Dyn yn y llys wedi marwolaeth merch 17 yn Sir Caerffili

Cafodd yr heddlu eu galw i Wheatley Place yn ardal Cefn Fforest yn y Coed-duon fore Iau
- Cyhoeddwyd
Mae dyn wedi ymddangos yn y llys ddydd Llun yn dilyn marwolaeth merch 17 oed yng Nghefn Fforest, Caerffili ddydd Iau.
Mae Cameron Cheng, 18 oed, wedi cael ei gyhuddo o lofruddio yn ogystal â cheisio llofruddio menyw arall yn dilyn y digwyddiad.
Mae Mr Cheng, o Drecelyn, Sir Caerffili, hefyd yn wynebu cyhuddiad o fod â llafn yn ei feddiant.
Wrth ymddangos yn Llys y Goron Casnewydd fe wnaeth Mr Cheng - a oedd yn gwisgo siwmper lwyd a throwsus - siarad i gadarnhau ei enw a'i gyfeiriad.
Roedd aelodau o'r cyhoedd yn bresennol yn y llys yn ystod y gwrandawiad byr - nifer ohonynt yn emosiynol.
Mae Mr Cheng wedi ei gadw yn y ddalfa, a bydd yn ymddangos nesaf yn Llys y Goron Caerdydd ar 18 Tachwedd.
Cafodd yr heddlu eu galw i eiddo yn Wheatley Place tua 07:15 fore Iau, a nodwyd bod Lainie Williams, 17, o Gefn Fforest, wedi marw yn y fan a'r lle.
Fe wnaeth menyw 38 oed hefyd gael anafiadau, ond mae hi bellach wedi gadael yr ysbyty.
Mae Heddlu Gwent yn dweud bod eu hymholiadau yn parhau ac yn apelio ar dystion i gysylltu â nhw.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 o ddyddiau yn ôl

- Cyhoeddwyd2 ddiwrnod yn ôl
