Twf 'siomedig' mewn amseroedd aros hir - ysgrifennydd iechyd

Mae Llywodraeth Cymru yn dweud y bydd cyllid ychwanegol yn cael ei wario ar leihau maint y rhestr aros yn gyffredinol gan 200,000
- Cyhoeddwyd
Mae'r nifer sy'n aros mwy na dwy flynedd am driniaeth wedi codi yng Nghymru.
Nod Llywodraeth Cymru oedd eu lleihau i "tua 8,000" ond mae bellach ychydig dros 9,600.
Mae cyfanswm nifer y llwybrau cleifion - sy'n cynnwys y bobl hynny a allai fod ar fwy nag un rhestr - hefyd wedi codi.
Yn ôl Ystadegau Cymru mae ychydig dros 789,900 yn aros i ddechrau triniaeth.
- Cyhoeddwyd6 Ebrill
Dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd Jeremy Miles mai "siomedig yw gweld y twf mewn amseroedd aros hir ym mis Ebrill ar ôl yr holl gynnydd y mae byrddau iechyd wedi'i wneud dros y misoedd diwethaf".
"Er hynny, rydyn ni'n gweld y tuedd yma bob mis Ebrill yng Nghymru ac yng ngwledydd eraill y Deyrnas Unedig.
"Dyma pam rydyn ni'n gwneud newidiadau i'r ffordd y mae'r Gwasanaeth Iechyd yn darparu gofal wedi'i gynllunio ac yn buddsoddi £120m i leihau amseroedd aros eleni.
"Byddwn ni'n parhau i weithio gyda'r Gwasanaeth Iechyd i wella mynediad at ofal, gan ein bod ni'n gwybod pa mor bwysig yw hi i bobl gael triniaeth cyn gynted â phosibl."

Wrth ymateb i'r ystadegau diweddaraf, dywedodd llefarydd iechyd y Ceidwadwyr, James Evans AS, bod "Llafur yn profi bod eu strategaeth iechyd yn methu'n llwyr".
"Mae'n amlwg nad yw pentyrru arian trethdalwyr ar argyfwng y rhestr aros yn ddigon. Mae angen cynllun gweithlu sylweddol".
Ychwanegodd llefarydd iechyd Plaid Cymru, Mabon ap Gwynfor bod gan Lafur "ddim syniad beth maen nhw'n ei wneud".
Dywedodd ei bod yn amlwg fod "camau byrdymor a'u dibyniaeth ar daflu arian at wasanaethau rheng-flaen yn gwneud dim byd i fynd i'r afael â rhestrau aros cynyddol".
Dywedodd llefarydd Reform UK bod Llafur Cymru "yn parhau i fethu cleifion" yn dilyn "blynyddoedd o gamreoli".
Ychwanegodd y llefarydd y byddai'r blaid yn "blaenoriaethu gwasanaethau, torri biwrocratiaeth a sicrhau'r newid mae Cymru ei angen".
Ar beth fydd y £120m yn mynd?
Mae Llywodraeth Cymru yn dweud y bydd y £120m ychwanegol yn cael ei wario ar:
leihau maint y rhestr aros yn gyffredinol gan 200,000;
cael gwared ar bob amser aros dwy flynedd;
adfer yr amseroedd aros diagnostig, gan eu lleihau i lai nag wyth wythnos erbyn mis Mawrth 2026.
Er bod amseroedd aros diagnostig wedi bod yn gostwng yn raddol, cafwyd cynnydd yn y ffigyrau diweddaraf, ac mae 38,500 yn aros yn hirach nag wyth wythnos.
Dywedodd Llywodraeth Cymru y bydd y cyllid newydd yn darparu mwy o apwyntiadau i gleifion allanol, mwy o brofion diagnostig, a mwy o driniaethau, gan gynnwys dros 20,000 o lawdriniaethau cataract.
Bydd disgwyl i bob bwrdd iechyd wneud newidiadau i'w ffordd o ddarparu gwasanaethau, gan gynyddu cynhyrchiant ac effeithlonrwydd.
Bydd hyn yn cynnwys lleihau nifer yr apwyntiadau dilynol sy'n cael eu trefnu'n awtomatig, ac yn lle hynny caniatáu i bobl drefnu apwyntiad dim ond os oes angen iddyn nhw weld meddyg.
Mae'r ystadegau diweddaraf hefyd yn dangos dirywiad o ran gwasanaethau canser, gan ostwng i 60.5% o gleifion yn dechrau triniaeth o fewn 62 diwrnod i'r amheuaeth o ganser.