Canslo Medal Ddrama'r Steddfod yn 'hurt', meddai sylfaenydd cwmni theatr
- Cyhoeddwyd
Roedd y penderfyniad i ganslo'r Fedal Ddrama yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni yn “hurt”, yn ôl sylfaenydd cwmni theatr yn y canolbarth.
Fe wnaeth Jeremy Turner ei sylwadau wrth iddo adael ei rôl fel cyfarwyddwr artistig cwmni theatr Arad Goch ar ôl 35 o flynyddoedd.
Dywedodd Dr Turner y dylid fod wedi gwobrwyo’r ddrama fuddugol ac mai rôl y theatr yw codi cwestiynau a helpu cynulleidfaoedd i ganfod eu hatebion eu hunain.
Mae “amddifadu cynulleidfa” o’r cyfle i wneud hynny yn “gam mawr”, meddai.
Dywedodd yr Eisteddfod y byddai trafodaeth yn cael ei chynnal gyda’r sector theatr ym mis Tachwedd.
- Cyhoeddwyd29 Medi 2024
- Cyhoeddwyd9 Awst 2024
- Cyhoeddwyd8 Awst 2024
Yn ystod yr Eisteddfod ym Mhontypridd fis Awst, cafodd seremoni'r Fedal Ddrama ei chanslo yn ddirybudd, ar ôl y broses o feirniadu’r gystadleuaeth.
Penderfyniad Bwrdd yr Eisteddfod oedd atal y gystadleuaeth, ond dywedodd y beirniaid eu bod nhw’n cytuno.
Yr wythnos ar ôl y brifwyl, fe wnaeth y beirniaid gyhoeddi datganiad i ddweud nid sensora oedd eu bwriad wrth atal y gystadleuaeth, ond yn hytrach “gwarchod pawb a oedd ynghlwm â’r gystadleuaeth a’r gymuned roedd y dramodydd yn honni ei chynrychioli”.
Mewn datganiad ar yr un pryd dywedodd Ashok Ahir, cadeirydd bwrdd yr Eisteddfod, fod y brifwyl yn bwriadu edrych ar y prosesau sy’n ymwneud â’r cystadlaethau cyfansoddi, ac y byddai “cyfle am drafodaeth adeiladol ac aeddfed am hyn oll yn yr hydref”.
Dywedodd Jeremy Turner: "Os yw’r ddrama [fuddugol] yn ddadleuol, 'da ni angen trafod y dadleuon yna, nid eu cuddio nhw.
"Falle bod nhw’n boenus, falle bod nhw’n codi pob math o gwestiynau. Ond oni bai ein bod ni’n trafod y cwestiynau yn agored, yn barchus, mae’r materion yn cael eu hanghofio. A dyw hynny ddim yn iach.”
Ychwanegodd ei fod e’n credu bod y penderfyniad i atal y fedal yn “hurt” ac mai “rôl y ddrama yw codi cwestiynau - os 'da ni’n cuddio pob problem, man a man i ni gael pantomeim pob diwrnod o’r flwyddyn”.
Doedd yr Eisteddfod Genedlaethol ddim am ymateb i’r hyn a ddywedodd Jeremy Turner, ond mewn datganiad dywedodd llefarydd: “Yn dilyn y brifwyl eleni, nododd yr Eisteddfod y byddai’r sefydliad yn fodlon iawn i gynnal trafodaeth ar y cyd gyda’r sector theatr yn yr hydref.
“Rydyn ni’n ddiolchgar i Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu Prifysgol Aberystwyth am eu parodrwydd i arwain symposiwm ym mis Tachwedd dan y teitl Cynrychioli Cynrychiolaeth: Theatr a’i Ystyr.
"Bydd y dyddiad a manylion pellach ar sut i ymuno yn y drafodaeth ar gael yn fuan.”
Cafodd Arad Goch ei sefydlu gan Jeremy Turner yn Aberystwyth yn 1989.
