Dysgu'r ifanc i fyw'n iach yn llai o gost i'r gwasanaeth iechyd, yn ôl cogydd
- Cyhoeddwyd
Mae cogydd adnabyddus wedi galw ar Lywodraeth Cymru i edrych eto ar le maen nhw'n gwario rhan o'u cyllideb iechyd.
Yn ôl Simon Wright - sydd wedi cyflwyno rhaglenni teledu am goginio ac sy'n berchen ar Wright's Food Emporium yn Llanarthne, Sir Gâr - dylid gwario rhagor ar addysg ar fwyd ac ymarfer corff mewn ysgolion.
Byddai'r gwariant, meddai, yn arwain at leihau costau'r gwasanaeth iechyd yn y pen draw.
Mae gofal iechyd yng Nghymru yn cael cynnig £610m yn fwy y flwyddyn nesaf, yn ôl cyllideb Llywodraeth Cymru.
Wrth gydweithio â chogyddion proffesiynol dan ofal menter Cegin y Bobl yng Nghanolfan Antioch, Llanelli ddydd Iau, roedd disgyblion ysgol Pen Rhos, Llanelli yn mwynhau'r profiad o baratoi cinio Nadolig ar gyfer grŵp o henoed.
Dywedodd Olivia, disgybl naw oed o'r ysgol, ei bod wedi dysgu sgiliau newydd.
"Ni wedi dysgu sut i ddefnyddio cyllell," meddai.
"Fi wedi mwynhau torri afal a moron a phopeth. Fi'n hoffi coginio achos fi'n gwneud e gyda fy mam."
- Cyhoeddwyd7 Tachwedd 2024
- Cyhoeddwyd17 Hydref 2024
- Cyhoeddwyd10 Rhagfyr 2024
"Ni wedi creu cinio Nadolig a treiffl i bobl yn y caffi," meddai Cowen, disgybl naw oed yn Ysgol Pen Rhos.
"Ni wedi dysgu sut i cuto carrots a llysiau gwahanol, a'r ingredients i roi mewn y cinio hefyd... Fi'n hapus i greu cinio Nadolig i bobl."
Sbarduno 'chwyldro coginio'
Menter newydd nid-er-elw, yw Cegin y Bobl, sy'n ceisio cysylltu pobl â bwyd da a mynd i'r afael â'r heriau sy'n eu hwynebu.
Gyda chriw o gogyddion proffesiynol yn rhan o'r fenter, eu nod yw addysgu pobl yn y gymuned, o blant ysgol i bobl hŷn, am gynhwysion gwahanol a sut i'w trawsnewid yn bryd o fwyd fforddiadwy.
Eu gobaith yw y bydd eu gwaith yn dechrau "chwyldro bwyd" yng Nghymru.
Ffion Roberts yw un o'r cogyddion proffesiynol sydd ynghlwm â menter Cegin y Bobl.
"Beth ni'n ffeindio yw bod lot o bobl ddim yn coginio rhagor - ni 'di colli hwnna," meddai.
"Beth sy'n bwysig yw ein bod ni'n cael pobl gyda'n gilydd a [sbarduno] cooking revolution - 'na beth ni eisiau gwneud…
"Ni'n dysgu nhw [y plant] am knife skills ac am produce lleol a hefyd am rai ingredients dy'n nhw ddim wedi trial o'r blaen."
'O'n ni gyd yn gwneud coginio yn yr ysgol'
Daeth dros 20 o bobl hŷn i Ganolfan Antioch, Llanelli i fwynhau eu cinio Nadolig.
Ymhlith rheiny roedd cwsmeriaid rheolaidd y caffi, aelodau o grŵp y capel ac unigolion oedd yn awyddus am ychydig o gwmni dros yr ŵyl.
A hithau dros 65 oed, dywedodd Christine John o Langennech: "Bues i yn cael cinio yn Llundain pythefnos yn ôl, a o'dd hwnna nawr cystal â'r un ges i yn yr hotel fawr yn Llundain. Galla' i ddim dweud fwy 'na hynna - ardderchog!
"Pan o'n i'n ysgol o'n ni gyd yn gwneud coginio. Wrth gwrs, dyw pawb ddim yn cael coginio nawr trwy'r ysgol.
"Fi'n credu i gael iechyd da, mae eisiau ein bod ni yn gallu coginio y ffordd iawn."
Roedd Heather Jones, 82, hefyd yn dweud bod y cinio yn "ardderchog".
Wrth ddisgrifio'r plant a'u gwaith gyda'r cogyddion, dywedodd: "O'n i'n meddwl o'n nhw'n wonderful."
'Rhaid i ni feddwl yn fawr'
Yn ôl Cyfarwyddwr Cegin y Bobl, Simon Wright, dylai'r llywodraeth wneud mwy i gefnogi menterau fel hyn yn y dyfodol.
"Dwi'n credu ddylsai'r llywodraeth ganolbwyntio yn fwy ar fwyd mewn ysgolion," meddai.
Dylid edrych, meddai, ar "yr holl ddiwylliant o fwyd - nid gallu y plant a'u rhieni a'r athrawon i goginio yn unig, ond hefyd, mae'n rhaid i ni feddwl yn fawr, fawr iawn am ginio ysgol a diwylliant y bwyd hynny mewn ysgolion.
"Dwi'n credu bod angen i'r Llywodraeth roi ymdrech go iawn tu ôl i'r hyn maen nhw'n ei ddweud sef bod atal rhywbeth yn well na gwella rhywbeth.
"Os ydych chi'n gwneud hynny, ar lawr gwlad, gyda'r plant, yn hytrach na negeseuon a phosteri a ymgyrchoedd, fe all wneud gwahaniaeth mawr... fe welwch chi'r buddion drwy gael bil llai i'r gwasanaeth iechyd."
Roedd y Prif Weinidog, Eluned Morgan hefyd yno i helpu'r plant weini'r bwyd ddydd Iau.
Dywedodd: "Ers i fi ddod yn brif weinidog, ry'n ni wedi lledaenu prydau bwyd am ddim i bob ysgol gynradd yn y wlad.
"Dyw hwnna ddim yn digwydd mewn unrhyw wlad arall yn y DU felly mae hwnna'n gam pwysig ymlaen.
"Mae'n rhaid i ni nawr sicrhau bod y bwyd yna o ansawdd da, bod e'n lleol lle yn bosib, ac wrth gwrs, mae wastad mwy gallen ni wneud.
"Ond dwi'n meddwl mae'r gwaith mae Cegin y Bobl yn ei wneud yn arbennig yn Sir Gaerfyrddin yn rhywbeth dylen ni ddathlu a dysgu gwersi o'r hyn maen nhw wedi gwneud yn lleol."