Symud o brysurdeb prifddinas i ynys gyda phoblogaeth o 90

Anna-Lisa JenaerFfynhonnell y llun, Anna-Lisa Jenaer
Disgrifiad o’r llun,

Anna-Lisa Jenaer a symudodd gyda’i gŵr Stéphane i fyw ar ynys Papa Westray

  • Cyhoeddwyd

Mae llawer ohonom yn breuddwydio am symud o sŵn a phrysurdeb y ddinas i fyw yn rhywle gwyllt ac anghysbell.

Dyma’n union beth wnaeth Anna-Lisa Jenaer a’i gŵr Stéphane dair blynedd yn ôl pan symudon nhw o Gaerdydd i fyw ar ynys Papa Westray.

Felly sut waeth Anna-Lisa ffeindio ei hun yn byw ar un o ynysoedd lleiaf Orkney?

“Ar ôl coleg, es i Frwsel lle nes i gyfarfod fy ngŵr, ac er ei fod yn dod o Wlad Belg, roedd yn obsessed hefo ynysoedd yr Alban. Pan oedd y plant yn tyfu fyny o’n ni bob tro yn mynd i ynys ar ein gwyliau. Ro’n ni'n hoffi’r syniad o fyw ar ynys, ond y peth oedd yn stopio ni bob tro oedd ennill bywoliaeth.”

Ar ôl Covid, aeth gwaith Anna-Lisa a Stéphane i gyd ar-lein, a daeth yn amlwg bod y ddau yn gallu byw yn unrhyw le bellach.

“Felly dechreuais i edrych ar RightMove (gwefan gwerthu tai) a daeth y tŷ yma lan ar Papa Westray. Aethon ni i weld e ac aros ar yr ynys am dridiau, a phenderfynu gwneud cynnig ar y tŷ yn y car ar y ffordd nôl.”

Ffynhonnell y llun, Jonathan Ford
Disgrifiad o’r llun,

Ynys Papa Westray

Mae Papa Westray yn bedair milltir o hyd ac un milltir o led, ac mae’n bosib cerdded o’i gwmpas mewn diwrnod. Mae tua 90 o bobl yn byw ar yr ynys. Mae yna gwch sy’n teithio yno o ynys Westray, gerllaw, neu mae’n bosib hedfan yno mewn dau funud, sef yr hediad byrraf yn y byd.

Yn ystod y gaeaf, mae’r gwyntoedd yn gryf iawn, hyd at 70 milltir yr awr, ond yn ôl Anna-Lisa, mae’n bwrw glaw llai na Chaerdydd. Mae’r ynys yn llawn bywyd gwyllt, ac mae olion o ffermdy Neolithic yna sy’n hŷn na’r pyramidiau.

Ffynhonnell y llun, Banu R
Disgrifiad o’r llun,

Knap of Howar, ffermdy Neolithic sy’n hŷn na phyramidiau'r Aifft

Mae yna ysgol fach gyda chwech o ddisgyblion, capel a gwasanaeth bob dydd Sul, a hostel sydd ar agor drwy’r flwyddyn.

“Ar nos Sadwrn yn yr hostel mae tafarn. Mae pobl yr ynys yn cymryd e mewn tro i weithio tu ôl i’r bar. Mae hynna’n hwyl achos mae lot o bobl yn dod o bob rhan o’r byd i aros ar yr ynys, felly ar nos Sadwrn ti’n gallu cwrdd â phobl o bob man.”

Ffynhonnell y llun, Anna-Lisa Jenaer
Disgrifiad o’r llun,

Tro Stéphane, gŵr Anna-Lisa, i weithio tu ôl i’r bar

“Ni’n dawnsio yn aml iawn. Dy’ ni ddim yn galw nhw’n Cèilidh achos mae’r cysylltiad fan hyn mwy hefo Scandinafia nag yw e hefo’r Alban. Mae dawnsfeydd sydd jest yn cael eu dawnsio ar yr ynys hon."

Mae’r siop yn gwerthu pob sbeis neu gynhwysyn sydd ei angen, sy’n beth da gan nad oes bwyty ar Papa Westray.

Ffynhonnell y llun, Jonathan Ford
Disgrifiad o’r llun,

Traeth South Wick ar yr ynys

Mae dwy nyrs yn byw ar yr ynys yn barhaol.

“Unrhyw bryd ti’n ffonio’r syrjeri, mae’n nhw’n dweud ‘Ie, dere, wela i di mewn pum munud’ sydd yn grêt. Wedyn mae’r doctor yn dod o’r ynys gyfagos unwaith yr wythnos.”

Ffynhonnell y llun, Anna-Lisa Jenaer
Disgrifiad o’r llun,

Mae’r ynys yn llawn bywyd gwyllt

Bob bore Mercher mae bore coffi i’r gymuned ac unrhyw un sy’n ymweld â’r ynys.

So dweda bo' ti’n bored yn y tŷ neu beth bynnag a ti eisiau sgwrs 'da rhywun, ti just yn mynd lawr i’r bore coffi ar ddydd Mercher a cwrdd â phobl o bob rhan o’r byd.

“Dyw e ddim fel se ti yn mynd i rhywle ‘remote’. Dwi’n cyfarfod mwy o bobl yma nag o'n i yn Nghaerdydd."

Mae tua 30% o boblogaeth yr ynys yn bobl sydd wedi byw yno erioed. Maen nhw’n croesawu mewnfudwyr fel Anna-Lisa a’i gŵr achos mae’n bwysig iddyn nhw fod cymdeithas yr ynys yn parhau.

Mae gweddill y trigolion o ogledd Lloegr, yr Alban, Wcráin, ac wrth gwrs mae yna Gymro arall hefyd. Ac oedd, roedd yn adnabod rhywun oedd Anna-Lisa yn ei adnabod.

Ffynhonnell y llun, Jonathan Ford
Disgrifiad o’r llun,

Mae’n bosibl gweld Llewyrch yr Arth yn aml yn y gaeaf

Ond fel popeth arall does dim byd yn berffaith, ac mae’n rhaid addasu i fyw ar ynys fach.

“Ti’n dysgu i fod yn tolerant iawn achos mae fe fel pentref bach. Falle bo' ti ddim yn cytuno bob tro gyda beth mae pawb yn dweud, ond 'dych chi’n ddibynnol ar eich gilydd. Ti’n dysgu bod y gymuned yn dod gynta'.”

Mae’n rhaid fod yn amyneddgar achos mae’r ynys yn aml yn rhedeg ar 'island time’ gyda phethau’n dechrau’n hwyr. Gall y tywydd hefyd fod yn wyntog iawn, sy’n effeithio os yw’r awyren neu’r cwch yn rhedeg neu beidio.

So, ma' rhaid ti jest derbyn. Wel, dwi yma, ac mae’r lle yn brydferth, a mae’n ffantastig, a dyw popeth ddim yn gweithio’n berffaith bob tro.”

Ffynhonnell y llun, Jonathan Ford
Disgrifiad o’r llun,

Mae Anna-Lisa yn hoff iawn o weld morloi o amgylch yr ynys

Er yr heriau hyn, mae llawer o bethau rhyfeddol am fyw ar yr ynys, meddai Anna-Lisa:

“Y ffaith bo' ti’n deffro bob bore a gweld y môr, y bywyd gwyllt, yr adar, y traethau, y morloi, ni ‘di gweld orcas, gweld y northern lights yn y gaeaf, y tawelwch a’r llonyddwch."

Nid yw’n syndod felly nad oes gan Anna-Lisa a Stéphane unrhyw gynlluniau i symud o Papa Westray yn y dyfodol agos.

Pynciau cysylltiedig