Pennaeth newydd GIG Cymru yn 'poeni' am restrau aros

Cafodd Jacqueline Totterdell ei phenodi yn bennaeth newydd GIG Cymru ym mis Gorffennaf eleni
- Cyhoeddwyd
Ni fydd pob bwrdd iechyd yng Nghymru yn cyrraedd targed Llywodraeth Cymru i ddileu'r rhestrau aros hiraf erbyn y gwanwyn, yn ôl prif weithredwr newydd GIG Cymru, Jacqueline Totterdell.
Roedd y Gweinidog Iechyd, Jeremy Miles, wedi addo na fyddai neb yn aros dros ddwy flynedd am driniaeth erbyn diwedd mis Mawrth 2026 ac roedd yn "hyderus" y byddai modd cyrraedd y targed.
Mae'r ffigyrau diweddaraf yn dangos bod mwy na 8,700 o gleifion yng Nghymru wedi bod yn aros dwy flynedd neu fwy, o'i gymharu â 168 yn Lloegr.
Yn ei chyfweliad cyntaf ers ei phenodi dywedodd Ms Totterdell fod y targed bron â chael ei gyrraedd yn y rhan fwyaf o ardaloedd ond bod bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr yn y gogledd yn achos pryder.

Cafodd Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr ei roi dan fesurau arbennig am yr eildro ym mis Chwefror 2023
Yn ôl y prif weithredwr newydd, mae "modd trwsio" problemau Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr ond ychwanegodd bod angen mwy o gymorth ar y bwrdd i'w datrys.
Mae 63% o'r cleifion sy'n aros dwy flynedd neu fwy yng Nghymru yn byw yn ardal Betsi Cadwaladr - bwrdd a gafodd ei roi o dan fesurau arbennig am yr eildro yn 2023.
Mae rhai'n dadlau bod y bwrdd yn rhy fawr ac yn galw am ei rannu, ond dywedodd Ms Totterdell nad yw hi wedi dod i benderfyniad eto.
Ychwanegodd nad taflu'r cyfan i'r awyr yw'r ateb cywir gan y byddai hynny'n "tynnu sylw" oddi ar wella gwasanaethau.
Dywedodd ei bod yn canolbwyntio hefyd ar baratoi'r GIG ar gyfer etholiad nesaf y Senedd, a chydweithio â'r llywodraeth nesaf i wneud penderfyniadau er lles pobl Cymru.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Ebrill

- Cyhoeddwyd19 Mehefin

- Cyhoeddwyd28 Mawrth 2024
