Cofio trychineb llong a laddodd 12 ger arfordir Cymru ganrif yn ôl

Suddodd llong yr SS Sutton rhwng Aber-porth a Mwnt ym Mae Ceredigion
- Cyhoeddwyd
Fe fydd cymuned yng Ngheredigion a disgynyddion capten llong stêm a suddodd union 100 mlynedd yn ôl yn dod ynghyd i gofio'r drasiedi nos Iau.
Bu farw 12 o bobl pan suddodd yr SS Sutton rhwng Aber-porth a Mwnt mewn tywydd garw.
Roedd y llong o Lerpwl yn cludo plwm a zinc i borthladd Antwerp, Gwlad Belg ar y pryd.
Penderfynodd ymchwiliad swyddogol ym mis Mehefin 1926 bod y llong wedi suddo am fod y cargo wedi symud ar ei bwrdd, ond roedd rhai yn feirniadol o ymateb yr awdurdodau ar y noson.

Bu farw'r capten, William Terretta a'i wraig Margaret (chwith), a dau o'i blant yn y digwyddiad
Roedd y capten, William Terretta, ar ei fordaith olaf cyn ymddeol i weithio ar gamlesi Manceinion. Bu farw Capten Terretta, ei wraig Margaret a dau o'u plant, William ac Eleanor, 21 a 18.
Roedd nifer yn feirniadol o'r ffaith na ddaeth y bad achub a Gwylwyr y Glannau i gynorthwyo'r criw o Runcorn, er bod golau wedi ei weld allan ar y môr yn ystod y storm.
Roedd tad Dilwyn Jenkins, Llewelyn, yn un o dri brawd lleol o Barcllyn, a welodd y golau o'r llong ar y môr.
"Roedden nhw wedi gweld rhyw olau, ac fel plant, heb wneud llawer o sylw, ond wedyn y diwrnod ar ôl 'ny daeth y drychineb i glawr pan aethon nhw lawr i chwilio beth oedd wedi ei olchi lan. Roedd hi'n storom haerllug."

Roedd tad Dilwyn Jenkins yn un o dri brawd a welodd olau o'r SS Sutton allan ym Mae Ceredigion
Daeth y brodyr o hyd i gorff morwr o'r enw William Booth ar draeth y Gwyrddon ger Aber-porth, yn ôl Dilwyn Jenkins.
"Cafon nhw afael arno yn yr ogof ar y traeth. Roedd e wedi bod yna ers cryn dipyn o oriau, bron diwrnod cyfan."
Roedd Booth wedi marw o effeithiau'r oerfel yn hytrach na boddi.
Daeth corff Mrs Terretta i'r golwg ar draeth Penbryn ar fore 30 Tachwedd. Roedd hi wedi boddi.
Yna ym mis Mawrth 1926, daeth olion corff arall i'r amlwg, a'r gred yw mai corff merch y capten, Eleanor, oedd hwnnw.

Bu farw 12 o bobl pan suddodd y llong ar 27 Tachwedd 1925
Am 18:00 nos Iau 26 Tachwedd, fe fydd pobl Aber-porth yn ymgynnull ar lan y môr i gynnau ffagl i gofio am y 12 a fu farw, union ganrif yn ddiweddarach.
Fe fydd Côr Meibion Blaenporth yn canu Dragwyddol Dad, Alluog Iôr, emyn sydd yn gysylltiedig â'r byd morwrol, ac fe fydd enwau'r rhai a fu farw yn cael eu darllen.
Fe fydd disgynyddion y Capten Terretta o Runcorn hefyd yn bresennol.

Fe fydd ffagl yn cael ei chynnau ar arfordir Aber-porth nos Iau i nodi canmlwyddiant y drasiedi
Fe fydd Dilwyn Jenkins hefyd yn rhan o'r seremoni i goffau'r 12 fu farw, ac mae'n teimlo'n gryf bod angen cofeb barhaol i griw yr SS Sutton.
"Mae'n bwysig bod ni yn cofio amdanyn nhw", meddai.
"Mae'n rhaid cofio bod 12 bywyd wedi cael eu colli, a rhai ifanc yn eu canol nhw.
"Mae angen rhoi rhywbeth yn barhaol i gofio amdanyn nhw i'r cenedlaethau sydd i ddod i gofio bod y fath drasiedi wedi digwydd a gobeithio na fydd yn digwydd byth eto."
Mae'r Cynghorydd lleol, Clive Davies, yn cytuno bod angen cofeb, ac mae'n credu y bydd y seremoni nos Iau yn un "emosiynol iawn".
"Mae yna grŵp hanes gweithgar iawn yma, yn cydweithio gyda'r cyngor cymuned, i greu rhywbeth fel bod pobl yn cofio hyn a gobeithio na fydd hyn yn digwydd eto. Gobeithio y bydd yna gofeb."

Mae'r newyddiadurwr a'r hanesydd lleol Mike Lewis wedi bod yn ymchwilio i hanes yr SS Sutton
Mae'r newyddiadurwr a'r hanesydd lleol Mike Lewis wedi bod yn ymchwilio i'r hanes ers blynyddoedd.
Mae'n dweud bod yna ddicter lleol ar y pryd na alwyd y bad achub allan i geisio achub criw y llong.
"Fe ddaeth dwy gymuned forwrol, Aber-porth yng Ngheredigion a Runcorn ar Lannau Mersi ynghyd mewn galar a dicter.
"Roedd swydd gwyliwr y nos yn Aber-porth wedi cael ei dileu ychydig cyn y digwyddiad.
"Fe fyddai'r gwyliwr wedi medru gwneud galwad ffôn i alw am gymorth Gwylwyr y Glannau naill a'i o Ben Cemaes neu o Geinewydd."

Mae Hanes Aberporth wedi creu arddangosfa sy'n rhoi gwybodaeth am dranc yr SS Sutton a'i chriw
Mae Max Thom o Hanes Aber-porth wedi trefnu arddangosfa am hanes yr SS Sutton yn neuadd y pentref.
"Mae hi'n stori drist iawn", meddai.
"Mae hi'n ymddangos bod yna gyfres o fethiannau wedi bod. Fe newidiodd y tywydd. Roedd y math o gargo yn ffactor mawr a thrafferthion gyda Gwylwyr y Glannau.
"Roedd y môr yn arw iawn. Roedd yr amodau yn yr ardal yn wael iawn, gyda gwynt yn chwythu o'r gogledd orllewin.
"Fe wnaeth morwyr Aber-porth alw am ymchwiliad swyddogol am eu bod nhw mor flin gyda'r hyn oedd wedi digwydd. Yn sgil hynny, fe godwyd y mater yn Nhŷ'r Cyffredin."
Fe awgrymodd yr ymchwiliad swyddogol i'r drasiedi y dylai bob llong debyg gario fflêr argyfwng yn y dyfodol.