Y ci arbennig sydd wedi cipio gwobr Anifail y Flwyddyn

Henry , y ci arbennig, sydd wedi ennill gwobr Anifail y Flwyddyn. Mae ganddo bel yn ei geg tra'n rhedeg drwy'r gwair uchel.
Disgrifiad o’r llun,

Mae Henry wedi cael ei enwi'n Anifail y Flwyddyn yn seremoni Cronfa Ryngwladol dros Les Anifeiliaid

  • Cyhoeddwyd

Mae "ci arbennig" sy'n cael ei ddefnyddio gan yr heddlu a chyrff cadwraeth am ei synnwyr arogli rhagorol wedi ei goroni'n Anifail y Flwyddyn mewn seremoni wobrwyo ryngwladol.

Mae Henry, sy'n llamgi (springer spaniel) 10 oed, yn cael ei hyfforddi i ddefnyddio ei synhwyrau i achub bywyd gwyllt gan ei berchennog Louise Wilson o Conservation K9 Consultancy yn Wrecsam.

Cafodd Henry ei achub gan Louise pan oedd yn wyth mis oed, ar ôl iddo gael ei hel o bum cartref gwahanol oherwydd ei natur egnïol.

Cafodd sgiliau synhwyrol anhygoel Henry eu cydnabod yn seremoni Cronfa Ryngwladol dros Les Anifeiliaid (IFAW) ar 16 Hydref.

Henry, y ci arbennig, a'i berchennog Louise Wilson yn eistedd ar y gwair.
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Henry ei achub gan Louise Wilson pan oedd yn wyth mis oed

Dywedodd Louise Wilson fod gan Henry "gymaint o egni a brwdfrydedd, ac ar ôl i ni ei hyfforddi roedden ni'n gallu rhoi ffocws iddo, ac mae'r pwrpas a'r brwdfrydedd hwnnw wedi bod yn ffordd wych o sianelu'r egni afreolus yna".

Mae Louise wedi gweithio ledled y byd gyda chŵn sy'n canfod arfau tân, ffrwydron a thybaco.

Ond mae Henry yn un o nifer cynyddol o gŵn canfod cadwraeth, sy'n cael eu hyfforddi i ddod o hyd i rywogaethau amrywiol i'w hamddiffyn neu i helpu i ddatrys troseddau.

Bellach gall Henry ganfod saith arogl - sy'n amrywio o ganfod adar ysglyfaethus i ddraenogod - gan amddiffyn bywyd gwyllt a helpu'r heddlu i ddal troseddwyr sy'n lladd neu'n dwyn adar ysglyfaethus.

Henry yn seremoni Cronfa Ryngwladol dros Les AnifeiliaidFfynhonnell y llun, IFAW
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd sgiliau synhwyrol anhygoel Henry eu cydnabod yn seremoni Cronfa Ryngwladol dros Les Anifeiliaid ar 16 Hydref

Er nad yw Henry yn gi heddlu, mae ei waith wedi bod yn amhrisiadwy i'r Uned Troseddau Bywyd Gwyllt yn eu brwydr yn erbyn erlid adar ysglyfaethus fel y boncath glas.

Dywedodd y Ditectif Arolygydd Mark Harrison: "Yr hyn rydyn ni'n chwilio amdano yw tystiolaeth.

"Os ydyn ni'n canfod dim, mae'r ymchwiliad yn dod i ben.

"Mae'r lefel o ganfod tystiolaeth yn fwy na 90% yn uwch wrth ddefnyddio ci."

'Amser, amynedd, ymroddiad'

O ganlyniad, mae Henry wedi cael ei enwi'n Anifail y Flwyddyn.

Yn ôl cyflwynydd y noson wobrwyo, Michaela Strachan, mae Henry yn enillydd haeddiannol.

"Mae'n gi arbennig! Mae hyfforddi ci fel Henry i wneud y gwaith mae'n ei wneud yn gofyn am amser, amynedd, ymroddiad a phenderfyniad."

Felly mae'n credu bod Louise yr un mor haeddiannol o'r wobr â Henry.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.