'Oedd rhaid i mi gerdded mas o arholiadau achos poen difrifol y mislif'
- Cyhoeddwyd
"O'n i'n teimlo yn real sick a blino llwyth achos y colli gwaed, ac roedd unrhyw beth fel eistedd yn llonydd am gyfnodau yn ofnadwy."
Mae Begw Fussell, 19, o Glunderwen ger Caerfyrddin, wedi bod yn dioddef gyda phoen difrifol y mislif ers tair blynedd.
Mae bellach yn ei blwyddyn gyntaf yn astudio meddygaeth ym Mhrifysgol Bangor, ond mae'n dweud bod y boen yn effeithio ar ei hastudiaethau.
Nawr mae ymchwilwyr eisiau clywed gan ferched eraill sy'n profi poen difrifol y mislif i rannu eu profiadau, fel rhan o astudiaeth ym Mhrifysgol Caerdydd.
Mae gan Begw gyflwr endometriosis, ond mae'n dal i aros am ddiagnosis ffurfiol.
Dechreuodd ei symptomau yn 2021: "O'n i'n Blwyddyn 11 ac yn yr haf o'n i'n cofio bod mewn poen am yr haf cyfan.
"Nes i fynd o dan gynaecologist a nath e trial shruggio fe off mai ddim endo o'dd e.
"O'n i'n cael y teimlad fod pobl yn meddwl bo fi'n over-exaggeratio.
"Dyw dynion ddim wedi bod drwy be' da ni'n mynd drwyddo, ac odd e'n hala fi deimlo bo fi'n drama queen.
"O'n i ffili dod mas o'r gwely ac o'n i mewn poen ofnadwy a doedd painkillers cryf ddim yn cyffwrdd y boen."
- Cyhoeddwyd9 Rhagfyr
- Cyhoeddwyd21 Tachwedd
- Cyhoeddwyd4 Tachwedd
Er iddi gael y graddau yr oedd eu hangen i astudio meddygaeth, roedd eistedd yr arholiadau yn gallu bod yn anodd.
"Roedd e'n amharu ar fy ngwaith ysgol ac mi oedd yn rhaid i mi gerdded mas o arholiadau Safon Uwch. O'dd Lefel A fi'n awful.
"Dynion oedd yr athrawon Safon Uwch i gyd, felly o'n i methu rhannu efo'r athrawon sut o'n i'n teimlo achos o'n i'n meddwl bydd nhw ddim yn deall sut mae fe fel.
"Doeddwn i ddim mor gyfforddus i drafod fel yr ydw i nawr."
Ar un o'r adegau gwaethaf eraill, dywedodd Begw bod ei horiawr clyfar wedi dangos bod curiad ei chalon wedi cwympo oherwydd ei bod wedi colli gymaint o waed.
Dywedodd mai "dyma un o'r rhesymau pam fi'n gwneud meddygaeth a bod yn feddyg plant neu gynaecologist achos dwi ishe cynnig cysur i gleifion sy'n dioddef".
'Effeithio ar 29% o bobl'
Mae ymchwil gan Gonffederasiwn y GIG yn amcangyfrif fod cost absenoldebau o'r gwaith oherwydd problemau fel poen mislif difrifol neu syst ofarïaidd tua £11bn y flwyddyn yn y DU.
Yr wythnos ddiwethaf fe wnaeth Llywodraeth Cymru gyhoeddi Cynllun Iechyd Menywod am y tro cyntaf.
Fel rhan o'r cynllun 10 mlynedd, bydd ffocws penodol ar wyth maes lle mae modd gwella gofal iechyd i fenywod, yn ogystal â chyllid gwerth £750,000 ar gyfer gwaith ymchwil.
Mae iechyd mislif ac endometriosis ymhlith y meysydd ffocws yma.
Nawr mae ymchwilwyr eisiau clywed gan ferched eraill sy'n profi poen difrifol y mislif i rannu eu profiadau fel rhan o astudiaeth ym Mhrifysgol Caerdydd.
Mae Dr Robyn Jackowich yn un o'r ymchwilwyr sy'n arwain cynllun Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.
Fel rhan o'r cynllun dwy flynedd, fe fydd rhestr o argymhellion yn cael eu cyflwyno i ddarparwyr iechyd ac addysg.
"Mae 'na bendant alw am hyn, wrth ystyried pa mor gyffredin yw'r problemau yma a'r effaith mae'n ei gael ar y bobl sy'n eu profi," meddai.
Dywedodd Dr Jackowich fod poen mislif difrifol yn rhywbeth y mae rhywun yn gallu ei brofi ar ei ben ei hun, neu fel rhan o gyflwr arall fel endometriosis neu uterine fibroids.
"Mae poen mislif difrifol yn ei gwneud hi'n anodd gwneud gweithgareddau arferol o ddydd i ddydd, a'r gred yw ei fod yn effeithio ar 29% o bobl sy'n cael mislif.
"Mae'n gallu ei gwneud hi'n anodd i bobl ganolbwyntio, symud, cysgu neu'n gallu arwain at golli'r ysgol neu'r gwaith."
Fel rhan o'r gwaith ymchwil, y gobaith yw gallu trafod y mater gyda mwy o bobl, gan gynnwys rhieni, athrawon a fferyllwyr cymunedol.
"Mae'r bobl yma yn chwarae rhan allweddol yn addysg pobl ifanc a'u mynediad at ofal iechyd, a hynny yn aml o gwmpas yr adeg mae'r mislif yn dechrau," ychwanegodd Dr Jackowich.
"Felly, mae'n bwysig deall beth yn union mae rhieni ei angen i allu cefnogi pobl ifanc."
'Angen torri'r stigma'
I fam Begw, Grug, sy'n nyrs, mae'n "anodd" gweld y boen mae ei merch yn ei ddioddef.
"O'n i'n gweld y frwydr i gael diagnosis yn anodd i Begw," meddai.
"Dyn o'dd y gynaecologist ac o'dd e'n trial gwahanol meddyginiaeth ac o'dd hi dal yn boenus.
"Esh i fewn 'efo hi y tro diwetha' – y pryd hynny nath e roi hi lawr am laporoscopy. Mae'n druenu bo' fi 'di goro mynd i mewn gyda hi."
Mae Begw yn credu bod angen addysgu pobl ifanc am y mislif a'r poenau mae merched yn gallu eu hwynebu.
"Mae angen codi ymwybyddiaeth am periods.
"Mae lot o bois yn credu fod menywod yn bod yn ddramatig a bo ni'n 'neud e lan.
"Mae angen torri'r stigma ac addysgu pobl ifanc i fod yn ymwybodol am sut ma'n teimlo."