Cynghorydd wedi gwneud sylwadau caethwasiaeth hiliol - ombwdsman

Fe wnaeth Andrew Edwards ymddiswyddo ar ôl i'r recordiad ddod i'r amlwg
- Cyhoeddwyd
Mae ymchwiliad ombwdsman wedi canfod bod cyn-gynghorydd yn Sir Benfro wedi gwneud sylwadau hiliol mewn recordiad.
Roedd gwleidyddion eraill wedi adnabod llais Andrew Edwards ar recordiad o rywun yn gwneud sylwadau hiliol ynghylch caethwasiaeth.
Dywedodd Mr Edwards - a oedd yn cynrychioli ward Prendergast Hwlffordd cyn ymddiswyddo ym mis Rhagfyr 2024 - wrth Ombwdsman Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru bod y recordiad yn un ffug - "deep fake".
Ond fe wnaeth "yr ymchwiliad ganfod, yn ôl pob tebyg, mai llais y cyn-gynghorydd oedd yn cael ei glywed ar y recordiad".
- Cyhoeddwyd13 Ebrill 2023
- Cyhoeddwyd12 Ebrill 2023
Ar y recordiad 16 eiliad, mae'r siaradwr i'w glywed yn dweud: "Dwi'n meddwl y dylai pob dyn gwyn gael dyn du fel caethwas neu fenyw ddu fel caethwas.
"Does dim byd o'i le ar liw y croen, dim ond eu bod nhw'n ddosbarth is na ni bobl wyn, chi'n gwybod."
Fe wnaeth y cyn-gynghorydd Ceidwadol gyfeirio ei hun at yr ombwdsman.

Roedd Mr Edwards yn gynghorydd Ceidwadol yn cynrychioli ward Prendergast yn Hwlffordd
Yn ei hadroddiad, dywedodd yr ombwdsman Michelle Morris ei fod yn debyg mai llais Mr Edwards oedd ar y recordiad, a'i fod wedi'i anfon fel nodyn llais at ei bartner trwy WhatsApp.
"Roedd cynnwys y nodyn llais yn cael ei ystyried yn hiliol," ysgrifennodd.
Fe wnaeth Mr Edwards gyfaddef iddo rannu gwybodaeth am fusnes y cyngor a gwneud sylwadau amharchus am aelodau'r cyhoedd trwy WhatsApp gyda'i bartner.
Eglurodd ei fod dan bwysau personol ar y pryd.
Canfu Ms Morris y gallai ei ymddygiad "danseilio'n ddifrifol hyder y cyhoedd yn y cyngor".
Cyfeiriodd y mater at Banel Dyfarnu Cymru, sy'n ystyried achosion honedig o dorri codau ymddygiad awdurdodau lleol.