Y Cymro sy'n cerdded yr Andes drwy saith gwlad
- Cyhoeddwyd
Mae Oliver Treviso o Abertawe ar antur yn Ne America ar hyn o bryd, ac yn gobeithio cyflawni rhywbeth nad oes unrhywun arall wedi ei wneud.
Yn Hydref 2023 fe ddechreuodd Ollie ar daith i gerdded dros fynyddoedd yr Andes o un pen i'r llall, gan deithio drwy saith gwlad.
Mae'r daith yn mynd o Sianel Beagle ar waelod y cyfandir, i Môr y Caribî yn y gogledd – pellter o rhyw 8,000 o filltiroedd.
Mae'n credu y bydd yr her yn cymryd rhwng 18 a 24 mis i'w chwblhau, ac mae'n gobeithio casglu miloedd o bunnoedd i elusen Mind Ystradgynlais yn y broses.
Mae'n dogfennu ei daith ar ei gyfrif Instagram (ollietrev), ac ar hyn o bryd mae o ym mhentre' Villamar Mallcu yn ne Bolifia, ble siaradodd â Cymru Fyw.
"Rwy’n dod o Abertawe a dyna lle cefais fy magu," meddai Ollie.
Yn tyfu fyny rygbi oedd prif ddiddordeb Ollie, ac roedd wrth ei fodd bod yn yr awyr agored.
"Fy swyddi olaf yng Nghymru oedd yn gweithio i brosiectau amaethyddol a chymunedau cynaliadwy, ac hefyd mewn gwersyll ar y Gŵyr. Roeddwn i wrth fy modd yn gweithio yno a dwi o hyd yn hapus lawr yn ardal y Gŵyr.
"Dwi’n ei weld e fel maes chwarae enfawr, sy’n grêt i mi achos rwy’n mwynhau bod tu allan cymaint â phosib."
Ond yn ei ugeiniau cynnar roedd Ollie'n teimlo'r awch am newid byd, ac i deithio.
"Pan o’n i’n 21 o’n i’n teimlo ar goll ac es i ffwrdd i Awstralia, a dyna pryd y dechreuodd y cyfan newid i mi".
Yn siarad am yr her mae arni ar hyn o bryd, meddai Ollie:
"I'r her yma dwi'n trio dilyn llwybr mynyddoedd yr Andes drwy bob un o’i saith gwlad – Yr Ariannin, Chile, Bolifia, Periw, Ecwador, Colombia a Venezuela – mae'r gadwyn yn rhedeg yr holl ffordd lawr y cyfandir.
"Dechreuais yn y Sianel Beagle yn ne Ariannin a byddaf yn gorffen ym Môr y Caribî yn Venezuela. Hyd y gwn i, nid yw hyn erioed wedi'i wneud o'r blaen. Byddaf yn ei wneud yn gyfan gwbl ar droed. Nid yn unig mae'r daith yn un heriol ond [yr hyn] rydw i wir eisiau ei wneud yw dysgu am y llefydd 'ma."
Cerdded drwy'r Wladfa
Fe gerddodd Ollie drwy rannau o'r Wladfa hefyd, ac roedd yn ymfalchïo yn ei Gymreictod yno.
"'Nes i gwrdd â Jenney yn Nhrevelin, ac roedd hi'n hyfryd. Roedd ei hen dad-cu wedi ymfudo i'r Wladfa o Gymru. Roedd hi'n siarad gyda chymaint o angerdd am ei diwylliant Cymreig, ac fe wnaeth hi egluro i fi pam y daethon nhw i'r Ariannin.
"Fe wnaeth hi hyd yn oed rannu pice ar y maen gyda fi - roedd cael bod yn ei chwmni hi fel bod gartref oddi cartref."
"Siaradais â thipyn o'r bobl leol ac roedd eu clywed nhw'n siarad mor angerddol dros gadw'r traddodiadau i fynd yn gwneud i mi deimlo mor falch o fod yn Gymro.
"Roedd gweld y Ddraig Goch yn chwifio gyda'r Andes yn y cefndir yn rhywbeth na fyddaf byth yn anghofio. Mi wnes i wireddu breuddwyd yn ymweld â'r Wladfa!"
'Adrodd stori'
"Nid ras yw hon. Dw i eisiau dysgu am y diwylliant, yr iaith a natur, a dwi'n gobeithio rhyw ddiwrnod adrodd yr hanes i eraill. Dyna dwi wir yn ei garu – adrodd stori.
"Rwy’n meddwl y bydd hyn yn cymryd tua 18 mis. Ond y gwir yw nad oes dim yn mynd yn ôl y cynllun ar hyn o bryd, felly cawn weld!"
Dros yr wyth mis diwethaf mae Ollie wedi gweld nifer o dirweddau gwahanol ledled De America.
