Ffrae rhwng y prif weinidog a phenaethiaid y GIG dros restrau aros
- Cyhoeddwyd
Mae ffrae wedi datblygu rhwng y prif weinidog a phenaethiaid Gwasanaeth Iechyd Cymru, ar ôl iddi ddweud ei bod am eu dwyn i gyfrif dros restrau aros hir.
Dywedodd Eluned Morgan ei bod am sicrhau bod prif weithredwyr byrddau iechyd, "sy'n derbyn cyflog sylweddol", yn fwy atebol am y gofal y mae byrddau iechyd Cymru yn ei ddarparu.
Ond dywedodd corff sy'n cynrychioli prif reolwyr y gwasanaeth iechyd ei fod fel "rhedeg y GIG gydag un llaw wedi'i chlymu tu ôl i'ch cefn" oherwydd yr her o ryddhau cleifion sy'n ddigon iach i adael.
Mae Conffederasiwn GIG Cymru yn dweud nad yw 20% o welyau ar gael mewn rhai ysbytai oherwydd diffyg gofal cymdeithasol, sy'n golygu nad yw cleifion iach yn gallu gadael yr ysbyty.
Mae Llywodraeth Cymru wedi gwrthod gwneud sylw.
Dydd Mawrth fe wnaeth y prif weinidog nodi ei blaenoriaethau polisi a deddfwriaethol ar gyfer gweddill tymor y Senedd, sy'n dod i ben yn 2026.
Dywedodd mai torri rhestrau aros a chynyddu safonau addysg yw ei phrif flaenoriaethau, a'i bod hefyd am greu swyddi i daclo'r argyfwng hinsawdd, gwella systemau trafnidiaeth a thrwsio ffyrdd.
Ond rhybuddiodd nad ydy Llywodraeth Cymru yn gallu "gwneud popeth", ac nid yw wedi cynnwys unrhyw dargedau.
Doedd dim sôn yn y datganiad am ariannu'r celfyddydau a diwylliant, na'r diwydiant amaeth.
Dywedodd y bydd "rhestr gynhwysfawr o beth fydd yn cael ei gyflawni, pryd, a gan bwy" yn cael ei datblygu dros yr wythnosau nesaf.
- Cyhoeddwyd17 Medi
Dywedodd y gwrthbleidiau fod datganiad Morgan yn brin o fanylion.
Yn ôl arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies, "dyma'r datganiad mwyaf ysgafn i mi weld gan brif weinidog ar agoriad tymor y Senedd".
Ychwanegodd Rhun ap Iorwerth o Blaid Cymru ei fod yn ddatganiad "tenau iawn, iawn".
Mae Morgan wedi sôn am "gyflawni llai", a chanolbwyntio "ar y pethau sy'n bwysig i bobl".
Ar raglen Politics Wales y BBC ddydd Sul, dywedodd nad oedd hi'n mynd i drwsio'r GIG yn yr 20 mis nesaf, ond mynnodd y "bydd rhestrau aros yn gostwng" ac mai dyma un o'r pynciau sy'n poeni pobl fwyaf.
'Gwerth pres trethdalwyr'
Mae hi hefyd wedi galw ar benaethiaid y gwasanaeth iechyd i fod yn llawer mwy atebol.
“Rwy’n meddwl ei bod yn bwysig i ni roi’r pwysau ar y bobl hynny sy’n rheoli’r GIG, sy’n cael symiau sylweddol o arian," meddai.
"Mae prif weithredwyr ein byrddau iechyd yn cael eu talu £250,000 y flwyddyn.
"Gadewch i ni eu cael i fod yn fwy atebol am yr arian y mae’r trethdalwyr yn ei roi iddynt."
Ychwanegodd: “Mae yna enghreifftiau lle mae pobl wir wedi gostwng y niferoedd mewn rhai mannau, ac mewn eraill dydyn nhw ddim yn cyflawni yn y modd y dylen nhw.”
Mae Conffederasiwn GIG Cymru, sy'n cynrychioli uwch swyddogion yn y gwasanaeth iechyd, wedi ymateb yn chwyrn.
Dywedodd eu cyfarwyddwr, Darren Hughes: “Does neb eisiau darparu gofal a thriniaeth o’r ansawdd gorau i boblogaeth Cymru, a thrin y bobl sydd ar restrau aros yn gyflym ac effeithiol, yn fwy nag arweinwyr a staff y GIG.”
