mae’n ddiddorol fod e wedi sefyll allan mewn parti lle oedd 200 neu 300 o bobl.”

Er fod nifer o’i luniau yn dangos pobl yn mwynhau a ddim yn ymwybodol fod ffotograffydd yn tynnu llun ohonynt, mae Dafydd yn dweud nad yw’n aml yn cael ceisiadau i beidio dangos y lluniau.

Meddai am ei luniau o Boris Johnson a David Cameron: “Dyw nhw ddim wedi gofyn i fi dynnu’r lluniau i lawr, dwi'n meddwl bod nhw’n hoffi nhw. Mae pobl yn mynd trwy gyfnodau ac mae'r genhedlaeth newydd nawr yn fwy paranoid ynglŷn â sut maen nhw'n ymddangos mewn lluniau ac efallai'n gwrthwynebu cael eu lluniau wedi eu tynnu.

“Dwi'n meddwl bod hi’n drueni pan fydd pobl yn poeni am luniau o’u hunain, dwi ddim wedi cael fy ngofyn i dynnu unrhyw un o'r lluniau Rhydychen na Efrog Newydd i lawr.”

Magwraeth

Wedi cyfnodau yn byw yn y Felinheli, Sanclêr ac wedyn Caerfyrddin, symudodd Dafydd i Rydychen yn 10 mlwydd oed ar ôl mynychu ysgol eglwys yng Nghaerfyrddin, sef Priory Street School.

Roedd ei dad, Glyn, yn syrfëwr o Bont-Y-Garth ger Llanrwst ac mae Dafydd yn cofio’r teulu yng ngogledd Cymru yn siarad Cymraeg er nad yw e’n medru siarad yr iaith. Roedd ei fam Elsie yn dod o Swydd Efrog ac roedd ei thad hi’n löwr o Rosllanerchrugog.

Er fod gyrfa Dafydd wedi ei gymryd ymhell o’i wreiddiau, mae’n credu fod ei ochr Gymreig wedi ei helpu yn ei yrfa.

Meddai gan chwerthin: “Mae’n bosib fod fy ochr Cymreig, piwritanaidd wedi helpu.

“Wnaeth e ddim fy helpu i gael mynediad i’r bobl yma – ond efallai mai’r peth capel yw e, roedd fy ochr biwritanaidd efallai wedi cadw fy nhraed ar y ddaear. O’n i’n gweld ffotograffwyr a newyddiadurwyr eraill yn yfed gormod ond fe wnes i gadw fy mhen a pheidio â dechrau meddwl mod i’n ran o’r parti.”

Mae Glyn, tad Dafydd, yn ei 90au erbyn hyn ond fe fynychodd yr Eisteddfod yn Llanrwst gyda’i fab yn 2019. Yn ôl Dafydd, mae Glyn yn ddrwgdybus iawn o’r dosbarth uwch yn Lloegr oherwydd ei ymwybyddiaeth o greulondeb perchnogion y chwareli llechi lle oedd taid Glyn, sef Elias Roberts, wedi gweithio.

Ydy’r drwgdybiaeth yma wedi dylanwadu ei fab sy’ wedi treulio’i fywyd yn tynnu lluniau o haenau uchaf y gymdeithas?

Meddai Dafydd: “Dwi’n credu ei fod wedi dylanwadu fi ychydig – yn dod o’i genhedlaeth e roedd yn ddrwgdybus iawn o Almaenwyr achos y rhyfel ac hefyd y dosbarthiadau uwch Seisnig.

“Nes i ni gael gwyliau teulu yn Llanrwst ac ymweld â rhai o’r chwareli llechi pan wnaeth Dad gychwyn siarad am pa mor wael oedden nhw wedi eu trin ac ‘nes i sylweddoli o ble oedd y drwgdybiaeth wedi dod.

“Gan mod i wedi mynd i’r ysgol yn Rhydychen roedd gen i agwedd mwy agored tuag atynt.

“Mae gen i feddwl agored a dwi’n gweld rhai o’u eccentricities nhw’n ddoniol ac hefyd mae dirywiad wedi bod yn statws y dosbarth uwch erbyn hyn."

Pynciau cysylltiedig