Gorchymyn ysbyty i fachgen, 15, am geisio llofruddio merch

Gorsaf trên TregatwgFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y ferch ei thrywanu yng ngorsaf Tregatwg yn Y Barri ar 27 Ionawr

  • Cyhoeddwyd

Mae bachgen 15 oed wedi cael gorchymyn ysbyty ar ôl ceisio lladd merch mewn gorsaf drenau yn Y Barri.

Roedd y bachgen, o ardal Caerdydd, wedi'i gyhuddo o ddenu'r ferch i'r orsaf i werthu vape cyn ei thrywanu yn ei chefn gyda chyllell yn Nhregatwg ym mis Ionawr.

Fe dreuliodd y ferch wythnos yn yr ysbyty ar ôl yr ymosodiad. Roedd ganddi glwyf 4cm ar ochr dde ei chefn ac roedd ei haren dde wedi'i dadleoli.

Cafodd y bachgen - nad oes modd ei enwi am resymau cyfreithiol - ei arestio drannoeth.

Cafodd y bachgen ei gyhuddo o geisio llofruddio, bod â chyllell yn ei feddiant mewn man cyhoeddus, a cheisio gwyrdroi cwrs cyfiawnder.

Y ferch 'yn mynd i farw heddiw'

Dywedodd yr erlynydd Alexander Greenwood wrth y rheithgor fod y "dyn ifanc yn dioddef gydag anabledd meddyliol" ac nad oedd yn addas iddo sefyll ei brawf yn y modd arferol.

Ychwanegodd "na allai gymryd rhan yn yr achos, ond mae'n eistedd yn ystafell y llys".

Roedd gofyn i'r rheithgor benderfynu a oedd y bachgen wedi cyflawni'r troseddau,

Clywodd yr achos yn Llys y Goron Merthyr Tudful bod y bachgen wedi cyfaddef ymosod ar y ferch mewn negeseuon at ei ffrindiau.

Mewn negeseuon cyn y digwyddiad, roedd y bachgen wedi dweud bod y ferch "yn mynd i farw heddiw", a'i fod am ei thrywanu.

Canfu'r rheithgor ei fod wedi ceisio llofruddio'r ferch, bod ganddo gyllell yn ei feddiant a'i fod wedi ceisio gwyrdroi cwrs cyfiawnder.

Dywedodd y Barnwr Jeremy Jenkins ei fod yn fodlon - o ystyried holl amgylchiadau'r achos a chefndir y diffynnydd - fod gorchymyn ysbyty yn briodol.

Cafodd y bachgen orchymyn ysbyty dan y Ddeddf Iechyd Meddwl.

Pynciau cysylltiedig