Teyrngedau i ddau ddyn ifanc wedi gwrthdrawiad beic modur

Bu Adam Watkiss-Thomas (chwith) ac Owen Aaran Jones (dde) mewn gwrthdrawiad nos Wener
- Cyhoeddwyd
Mae teuluoedd wedi rhoi teyrngedau i ddau ddyn ifanc fu farw mewn gwrthdrawiad beic modur yn Wrecsam nos Wener.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r gwrthdrawiad ar Ffordd Wrecsam, New Broughton toc cyn 23:00.
Bu farw Adam Watkiss-Thomas, 18 oed, ac Owen Aaran Jones, 19 oed, y ddau o Wrecsam ar ôl cael eu cludo i'r ysbyty.
Roedd y ddau wedi bod yn teithio ar feic modur Honda melyn.
- Cyhoeddwyd3 o ddyddiau yn ôl
Dywedodd teulu Owen Aaran Jones ei fod yn fachgen "poblogaidd" oedd â "gwen a allai oleuo ystafell".
Dywedon nhw: "Roedd ei ffrindiau a'i deulu yn adnabod Owen fel y person mwyaf doniol a chariadus iddyn nhw erioed gyfarfod."
"Bydd colli Owen fel mab, brawd, tad a ffrind, wir yn gadael bwlch yn ein calonnau i gyd."
Wrth roi teyrnged i Adam Watkiss-Thomas, dywedodd ei deulu: "Roedden ni i gyd yn ei garu gymaint, a bydd yn gadael gwagle enfawr yn ein calonnau."
"Roedd yn fachgen golygus, galluog a doniol" a "gwnaeth yn siŵr ei fod yn gofalu am ei frodyr a'i chwiorydd".
Ychwanegon nhw y bydden nhw "yn gweld ei eisiau yn fawr".
"Roedd yn fachgen poblogaidd ac roedd ganddo lawer o ffrindiau oedd yn ei garu.
"Roedd yn gwbl unigryw."

Roedd y ffordd rhwng lôn Coed Efa a Dale Road yn New Broughton ar gau tan fore Sadwrn
Mae'r heddlu'n parhau i apelio am dystion i'r digwyddiad ar 21 Mawrth.
Dywedodd y Sarjant Katie Davies o Heddlu Gogledd Cymru y dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth allai fod o gymorth gysylltu gyda nhw drwy'r wefan neu drwy alw 101.