Carwyn Eckley yn ennill Cadair yr Eisteddfod Genedlaethol

Disgrifiad,

Carwyn Eckley yn siarad â Cymru Fyw ar ôl ennill y Gadair

  • Cyhoeddwyd

Carwyn Eckley sydd wedi ennill Cadair Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf.

Yn un o’r ieuengaf i ennill y Gadair, ag yntau'n 28 oed, mae ei gyfres o 12 cerdd yn hynod bersonol ac yn ymateb i’r profiad o golli’i dad pan oedd yn blentyn ifanc.

Daw Carwyn o Benygroes yn Nyffryn Nantlle, ac mae bellach yn byw yng Nghaerdydd.

Roedd hi'n gystadleuaeth agos iawn, gydag un o’r beirniaid yn ffafrio cadeirio ymgeisydd arall, ond casgliad Carwyn Eckley - dan y ffugenw Brynmair - aeth â hi.

Dywedodd un o'r beirniaid ei bod yn "chwerw-felys i feddwl y byddai tad Brynmair wrth ei fodd yn cael gwybod bod ei fab am eistedd yn y Gadair ym Mhontypridd".

Roedd y Gadair eleni yn cael ei chyflwyno am awdl neu gasgliad o gerddi mewn cynghanedd gyflawn ar fwy nag un o’r mesurau traddodiadol, hyd at 250 o linellau, ar y teitl Cadwyn.

Y beirniaid oedd Aneirin Karadog, Huw Meirion Edwards a Dylan Foster Evans.

Pwy ydy Carwyn Eckley?

Daw Carwyn Eckley o Benygroes, Dyffryn Nantlle, ond mae bellach yn byw yng Nghaerdydd gyda’i bartner Siân a’u ci, Bleddyn.

Mae’n gweithio fel newyddiadurwr gydag adran Gymraeg ITV Cymru, sy’n cynhyrchu rhaglenni Y Byd ar Bedwar a’r Byd yn ei Le.

Dechreuodd ymddiddori mewn barddoniaeth dan arweiniad Eleri Owen yn Ysgol Dyffryn Nantlle, cyn iddo fynd ymlaen i astudio Cymraeg Proffesiynol ym Mhrifysgol Aberystwyth a dysgu i gynganeddu mewn gwersi gydag Eurig Salisbury.

Enillodd y Gadair Ryng-golegol yn ei drydedd flwyddyn yno, cyn ennill Cadair yr Urdd yn 2020-21.

Mae’n aelod o dîm Talwrn y Beirdd Dros yr Aber o Gaernarfon, sydd wedi ennill y gyfres bedair gwaith.

Mae’n ddiolchgar iawn i’r tri aelod arall - Rhys Iorwerth, Iwan Rhys a Marged Tudur - am eu cefnogaeth, ac yn enwedig i Rhys Iorwerth sydd wedi bod yn athro barddol iddo.

Tu hwnt i ysgrifennu, pêl-droed yw un o’i brif ddiddordebau, ac mae’n aelod o Glwb Cymric yng Nghaerdydd.

Ffynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol

Yn ei feirniadaeth dywed Huw Meirion Edwards: “Ymateb y mae’r bardd i’r profiad dirdynnol o golli ei dad yn dilyn gwaeledd yn ystod haf 2002, ac yntau ar y pryd yn blentyn ifanc.

"Mae dau ddegawd o alar ac o geisio dygymod â’r golled wedi eu distyllu i’r cerddi cynnil teimladwy hyn.

"Mae’r canu’n dwyllodrus o syml, bron yn foel mewn mannau, a’r dilyniant yn magu grym wrth fynd rhagddo.

"Mae yma ddryswch, ing, euogrwydd, dirnad a dygymod graddol, cariad a gobaith – teyrnged, hefyd, i dad a mam a llystad – ond mae’r cyfan wedi ei fynegi yn ddiriaethol dynn."

Ychwanegodd Dylan Foster Evans: “Rydym yng nghwmni bardd arbennig yma, a bydd y cerddi hyn yn aros yn fy nghof am amser maith.”

'Byddai tad Brynmair wrth ei fodd'

Dywedodd Aneirin Karadog: "Mae’r golled, a’r ymgiprys â cheisio dal gafael ar atgofion, ceisio ffoi rhagddyn nhw weithiau gan eu bod yn dod â phoen galar gyda nhw, yn cael ei dwysáu drwy ganu moel y cerddi hyn a’r absenoldeb a deimlir o gerdd i gerdd hefyd yn cael ei deimlo yn yr arddull.

“Mae Brynmair yn llwyddo i gyfleu trymder galar, anobaith llwyr galar, dagrau galar, a’r orfodaeth i gario galar ym mhobman gyda ni ac yna hefyd geisio cysuro ein cyd-alarwyr, a hynny drwy fod yn ddethol ac yn foel ei fynegiant.

"Mae’n llwyddo i ganfod y geiriau iawn sy’n rhoi mynegiant i ugain mlynedd o gario galar plentyn, arddegyn ac oedolyn gydag e.

"Mae’n chwerw-felys i feddwl y byddai tad Brynmair wrth ei fodd yn cael gwybod bod ei fab am eistedd yn y Gadair ym Mhontypridd.”