Chwe 'datganiad digwyddiad difrifol' am Gadeirlan Bangor

Cadeirlan Bangor
  • Cyhoeddwyd

Ar ôl cyhoeddi crynodebau adroddiadau beirniadol am Gadeirlan Bangor, mae wedi dod i'r amlwg bod chwe datganiad digwyddiad difrifol wedi eu gwneud i'r Comisiwn Elusennau ynghylch yr Eglwys Gadeiriol.

Roedd pedwar o'r datganiadau yn ymwneud â diogelu, gyda'r ddau arall ynghylch materion ariannol.

Cafodd y penderfyniad i wneud y datganiad diweddaraf ei gymryd ddydd Llun.

Mewn datganiad, diolchodd Archesgob Cymru ac Esgob Bangor, y Parchedicaf Andrew John, i Gabidwl (chapter) y Gadeirlan am gymryd "gymryd y camau angenrheidiol i ddod â newid parhaol".

Mae rhaglen Newyddion S4C ar ddeall hefyd i aelodau cymuned y Gadeirlan wneud cwyn i'r Comisiwn Elusennau ym mis Hydref y llynedd, gan restru dwsinau o bryderon am y Gadeirlan a'r Esgobaeth.

Ymatebodd y Comisiwn Elusennau gan ddweud y bydden nhw'n argymell gwelliannau i'r elusennau perthnasol.

Beth yw'r cefndir?

Yn gynharach fis yma cyhoeddwyd crynodebau dau adroddiad ar wefan yr Eglwys yng Nghymru oedd yn amlinellu cwynion am "ddiwylliant lle'r oedd cymylu ffiniau rhywiol", alcohol yn cael ei yfed i ormodedd a rheolau ariannol yn wan.

Ymddiheurodd Andrew John ddydd Gwener i "unrhyw aelodau o gymuned y Gadeirlan sydd wedi cael eu brifo, neu sy'n teimlo fy mod wedi eu gadael i lawr".

Mae'r Eglwys yng Nghymru wedi ffurfio grŵp gweithredu fydd yn gweithredu argymhellion yr adroddiadau a bwrdd goruchwylio fydd yn cynnig craffu ar y gwaith hwnnw.

Ddydd Mawrth, cyhoeddwyd cylch gorchwyl y grŵp gweithredu a'r bwrdd goruchwylio ar wefan yr Eglwys.

Mewn datganiad yn cyhoeddi crynodebau'r adroddiadau, dywedodd Andrew John y byddai'n "ymrwymo i'r gwaith o drwsio, ailadeiladu ymddiriedaeth a chreu diwylliant iachach gyda'n gilydd".

Andrew John
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Andrew John y byddai'n "ymrwymo i'r gwaith o drwsio, ailadeiladu ymddiriedaeth a chreu diwylliant iachach gyda'n gilydd"

Wedi i Newyddion S4C ddweud wrth yr Eglwys yng Nghymru eu bod yn deall i'r Comisiwn Elusennau ymchwilio i faterion yn gysylltiedig â'r Gadeirlan yn dilyn cwyn, cafodd y gyfres o ddatganiadau digwyddiad difrifol eu cyhoeddi.

Adroddiad i'r Comisiwn Elusennau yw datganiad digwyddiad difrifol sy'n amlinellu digwyddiad gwael sydd wedi achosi neu sydd yn peryglu gwneud niwed neu golled i elusen.

Mae'n ddyletswydd gyfreithiol ar bob elusen gofrestredig.

Ar wahân i'r datganiadau hynny, fe wnaeth achwynwyr gysylltu â'r Comisiwn Elusennau yn hwyr y llynedd, gan amlinellu dwsinau o gwynion am reolaeth a rheolaeth ariannol y Gadeirlan.

Ymysg y cwynion oedd pryderon am symiau mawr o arian yr Esgobaeth yn cael eu gwario ar faterion y Gadeirlan, gyda'r cwynwyr yn dweud bod hynny yn amhriodol gan fod y ddau sefydliad yn elusennau ar wahân.

Cafwyd cwynion hefyd am ordeinio offeiriad yn erbyn argymhelliad y panel dirnadaeth - sy'n argymell a ddylai unigolion ddod yn offeiriaid ai peidio - a ddaeth wedyn yn swyddog yn y Gadeirlan.

Cadeirlan Bangor
Disgrifiad o’r llun,

Mae dau adroddiad beirniadol wedi amlinellu pryderon am ddiogelu ac ymddygiad gwael yng Nghadeirlan Bangor

Dywedodd ffynonellau o fewn y Gadeirlan eu bod yn credu i Archesgob Cymru gymeradwyo ordeinio a dyrchafu'r unigolyn, a'u bod yn gofidio i hynny ddigwydd yn erbyn dymuniad y pwyllgor, ac i'w ddyrchafiad ddigwydd yn gynt na'r arfer.

