Nic Parry 'ddim am adael i straeon negyddol danseilio gwaith caled'

Daeth cadarnhad ddydd Iau mai Nic Parry sy'n olynu Ashok Ahir fel Llywydd y Llys a chadeirydd Bwrdd Rheoli'r sefydliad
- Cyhoeddwyd
Mae llywydd nesaf y corff sy'n llywodraethu'r Eisteddfod Genedlaethol yn dweud nad yw am adael i straeon negyddol sy'n codi o gylch yr ŵyl a'r sefydliad danseilio'r holl waith caled sydd ynghlwm â'r brifwyl.
Dywed Nic Parry ei fod yn awyddus i'r Eisteddfod fod mor dryloyw â phosib, ond bod adegau'n codi pan nad yw'n bosib i rannu gwybodaeth.
Mae hefyd wedi pwysleisio pwysigrwydd gwarchod rheol Gymraeg y brifwyl, gan rybuddio rhag "gad'el y diferyn cyntaf o ddŵr drwy'r argae".
Daeth cadarnhad ddydd Iau mai Mr Parry gafodd ei ethol, yn dilyn proses recriwtio allanol, i olynu Ashok Ahir fel Llywydd Llys yr Eisteddfod Genedlaethol a chadeirydd Bwrdd Rheoli'r sefydliad.
- Cyhoeddwyd1 diwrnod yn ôl
- Cyhoeddwyd1 diwrnod yn ôl
Mae'r Eisteddfod wedi wynebu sawl her o fewn y flwyddyn ddiwethaf, gan gynnwys ffrae dros atal seremoni'r Fedal Ddrama yn ddirybudd y llynedd.
Roedd rhai hefyd yn anfodlon gyda'r ffordd y cyhoeddodd Llys yr Eisteddfod benderfyniad i i ddiarddel Huw Edwards o Orsedd Cymru wedi i'r darlledwr gyfaddef mewn llys i gyhuddiadau o greu lluniau anweddus o blant.
Ddydd Gwener fe gafodd trefn cyfarfodydd Llys yr Eisteddfod ei beirniadu gan gyn-enillydd prif wobrau llenyddol y brifwyl, Dylan Iorwerth.
Dywedodd Nic Parry ar raglen Dros Frecwast ei fod "eisio bod yn arweinydd ar gorff sy'n dryloyw [y] mae pobl yn ymddiried ynddo fo" ond bod adegau'n codi "pan gewch chi ddim rhannu gwybodaeth".
"Mae hynny yn gallu bod oherwydd pryder am les staff, cystadleuwyr, beirniaid - bob math o resyme...
"Ond mae o yn bwysig, dwi yn cytuno, bod gymaint o wybodaeth â sy'n bosib yn ca'l ei rannu."
'Methu atal neb rhag pigo crachen'
Aeth Nic Parry ymlaen i egluro nad oedd yng nghyfarfod y Llys ar faes yr Eisteddfod ddydd Iau, pan gafodd ei etholiad fel Llywydd ei gadarnhau, gan ei fod yn arwain seremoni'r Fedal Ddrama ar lwyfan y Pafiliwn tua'r un pryd.
Fe gododd dadl yn sgil y penderfyniad i atal cystadleuaeth y Fedal y llynedd "er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth â deddfwriaeth gwlad".
Dywedodd Nic Parry: "Mae byd y ddrama wedi ymateb mewn ffor' sy' 'di rhoi'r byd hwnnw mewn gole mor, mor bositif.

Nic Parry ar lwyfan Pafiliwn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam yn arwain seremoni'r Fedal Ddrama brynhawn Iau
"Wrth gwrs, mae'r grachen yma yn mynd i gael ei phigo - allwn ni ddim atal neb rhag pigo crachen.
"Ond 'dan ni ddim yn mynd i ganiatáu i hyn dynnu oddi wrth be' oedd ddoe yn seremoni wefreiddiol o hapus a phositif, a mae'n bwysig bo' ni yn tanlinellu hynny.
"Dwi'n mynd i 'neud yn sicr nad ydi straeon negyddol yn mynd i danseilio y sylw ma' gwaith positif gweithwyr caled wedi'i greu."
- Cyhoeddwyd1 diwrnod yn ôl
- Cyhoeddwyd13 Awst 2024
Fe gododd ffrae arall yn 2023 pan ddywedodd y rapiwr dwyieithog Sage Todz na fyddai'n perfformio yn Maes B y flwyddyn honno gan fod penaethiaid y brifwyl wedi dweud wrtho bod gormod o Saesneg yn ei ganeuon.
Dywedodd Nic Parry mai "camddealltwriaeth ydi petha' fel 'na", gan ychwanegu: "Os 'dach chi'n gad'el y diferyn cyntaf o ddŵr drwy'r argae, yna mae'r llif yn mynd i ddod.
"Mae'n ddigon hawdd d'eud 'O, gad i fo, ga'n ni un gân fel hyn, neu fel arall...'. Mae'n rheol syml - mae rheol Gymraeg. Peidiwch ymyrryd efo hi.
"A fel 'dan ni'n gweld yn Maes B, dydi o ddim am eiliad yn golygu na all y Gymry newydd, y bobl sy'n 15 ac i fyny, ddim mwynhau eu Cymreictod - gymaint ohonyn nhw sydd ddim yn siarad Cymraeg a ma'n nhw'n ei morio hi."
'Dydy'r Gymraeg ddim yn rhwystr'
Ychwanegodd bod gwarchod y rheol Gymraeg yn un o egwyddorion sylfaenol yr Eisteddfod.
"Dydi'r iaith ddim yn dramgwydd. Dyna'r gwir amdani. A ma'r bobl 'dach chi'n gweld ar y Maes a'r mwynhad ma' nhw'n ei ga'l yn profi hynny.
"Ma' nhw'n dod - dydi'r Gymraeg ddim yn cadw nhw draw a pan ma'n nhw yma dyw'r Gymraeg ddim yn eu hatal nhw rhag mwynhau eu hunain.
"Ond dwi 'di siarad efo gymaint o bobl sydd 'di d'eud 'Ma' clywed y Gymraeg yn fendigedig'. Peth positif ydi o - dydi o ddim yn rhwystr."