"Mae’r newidiadau yn y tirweddau dwi ‘di eu gweld hyd yn hyn wedi bod yn anhygoel. O'r gwyntoedd cryfion yn Tierra del Fuego, un o'r llefydd mwyaf gwyntog ar y blaned, i'r rhewlifau, coedwigoedd trwchus, llynnoedd clir grisial, mynyddoedd gyda eira ar y copâu, yr anialwch, a thiroedd uchel tua'r gogledd.
"Rwy' hefyd wedi gweld gwahanol fathau o bobl, bwyd a ffyrdd o fyw."
'Pobl anhygoel'
Mae Ollie yn dweud bod teithio ar ben ei hun yn gallu bod yn eithriadol o heriol ar adegau, yn enwedig pan mae'n dod i'r cyfleusterau sydd ar gael.
"Rwy'n aros yn fy mhabell yn bennaf, ac yn cario fy holl eiddo ar fy nghefn. Pan fydd y siawns yn dod dwi'n ceisio cael ystafell rhywle er mwyn i mi allu cysylltu ag adref, chargio pethau trydanol, creu cynnwys ar gyfer Instagram a Facebook, a glolchi fy nillad – gall y cyfleoedd yma fod yn brin mewn rhai ardaloedd!
"Ar sawl achlysur rwy' wedi cael fy ngwahodd i gartrefi pobl – dydyn nhw methu gwneud digon drosta i! Ma’ nhw bob amser yn trio rhoi stwff i mi ac yn ceisio fy nghael i aros yn hirach – hyd yn oed yn mynd â fi i wyliau cerddorol.
"Dwi'n meddwl mai'r bobl yma sy'n gwneud y daith yn antur i mi mewn gwirionedd –maen nhw wedi bod yn anhygoel. Mae’n rhoi cymaint o ffydd a hyder i chi fel y gallwch chi ddod o hyd i help os oes problemau'n dod i'r amlwg."
Mae ambell i ddigwyddiad arswydus wedi bod ar hyd y daith hefyd.
"Yr adeg mwyaf heriol o'r daith oedd pan 'nes i gwympo yn y mynyddoedd. Ro’n i mor bell o unman arall a do'n i heb weld neb ers dyddiau. ‘Nes i lithro a syrthio, gafaelais ar graig ac fe 'naeth hwnna dorri a syrthiais i mewn i geunant a taro fy mhen ac o’n i’n anymwybodol.
"Lwcus roedd yna gi strae wrth ymyl ac fe arweiniodd y ffordd i waelod y dyffryn lle nes i ffeindio gorsaf heddlu."
Ond her gwbl wahanol sy'n wynebu Ollie bob nos ar hyn o bryd.
"Ar hyn o bryd y broblem yw cysgu ar uchder (uwchben lefel y môr). Dwi ‘rioed wedi ei brofi o'r blaen - mae bod yn fyr o wynt pan ry’ch chi'n trio cysgu yn rywbeth sy’n cymryd amser i ddod i arfer ag e."
"Y peth gorau am y daith hon yw'r bobl dwi wedi eu cyfarfod, ac hefyd y ffaith bod pob dydd yn wahanol - dydych chi byth yn gwybod beth sy'n mynd i ddigwydd."
Ond mae Ollie yn ei ffeindio hi'n anodd ar brydiau, yn enwedig gyda'i deulu cyfan yn ôl yng Nghymru.
"Y peth anoddaf i mi yw bod oddi cartref achos rwy'n caru fy nheulu. Rwy'n meddwl amdanyn nhw bob dydd ond rwy'n eu defnyddio nhw fel cymhelliant hefyd. Y peth dwi’n edrych ymlaen ato fwyaf yw mynd i farchnad Abertawe am goffi gyda fy nhad a fy nhad-cu."
'Cymryd pob cyfle'
"Dydy fy agwedd i o jest ‘ewch amdani’ ddim wedi bod yn gwbl effeithiol yma. Mae fy niffyg paratoi wedi arwain at sefyllfaoedd anodd ar brydiau, ac ar adegau mae hynny 'di bod yn heriol iawn.
"Pan 'da chi'n brwydro yn erbyn yr elfennau, mae natur wastad yn ennill. Ond dwi wedi dysgu gwersi gwych achos y tro nesaf mi fydda i’n gwybod yn well ac mi fydda i wedi paratoi’n drwyadl.
"Hefyd, pan dwi yng nghanol unman ar fy mhen fy hun, mae'n gwneud i mi sylweddoli pa mor fach ydw i. Mae’n fy atgoffa bod y mynyddoedd yma wedi bod yma gryn dipyn o’n mlaen i ac mi fyddan nhw yma ymhell ar ôl i hefyd!
"Felly rydw i'n mynd i gymryd pob cyfle dwi’n cael i gyflawni gymaint â rwy’n gallu yn fy mywyd, a dwi’n gobeithio y gall yr antur yma ysbrydoli eraill i wneud yr un peth."
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd29 Gorffennaf 2023
- Cyhoeddwyd19 Gorffennaf 2023
- Cyhoeddwyd19 Rhagfyr 2023