Pum munud gyda... Lloyd Langford

Lloyd LangfordFfynhonnell y llun, Ian Laidlaw
  • Cyhoeddwyd

Mae Lloyd Langford yn gomedïwr sydd yn adnabyddus am stand-yp, ysgrifennu comedi, ymddangosiadau ar raglenni teledu fel 8 out of 10 Cats a chyd-weithio gyda Rhod Gilbert.

Yn wreiddiol o Baglan ger Port Talbot, mae bellach yn byw yn Awstralia, ac yn ddiweddar daeth yn fuddugol yn y gyfres ddiweddaraf o'r rhaglen deledu boblogaidd, Taskmaster Australia.

Pryd wnaeth y diddordeb mewn comedi ddechrau?

O oed ifanc, dwi'n meddwl. Roedd gen i wastad ddiddordeb mewn jôcs a fel oedden nhw'n gweithio. Dwi'n cofio casglu ffyn lolipop gyda jôcs arnyn nhw, a'u hadrodd yn yr ysgol. Llawer o jôcs budr...

Ac roedden ni'n gwylio llawer o bethau fel Two Ronnies, Tommy Cooper a'r Chuck Jones Looney Tunes a phethau fel yna, er dwi'n siŵr fod lot o bobl yn gwneud.

Ddaeth e ddim yn nod i anelu ato nes yn hwyrach, ond roedd e'n teimlo fel fod comedi a jôcs yn rhan fawr o fy mhlentyndod.

Ffynhonnell y llun, Lloyd Langford
Disgrifiad o’r llun,

Lloyd yn ifanc

Pa gomedïwyr roeddet ti'n eu hedmygu pan oeddet ti'n iau?

Roedd Harry Hill yn rhywun 'nes i syrthio mewn cariad ag e yn syth. Roedd ganddo ei steil unigryw ei hun; gwirion iawn ond hefyd yn hynod ddeallus.

Sut ddechreuodd dy yrfa mewn comedi?

Ro'n i'n cymryd rhan mewn theatr ieuenctid, gyda'r Port Talbot Amateur Operatics ac yna West Glamorgan Youth Theatre.

Dwi wastad wedi cael fy nenu at y rhannau cymeriad a'r rolau doniol. Ro'n i'n meddwl fod y rhannau leading man yn ddiflas - pwy sydd eisiau bod ar y llwyfan drwy'r holl sioe a chael y ferch ar y diwedd, pan alli di fynd mlaen am bum munud, cael pawb i chwerthin, bod yn seren, wedyn mynd nôl i ymlacio gefn llwyfan?!

'Nes i hefyd MCio mewn digwyddiadau yn ystod yr ysgol gyfun.

Ond ddigwyddodd y peth mawr cyntaf yn ystod fy wythnos gyntaf yn y brifysgol; es i i fy sioe stand-yp byw cyntaf, lle'r oedd Chris Addison a Francesca Martinez wrthi. Ac o'r foment yna, o'n i jest yn gwybod, ro'n i eisiau bod yn gomedïwr.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Lloyd bellach yn byw draw yn Awstralia gyda'r gomedïwraig Anne Edmonds a'u plentyn

Rwyt ti bellach yn byw yn Awstralia. Wyt ti'n gweld dy hun yn dychwelyd i Brydain, neu ydi'r awyr yn rhy las a'r tywod yn rhy euraidd yno?!

Ha ha ha! 'Nes i gwympo mewn cariad gyda merch o Awstralia. Ro'n i wedi bod yn teithio rhwng Llundain a Melbourne am ychydig o flynyddoedd, ac ro'n i yn Awstralia pan ddaeth COVID, a 'nes i feddwl, os o'n i am fod yn ddi-waith am gyfnod, roedd y tywydd o leiaf yn well yma.

Dydi dod yn ôl ddim mas o'r cwestiwn, ond mae ffleit 22 awr gyda toddler yn rhywbeth mae'n rhaid i ti baratoi'n feddyliol amdano...

Beth yw'r prif wahaniaethau rhwng dy yrfa gomedi ym Mhrydain a'r un sydd gen ti yn Awstralia?

O'n i'n meddwl 'swn i'n gallu dod yma a chael bach o hoe, ond mae hi'n teimlo fel taswn i'n brysurach nag erioed!

Mae'r comedi reit debyg, ond yn Awstralia mae'r sîn yn llai ond y wlad yn llawer mwy, felly dwi'n treulio llawer o amser mewn meysydd awyr.

Ffynhonnell y llun, Avalon
Disgrifiad o’r llun,

Lloyd gyda'i wobr am ennill Taskmaster Australia - cerflun aur o ben y Tasgfeistr Awstralaidd, Tom Gleeson

Rwyt ti newydd gael dy goroni'n enillydd Taskmaster Australia. Sut beth oedd hi i gystadlu yn erbyn dy bartner, Anne Edmonds?

Dwi ddim yn teimlo'n berson cystadleuol iawn, ond mae'r sioe yna yn dy wthio i fod mewn ffordd.

Roedden ni'n dau wedi cytuno i beidio siarad am beth oedd wedi digwydd yn y tasgau, felly roedden ni'n ffeindio mas beth oedd y llall wedi ei wneud o flaen cynulleidfa fyw yn y stiwdio.

Dwi'n meddwl fod Anne yn greadigol tu hwnt. Ro'n i'n aml yn cymryd tasg yn llythrennol iawn, tra'i bod hi yn mynd i'r cyfeiriadau gwahanol gwych 'ma. Os dwi'n onest, ro'n i eisiau iddi ennill.

Roedd y wisg roeddet ti'n ei gwisgo yn ystod y tasgau yn Taskmaster yn wladgarol iawn. Pa mor bwysig ydi dy hunaniaeth Gymreig i ti?

Dwi'n meddwl, gan mod i draw yn Awstralia, ei fod e'n rhywbeth gwahanol iawn amdana i, felly ro'n i'n ei chwarae lan ar Taskmaster.

Dwi'n gallu dod â safbwynt allanol i bethau. Mae'n amlwg yn rhan enfawr o fy hunaniaeth, ond dwi'n hapus iawn i wneud jôcs am y peth.

Roedd gen i rwtin lle ro'n i'n gwneud hwyl am ben y faner Gymreig, ac unwaith mewn gig yn Y Fenni, aeth un dyn yn hollol wyllt mod i'n meiddio gwneud y fath beth... o'r diwedd 'nes i ddeall mai'r dyn golau a sain oedd e!

Ffynhonnell y llun, Avalon
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Lloyd mewn coch, gwyn a gwyrdd o'i gorun i'w sawdl yn ystod y tasgau ar gyfer Taskmaster Australia

Beth wyt ti'n ei fethu fwyaf am Gymru?

Y bobl. A'r caws... dwi'm yn meddwl fod y caws yma yn dda iawn o gwbl!

Pynciau cysylltiedig