Dywedodd llefarydd ar ran y Gadeirlan i'r unigolyn gwblhau eu cyfnod curadol ac mai argymhellion yn unig a wneir gan y pwyllgor.

Dywedon nhw fod hawl gan Esgob i wneud penderfyniad gwahanol, fel a wnaed yn yr achos hwn.

Mae Newyddion S4C wedi cysylltu â'r cyn-swyddog, sydd bellach wedi gadael y Gadeirlan a'r offeiriadaeth. Doedd e ddim am siarad ar gofnod.

Ymweliad 'nodweddiadol foethus' â Rhufain

Roedd honiadau hefyd bod dros £418,000 wedi ei wario ar gelfi newydd i'r Gadeirlan, wedi ei ariannu yn rhannol gan yr Esgobaeth, ac i "tua £20,000" gael ei wario ar dair taith dramor - dwy i Rufain ac un i Ddulyn.

Er mai staff y Gadeirlan oedd yn rhan o'r teithiau gan fwyaf, mae honiadau i'r Esgobaeth ysgwyddo'r gost.

Yn ôl un o'r cwynion a wnaed i'r Comisiwn Elusennau, roedd "yr ail ymweliad â Rhufain yn benodol, yn nodweddiadol foethus".

"Roedd yn cynnwys aros dros nos mewn gwesty Radisson ym maes awyr Manceinion cyn hediad cynnar yn y bore, yna gwestai pedair seren yn Rhufain, ciniawau a thacsis drwy gydol y daith.

"Wnaeth y rhan fwyaf o'r rhai aeth, ar yr ail a'r trydydd trip, ddim cyfrannu at y gost."

Mae llefarydd ar ran Cadeirlan Bangor wedi cydnabod nad oedd ymgynghoriad na gwybodaeth ddigonol am y gwariant ar gelfi.

O ran y teithiau tramor, fe ddywedodd y llefarydd bod yr arian wedi dod o gronfa'r Esgobaeth yn hytrach na'r Gadeirlan, a bod y Deon a'r Cabidwl wedi cytuno i ad-dalu'r hyn a wariwyd gan yr Esgobaeth, lle dylen nhw fod wedi ysgwyddo'r gost.

Yn ogystal, medden nhw, maen nhw wedi comisiynu cyngor gan yr Eglwys yng Nghymru yn ganolog, i'w helpu i gywirio rhai problemau gyda chadw cofnodion ariannol.

Wedi i Newyddion S4C gysylltu â'r Eglwys yng Nghymru ddydd Llun yn gofyn a oedd y Comisiwn Elusennau wedi awgrymu gwelliannau i elusennau sydd ynghlwm â'r Gadeirlan, daeth cadarnhad fod Cabidwl y Gadeirlan wedi cwrdd ddydd Llun i drafod telerau ar gyfer y grŵp gweithredu a'r bwrdd goruchwylio, a gafodd eu creu wedi i grynodebau'r ddau adroddiad gael eu cyhoeddi.

'Cymryd eu cyfrifoldebau o ddifrif'

Dywedodd llefarydd ar ran Cadeirlan Bangor: "Mewn cyfarfod ddydd Llun, trafododd Cabidwl yr Eglwys Gadeiriol weithdrefnau a'r broses o gadw cofnodion ariannol.

"O ganlyniad i'r drafodaeth hon, penderfynodd y dylid anfon Adroddiad Digwyddiad Difrifol at y Comisiwn Elusennau.

"Mae hyn yn dilyn pum Datganiad Digwyddiad Difrifol yn ymwneud â'r Gadeirlan anfonwyd at y Comisiwn Elusennau yn 2024.

"Mae Cabidwl yr Eglwys Gadeiriol yn cymryd eu cyfrifoldebau am lywodraethu da yn ddifrifol iawn ac wedi penderfynu, o ystyried gwybodaeth sydd wedi dod i'w sylw, y dylid anfon Adroddiad Digwyddiad Difrifol at y Comisiwn Elusennau.

"Er na allwn ddarparu sylwebaeth barhaus ar yr achos unigol, byddwn yn gweithio gyda'r Comisiwn Elusennau i sicrhau bod y mater yn cael ei ddatrys cyn gynted â phosib, a bod unrhyw welliannau sydd angen eu gwneud yn ein gweithdrefnau yn cael eu rhoi ar waith heb oedi."

Pynciau cysylltiedig