Elfyn Evans yn siarad Cymraeg yn unig gyda'r wasg fel rhan o brotest

Elfyn EvansFfynhonnell y llun, EPA-EFE/REX/Shutterstock
Disgrifiad o’r llun,

Mae Elfyn Evans ar frig Pencampwriaeth Rali'r Byd ar hyn o bryd

  • Cyhoeddwyd

Mae Elfyn Evans wedi bod yn siarad Cymraeg yn unig gyda'r wasg fel rhan o brotest gan yrwyr rali yn erbyn dirwyon mawr am regi.

Yn eu cyfweliadau ar ddiwedd Rali Safari Kenya ym Mhencampwriaeth Rali'r Byd yr wythnos hon, roedd gyrwyr wedi dewis siarad yn eu mamiaith neu aros yn dawel.

Daw'r brotest ar ôl i'r gyrrwr Ffrengig o dîm Hyundai, Adrien Fourmaux, gael dirwy o €10,000 - gyda €20,000 arall wedi ei ohirio - gan gorff llywodraethu'r FIA am regi mewn cyfweliad teledu ar ddiwedd rali yn Sweden.

Yn siarad ar ddiwedd cymal dydd Gwener, dywedodd Elfyn Evans: "Mae'n ddrwg gen i, fydd 'ne ddim lot yn cael ei ddweud y penwythnos yma fel dwi'n siŵr 'da chi wedi deall erbyn hyn."

Dywedodd llefarydd ar ran yr FIA eu bod nhw, "fel llawer o gyrff llywodraethu chwaraeon rhyngwladol eraill, yn cynnal cod ymddygiad sy'n nodi'r hyn yr ydym yn ei ddisgwyl gan yrwyr a'u timau".

Elfyn EvansFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Elfyn Evans yn cystadlu yn Rali Safari Kenya

Ychwanegodd y llefarydd: "Mae cefnogwyr ifanc yn edrych i fyny at yrwyr ac maen nhw'n cynrychioli'r gamp ar draws y byd.

"Mae'r modd y mae gyrwyr yn ymddwyn mewn digwyddiadau yn bwysig iawn."

Mae WoRDA, corff sydd wedi ei sefydlu gan y gyrwyr, yn awgrymu bod y dirwyon yn rhy ddifrifol.

"Rydyn ni gyd yn cytuno i drio peidio bod yn ddigywilydd wrth wneud cyfweliadau," meddai'r corff.

"Ond ar yr un pryd, mae angen cadw rhyddid mynegiant a chadw emosiynau'n fyw heb i yrwyr orfod ofni cael eu cosbi mewn unrhyw ffordd."

Pynciau cysylltiedig