Gyrrwr wedi marw mewn gwrthdrawiad ar yr A470
![A470](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/956/cpsprodpb/ccdd/live/efcd1090-5344-11ef-b094-c34fc6151465.png)
Digwyddodd y gwrthdrawiad ar yr A470 rhwng Rhaeadr a Llangurig
- Cyhoeddwyd
Bu farw dyn mewn gwrthdrawiad ar yr A470 rhwng Rhaeadr a Llangurig ddydd Sul.
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn ymchwilio i'r gwrthdrawiad rhwng Land Rover Defender a beic modur Ducati coch, tua 16:40.
Bu farw gyrrwr y beic modur yn y fan a'r lle, medd y llu.
Cafodd y ffordd ei chau wedi'r gwrthdrawiad a'i hailagor tua 02:30 fore Llun.
Mae'r llu yn gofyn i unrhyw un fu'n gyrru ar hyd y ffordd adeg y gwrthdrawiad i gysylltu â nhw.