Dywedodd na ddylid ystyried rhestrau aros ar eu pen eu hunain ond "fel rhan o'r system iechyd a gofal gyfan".
Mae pob bwrdd iechyd, meddai, yn wynebu "her enfawr" wrth ryddhau cleifion sy'n iach yn feddygol "oherwydd y pwysau aruthrol ym maes gofal cymdeithasol", a hynny er gwaethaf eu hymdrechion i weithio ar y cyd gydag awdurdodau lleol.
“Mewn rhai ysbytai mae 20% o welyau ddim ar gael wrth i gleifion aros i adael yr ysbyty," meddai Mr Hughes.
“Mae hyn fel ceisio rhedeg y GIG gydag un llaw wedi’i chlymu tu ôl i’ch cefn – rydyn ni’n gwneud popeth o fewn ein gallu i weithio gydag arweinwyr awdurdodau lleol a darparwyr gofal ond mae’n rhaid i’r prif weinidog fod yn agored ynglŷn â maint yr her a beth sydd angen ei gywiro."
Dadansoddiad
Gohebydd Gwleidyddol BBC Cymru, Elliw Gwawr
Mae Eluned Morgan yn glir beth yw ei blaenoriaethau, a does dim synod bod iechyd - yn benodol rhestrau aros - ar frig ei hagenda.
Ond does dim manylion heddiw ynglŷn â sut mae hi am ostwng y rhestrau aros hir yn y gwasanaeth iechyd.
Bydd arian yn allweddol, a gyda llywodraeth Lafur yn San Steffan, fe ddywedodd bod ganddyn nhw'r cyfle gorau i wireddu eu huchelgeisiau ar gyfer Cymru.
Ond does dim awgrym eto bod Keir Starmer ar fin agor y llifddorau ariannol.
Bydd rhaid aros i weld beth yn union fydd yn newid o'r cyfnod pan oedd hi yn gyfrifol am iechyd.
Wrth siarad ar Radio Wales Breakfast fore Mawrth, dywedodd cyn-gadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe nad yw'r ffederasiwn erioed wedi gwneud "datganiad mor gryf".
Dywedodd fod y datganiad yn brawf o "rwystredigaeth" pobl ar hyn o bryd.
Aeth ymlaen i nodi fod y GIG wedi gwneud "pwynt teg" a bod angen "siarad am y system iechyd a gofal yn ei gyfanrwydd" wrth sôn am y rhwystrau.
Oherwydd methiannau'r system, dywedodd ei bod yn "anoddach fyth" i annog pobl i ddod i weithio yn y diwydiant yng Nghymru.
- Cyhoeddwyd15 Medi
- Cyhoeddwyd16 Medi
- Cyhoeddwyd12 Medi
Mae'r ffigyrau diweddaraf ar gyfer mis Gorffennaf yn dangos bod 1,541 o gleifion mewn ysbytai yng Nghymru yn ddigon iach i gael eu rhyddhau.
Dros y flwyddyn ddiwethaf, roedd materion asesu yn gyfrifol am 41% o'r achosion hyn o oedi ac roedd bron i chwarter i'w wneud â threfniadau i'w lleoli mewn cartrefi gofal.
Roedd ceisiadau rhyddid gwybodaeth ddiweddar gan y BBC wedi canfod mai pum wythnos oedd yr amser yr oedd cleifion yn ei dreulio mewn gwelyau ysbyty ar gyfartaledd.
Cyfrifwyd bod hyn yn costio £14m y mis i'r GIG.
Roedd ffigyrau rhestrau aros fis Awst ar gyfer triniaeth ysbyty yng Nghymru wedi cyrraedd y lefelau uchaf erioed.
Wrth ymateb i'r ffrae, dywedodd Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies: "Sut allwn ni ddisgwyl i'r ysgrifennydd sy'n gyfrifol am greu'r rhestrau aros hir i'w lleihau os nad yw'n medru derbyn cyfrifoldeb amdanyn nhw?
"Fel Ysgrifennydd Iechyd, fe wnaeth Eluned Morgan fethu taclo'r rhestrau aros ac maen nhw nawr yn hirach nac erioed o'r blaen," meddai.
Doedd Llywodraeth Cymru ddim am wneud sylw.