Eluned Morgan: Starmer 'yn gwrando' ar ariannu Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae llywodraeth Keir Starmer "yn gwrando" ar yr angen i gynyddu cyllid Llywodraeth Cymru ac adolygu’r ffordd mae arian yn llifo o Lundain i Gaerdydd, meddai Eluned Morgan.
Dywedodd Morgan yn ei sesiwn gwestiynau gyntaf fel prif weinidog ei bod wedi siarad gyda'r Canghellor Rachel Reeves am fformiwla Barnett, sy’n llywodraethu sut mae Cymru, Yr Alban a Gogledd Iwerddon yn cael cyllid gan San Steffan.
Dywedodd ei bod hi hefyd wedi siarad â Keir Starmer "am sut mae angen cymorth ariannol ar Lywodraeth Cymru, ac adolygiad o'r sefyllfa ariannol".
Roedd hi’n ymateb i arweinydd Plaid Cymru Rhun ap Iorwerth, a ofynnodd pam fod Llafur wedi methu ag anrhydeddu addewid blaenorol i ddileu fformiwla Barnett.
Beth ydy fformiwla Barnett?
Mae'r fformiwla Barnett yn penderfynu lefel y gwariant cyhoeddus yng Nghymru, Gogledd Iwerddon a'r Alban, gan ddyrannu cyllid yn seiliedig ar faint y boblogaeth a’r pwerau sy'n cael ei ddatganoli iddynt.
Mae swm yr arian yn dibynnu a yw Llywodraeth y DU yn cynyddu neu’n lleihau cyllid ar gyfer adrannau sy’n cwmpasu meysydd sydd wedi’u datganoli, fel iechyd ac addysg.
Yn 2017 dywedodd Prif Weinidog Llafur Cymru, Carwyn Jones, na ellid amddiffyn y fformiwla ac y byddai Llafur yn ei dileu.
Dydd Mawrth, yn y Senedd ym Mae Caerdydd, gofynnodd ap Iorwerth i Morgan "pam, felly, yn ei llythyr diweddar ataf, yr oedd y prif weinidog yn dal i'w hamddiffyn [fformiwla Barnett], a pham y methodd Llafur â chadw ei gair?"
Dywedodd Morgan fod "fformiwla Barnett yn drafodaeth yr ydym wedi ei chael eisoes gyda'r canghellor newydd" dros yr haf.
Dywedodd Morgan ei bod hi hefyd wedi "siarad â Keir Starmer am sut mae angen cymorth ariannol ar Lywodraeth Cymru ac adolygiad o'r sefyllfa ariannol, a gafodd ei addo ym maniffesto [etholiad cyffredinol] Cymru".
“Mae honno’n sgwrs rydyn ni’n ei dechrau. Cawn weld pa mor bell rydyn ni’n mynd, ond gallaf eich sicrhau eu bod eisoes yn gwrando,” meddai.
Ychwanegodd y prif weinidog y "bydd yn rhaid i ni aros tan y byddwn yn gweld y gyllideb honno", pan fydd y canghellor yn nodi cynlluniau llywodraeth Lafur y DU ar gyfer gwariant a threthiant, ar 30 Hydref.
- Cyhoeddwyd17 Medi
- Cyhoeddwyd17 Medi
- Cyhoeddwyd16 Medi
Fe wnaeth Rhun ap Iorwerth gyhuddo Llafur Cymru o fethu â “sefyll i fyny at eu meistri yn Llundain ac ymladd dros Gymru” drwy beidio gwrthwynebu cynlluniau dadleuol Llywodraeth y DU i gyfyngu taliadau tanwydd y gaeaf i bawb heblaw’r pensiynwyr tlotaf.
"Dyw hyn ddim yn sefyll i fyny dros Gymru gan y prif weinidog - mae'n rhoi plaid o flaen gwlad eto," meddai.
Atebodd Morgan y byddai'n "cymryd cyfrifoldeb am fy ngweithredoedd yma, a fy nghyfrifoldebau, ond os ydych chi am gwestiynu Keir Starmer, dylech fod wedi mynd i San Steffan".
Roedd hwnnw’n gyfeiriad at gynlluniau Rhun ap Iorwerth i sefyll fel ymgeisydd ar gyfer San Steffan, cyn iddo benderfynu mynd am arweinyddiaeth ei blaid ac aros yn y Senedd.
Yn gynharach, fe wnaeth arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd, Andrew RT Davies, hefyd godi'r mater o daliadau tanwydd gaeaf.
Dywedodd ei fod yn gobeithio, wrth siarad â Rachel Reeves, fod Morgan wedi tynnu sylw at "y dicter gwirioneddol" dros y polisi, a dweud wrthi "y bydd hyn yn effeithio ar 400,000 o bensiynwyr yma yng Nghymru, ac wedi cymryd gwerth £110m oddi ar rai o’r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas”.
Cytunodd Morgan fod "hwn yn gyfnod anodd iawn, sy'n peri pryder i lawer o bensiynwyr yng Nghymru" ond ychwanegodd fod llywodraeth Lafur y DU "wedi gorfod gwneud rhai penderfyniadau anodd iawn".
Dywedodd y prif weinidog fod Brexit wedi golygu bod "allforion wedi cwympo o'r Deyrnas Unedig" a bod y llywodraeth Geidwadol flaenorol dan arweiniad Liz Truss wedi "gwthio cyfradd llog am i fyny".
“Fe ddigwyddodd y pethau hyn i gyd, a nawr mae’n rhaid i ni glirio’r llanast a adawoch chi,” meddai Morgan.