Carcharu dyn 'peryglus ofnadwy' am ymosod ar ddynes yn ei chartref

- Cyhoeddwyd
Mae dyn "peryglus ofnadwy" wedi cael ei garcharu am dros naw mlynedd am ymosod yn rhywiol ar ddynes yn ei chartref yng Nghaerdydd.
Fe aeth Thamer Alrabie, 36 oed o ardal Lecwydd, mewn i gartref dynes nad oedd yn ei hadnabod yn hwyr ar nos Sul, 12 Ionawr eleni cyn ymosod yn rhywiol arni a'i bygwth gyda chyllell.
Cafodd tad y ddynes ei ddeffro gan y sŵn ac fe lwyddodd i'w hel allan o'r tŷ.
Fe gafodd Alrabie ei arestio o fewn 24 awr o'r digwyddiad ac yna plediodd yn euog i dresmasu er mwyn cyflawni trosedd o natur rywiol, ymosod yn rhywiol, ymosod drwy guro a bygwth person gyda chyllell.
Mewn gwrandawiad yn Llys y Goron Caerdydd ar 21 Tachwedd, fe gafodd ei ddedfrydu i naw mlynedd a dau fis dan glo.
'Hawl gan bawb i deimlo'n ddiogel yn eu cartref'
Wedi'r dedfrydu dywedodd y ddynes: "Dydw i ddim am adael i ddigwyddiadau'r noson honno fy niffinio i fel 'dioddefwr'.
"Rydw i'n oroeswr, ac fe wnaf ailadeiladu fy llwybr i."
Dywedodd y ditectif gwnstabl Luke Rimes o Heddlu'r De fod ymosodiadau gan ddieithriaid fel hyn yn "anarferol iawn yn ne Cymru" ond bod Alrabie yn amlwg yn "unigolyn peryglus ofnadwy".
"Mae gan bawb yr hawl i deimlo'n ddiogel yn eu cartref eu hunain, ac mae'r fath yma o ddigwyddiad yn hunllef i bob menyw.
"Byddai'r noson yma wedi gallu bod mor wahanol heb ymyrraeth ddewr gan y tad.
"Mae'r dioddefwr wedi dangos gymaint o ddewrder a chryfder drwy'r broses, ac ry'n ni'n gobeithio y bydd canlyniad yr achos llys yn cynnig rhywfaint o gysur ac yn ei galluogi i ddechrau teimlo'n ddiogel unwaith eto."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.