Ofnau y gallai Venue Cymru 'llwm' golli £10m o nawdd

Venue Cymru o gyfeiriad prom LlandudnoFfynhonnell y llun, LDRS
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Venue Cymru yn Llandudno ei agor ar ei newydd wedd ym mis Ionawr 2007 ar ôl gwaith adnewyddu gwerth dros £10m

  • Cyhoeddwyd

Mae yna ofnau y bydd un o ganolfannau adloniant amlycaf y gogledd yn colli nawdd ariannol sylweddol, er pryderon ynghylch cyflwr yr adeilad.

Roedd yna gyhoeddiad fis Mawrth y llynedd y byddai Venue Cymru, Llandudno, yn derbyn £10m o'r gronfa Codi'r Gwastad wedi i'r llywodraeth Geidwadol ddiwethaf yn San Steffan glustnodi £100m ar gyfer prosiectau diwylliannol.

Ond ers i'r Blaid Lafur ddod i rym ym mis Gorffennaf, mae amheuon wedi codi nad yw'r arian bellach ar gael.

Byddai'r arian wedi mynd at welliannau i'r adeilad, sy'n cynnwys arena, theatr ac adnoddau cynadledda.

Ond roedd Cyngor Sir Conwy hefyd yn gobeithio gwario cyfran ar gynllun dadleuol i symud llyfrgell Llandudno o ganol y dref i Venue Cymru.

Mewn cyfarfod o un o gyfarfodydd y cyngor yr wythnos hon, roedd yna gydnabyddiaeth gan gynghorwyr a swyddogion bod yr adeilad erbyn hyn yn edrych yn "llwm" ac yn "druenus".

Roedd y pwyllgor craffu cyllid ac adnoddau yn trafod achosion busnes am arian cyfalaf, ac fe ddywedodd y Cynghorydd Louise Emery bod y cyngor "heb lwyddo i gael £140,000 i ailaddurno tu allan yr adeilad, sy'n edrych yn llwm".

Gofynnodd a oedd wnelo hynny â "gobaith o hyd ein bod am gael yr arian Codi'r Gwastad (Levelling Up)".

Atebodd pennaeth cyllid y cyngor, Amanda Hughes, bod trafodaethau yn digwydd i ganfod ffordd arall o ariannu'r ailaddurno gan "gydnabod eich pwynt ei fod yn edrych yn druenus".

Ffynhonnell y llun, LDRS
Disgrifiad o’r llun,

Un o ffenestri'r adeilad a phostyn sy'n amlygu'r angen i wella edrychiad Venue Cymru

Dywedodd arweinydd y cyngor, Charlie McCoubrey: "Cyn belled ag y gwn, dydyn ni heb gael penderfyniad terfynol ynghylch arian Codi'r Gwastad [ond] rhaid dweud nad oedd y tôn yn arbennig o gadarnhaol."

Ychwanegodd fod y cyngor "wedi cael cyfarfodydd eithaf da gyda Llywodraeth Cymru ynghylch ceisio cael potiau ariannol gwahanol i geisio datblygu Venue Cymru" - canolfan sy'n "allweddol bwysig i Landudno, y sir a'r rhanbarth".

Ffynhonnell y llun, LDRS
Disgrifiad o’r llun,

Un o ffenestri blaen yr adeilad, gydag adlewyrchiad o'r Gogarth yn y gwydr

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Sir Conwy eu bod wedi cael gwybod, fel rhan o Ddatganiad Cyllideb yr Hydref, fod Llywodraeth Lafur newydd y DU "â gogwydd tynnu'n ôl y cyllid ar gyfer prosiectau diwylliannol a gyhoeddwyd yng Nghyllideb Wanwyn 2024".

Roedd hynny, meddai, "yn cynnwys y £10m ar gyfer Venue Cymru", ac mae Llywodraeth y DU "wedi bod yn cynnal ymgynghoriad ers hynny gyda derbynwyr potensial i gadarnhau a ddylid gwneud unrhyw eithriadau".

Ychwanegodd bod y cyngor wedi cymryd rhan llawn yn y broses yna "ac yn disgwyl clywed y canlyniad maes o law".