Cynlluniau newydd i geisio lleihau rhestrau aros y GIG

- Cyhoeddwyd
Fe allai cleifion sy'n aml yn methu mynychu eu hapwyntiadau ysbyty gael eu hanfon i gefn y rhestr aros, dan gynlluniau newydd i leihau maint y rhestrau hynny a diwygio'r gwasanaeth iechyd.
Mae BBC Cymru yn deall fod hwn yn un o nifer o syniadau ar sut i wella'r gwasanaeth iechyd sy'n cael eu trafod gan Lywodraeth Cymru.
Ond byddai'r bygythiad o gael eich cosbi am fethu apwyntiadau yn cael ei gydbwyso gan ap GIG Cymru, a fyddai'n caniatáu i gleifion newid amseroedd neu ddyddiadau eu hapwyntiadau yn ddiffwdan.
Wrth siarad ar BBC Politics Wales ddydd Sul, dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd Jeremy Miles y gall torri apwyntiadau sydd wedi eu colli, a newidiadau eraill, helpu i leihau'r rhestrau aros yn syfrdanol.
Fe allai byrddau iechyd hefyd gael eu gorfodi i ddychwelyd unrhyw gyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru os ydyn nhw'n methu cyrraedd y targedau sy'n gysylltiedig â'r cyllid hwnnw.
Fyddai hyn ddim yn effeithio ar gyllid craidd byrddau iechyd.
- Cyhoeddwyd24 Hydref 2024
- Cyhoeddwyd29 Ionawr
- Cyhoeddwyd20 Chwefror
Dywedodd Miles fod ei strategaeth i leihau rhestrau aros GIG Cymru gan 200,000, i gael gwared ar amseroedd aros o ddwy flynedd am driniaeth wedi'i chynllunio, ac adfer uchafswm aros o wyth wythnos ar gyfer profion erbyn mis Mawrth 2026.
Aeth ymlaen i ddweud y byddai lleihau nifer yr apwyntiadau a fethwyd neu a ganslwyd, sef tua 700,000 y llynedd, yn helpu i gyrraedd y targedau hynny.
"Nawr mae'n rhaid i ni wneud yn siŵr ein bod yn gwneud popeth o fewn ein gallu i gadw'r apwyntiadau hynny."
Dywedodd wrth y rhaglen os bydd cleifion yn colli apwyntiadau "ddwywaith neu fwy, yna mae pobl yn wynebu'r risg o gael eu cyfeirio yn ôl at eu meddyg teulu".
'Taro bargen newydd'
Mae'r cynlluniau yn cael eu hystyried fel ymgais i "daro bargen newydd" rhwng y gwasanaeth iechyd a chleifion - gyda mwy o ddisgwyliad i gleifion chwarae eu rhan, er enghraifft drwy sicrhau eu bod yn ddigon "ffit" i gael y llawdriniaeth y maen nhw'n aros amdano.
Mae disgwyl hefyd i arweinyddiaeth y gwasanaeth iechyd gael ei ddiwygio, gyda'r nod o'i wneud yn symlach ac yn fwy atebol, a hynny ddwy flynedd yn unig ers y newidiadau diwethaf.
Cafodd Gweithrediaeth GIG Cymru ei sefydlu yn 2023 fel corff "hybrid", yn cynnwys gweision sifil ac arweinwyr iechyd.
Y nod oedd cryfhau arweinyddiaeth a rhoi cymorth i drawsnewid gwasanaethau clinigol yn unol â blaenoriaethau a safonau cenedlaethol.
Ond cafodd y weithrediaeth ei beirniadu yn gynharach eleni mewn adroddiad damniol gan Archwilio Cymru ar safon gwasanaethau canser.
Fe wnaeth yr archwilwyr ganfod fod "dryswch a dyblygu" ar lefel arweinyddiaeth a bod "aneglurder" ynglŷn â beth oedd cyfrifoldebau'r weithrediaeth ar yr un llaw a Llywodraeth Cymru ar y llaw arall.

Mae'r cynlluniau yn cael eu hystyried fel ymgais i "daro bargen newydd" rhwng y gwasanaeth iechyd a chleifion
Mae BBC Cymru hefyd yn deall fod y llywodraeth yn ystyried comisiynu gwasanaethau iechyd o'r sector breifat ar lefel genedlaethol - yn hytrach na chomisiynu'n lleol gan fyrddau iechyd.
Mae'n debygol y byddai byrddau iechyd yn gwthio'n ôl yn erbyn y syniad, ond y ddadl yw y byddai hyn yn arwain at well cynllunio a gwerth am arian.
Mae cyhoeddi ystod ehangach o wybodaeth am berfformiad byrddau iechyd unigol yn cael ei ystyried hefyd - gyda'r nod o hyrwyddo "cystadleuaeth" rhwng byrddau iechyd - fel y gall byrddau iechyd sy'n perfformio'n wael mewn rhai meysydd ddysgu a chael eu barnu yn erbyn y gorau.
Mae disgwyl i'r Ysgrifennydd Iechyd Jeremy Miles roi mwy o fanylion am y newidiadau yn fuan.
'Perfformiad siomedig'
Deallir bod y cynigion yn adlewyrchu'r awydd cynyddol o fewn Llywodraeth Cymru "i fynd i'r afael" â'r hyn sy'n cael ei ystyried yn "berfformiad siomedig" gan y gwasanaeth iechyd dros nifer o flynyddoedd.
Fe fydd panel o arbenigwyr annibynnol yn cyhoeddi adolygiad o'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru ddiwedd mis Ebrill.
Y gred yw bod ganddyn nhw bryderon mawr am effeithiolrwydd systemau rheoli perfformiad o fewn y gwasanaeth.
Wrth ymateb, dywedodd James Evans AS, Ysgrifennydd Cabinet Cysgodol y Ceidwadwyr Cymreig dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol: "Mae'r Ceidwadwyr Cymreig o blaid y cynnig, ond ni fydden nhw'n ddigon i dorri rhestrau aros hir Llafur am driniaethau.
"Llafur Cymru sydd wedi bod yn arwain tra bod y rhestrau aros ar eu hiraf yn y DU, gyda chynnydd o lai nag 1% o ostyngiad o'r brig.
"Mae angen i ni weld cyfyngiadau'n cael eu codi ar rannu gallu rhwng cymunedau, yn drawsffiniol a thraws-sector yn y tymor byr, gyda mwy o welyau GIG, cyllid gofal cymdeithasol a chynllun gweithlu sylweddol yn cael ei ddeddfu yn yr hir dymor."
Dywedodd Mabon ap Gwynfor, Llefarydd Iechyd Plaid Cymru fod "Mae rhywfaint o hyn i'w groesawu ac maent yn adleisio cynlluniau a gyflwynwyd eisoes gan Blaid Cymru, ond mae gennyf bryder difrifol ynghylch y naws o amgylch y cynlluniau hyn.
"Mae Llywodraeth Lafur Cymru eisiau rhoi mwy o atebolrwydd ar y claf ac eto maen nhw wedi torri cyllid iechyd ataliol ac wedi methu â throi'r ddeial ymlaen i symud tuag at agenda fwy ataliol ar gyfer y tymor hir.
"Yn lle hynny, yr hyn yr ydym yn ei glywed yw cynlluniau pellach i gynyddu'r defnydd o'r sector preifat ar draul buddsoddi mewn mesurau ataliol o fewn y gwasanaeth iechyd, megis mwy o Weithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Mawrth
- Cyhoeddwyd11 Mawrth
- Cyhoeddwyd4 Mawrth