Tyfodd y cwmni i fod yn un o’r prif ddarparwyr theatr i bobl ifanc yng Nghymru, gan lwyfannu hyd at bum cynhyrchiad y flwyddyn.
Bellach mae wedi gadael Arad Goch a chyfarwyddwr artistig newydd – Ffion Wyn Bowen – yn arwain y cwmni.
Wrth adael Arad Goch, mae Jeremy Turner yn archifo degawdau o waith – sgriptiau, lluniau, posteri sioeau – o tua 200 o gynyrchiadau fydd yn cael eu cadw yn y Llyfrgell Genedlaethol.
Dywedodd fod gormod o uchafbwyntiau i’w rhestru i gyd – ond yn eu plith roedd cynhyrchiad ‘Taliesin’ a deithiodd i’r Unol Daleithiau, Canada, Singapore a gwledydd eraill.
Hefyd, soniodd am lansio’r ŵyl ‘Agor Drysau’ “gŵyl ryngwladol i ddod â phobl i mewn i Gymru, ac i farchnata Cymru dramor”.
Roedd sioe awyr agored ‘Hen Linell Bell’ yn 2017 yn uchafbwynt arall, meddai.
Cafodd ei pherfformio ar “brom, a thraeth a strydoedd Aberystwyth. Roedd yn enfawr i gwmni bach fel ni. Ac mae pobl yn gofyn ‘pryd 'da chi’n 'neud yr un nesaf?’
"Roedd hwnna’n ffordd o ddod â’r gymuned ac Arad Goch yn llawer nes at ei gilydd, ac roedd yn ffantastig.”
Wedi degawdau o waith yn y maes, mae Dr Turner yn credu bod proffil y theatr i blant a phobl ifanc yng Nghymru nawr “yn is nag y mae wedi bod”.
Dywedodd fod diffyg strategaeth gan Gyngor y Celfyddydau gan ychwanegu bod Cymru “ymhell ar ei hôl hi” o gymharu gyda gwledydd bach eraill fel Iwerddon a Denmarc.
Dywedodd Dr Turner: “Mae angen strategaeth, mae angen gwaith meddwl difrifol am beth yw rôl a phwysigrwydd a photensial y theatr Gymraeg a Saesneg hefyd.
"Mae’r theatr Saesneg i raddau helaeth yng Nghymru yn tueddu i fod yn theatr Seisnig sydd ddim yn helpu plant a phobl ifanc i adnabod eu hunaniaeth Gymreig. Mae gwaith i wneud f’yna hefyd.”
O ran theatr i blant a phobl ifanc, dywedodd ei fod e’n siomedig bod llai yn digwydd erbyn hyn ac mae’n honni bod theatr mewn addysg wedi cael ei “chwalu” gan Gyngor y Celfyddydau yn 2010 “heb ymgynghori” a bod hynny’n “benderfyniad hurt.”
'Cryn dipyn wedi newid'
Mewn ymateb, dywedodd Dafydd Rhys, Prif Weithredwr Cyngor Celfyddydau Cymru: “Hoffwn ddiolch i Jeremy Turner am ei gyfraniad enfawr i’r sector dros y blynyddoedd, a diolch iddo am ei barodrwydd i ysgogi ar drafodaeth ynglŷn â chyfeiriad y theatr yng Nghymru ac ym maes theatr mewn addysg yn arbennig, fel cyfarwyddwr artistig cwmni theatr Arad Goch.
“Heb os, mae’n wir fod y modd o ymgysylltu gyda phobl ifanc wedi newid cryn dipyn dros y ddegawd ddiwethaf, ond mae sicrhau bod plant a phobl ifanc yn cael mynediad i’r celfyddydau mor hanfodol ag erioed, yn enwedig ar adeg o gyni ariannol i ni fel corff sy’n dosbarthu arian cyhoeddus, fel y mae i awdurdodau lleol, a rhai eraill sy’n cefnogi’r celfyddydau fel rhan bwysig o’n ffordd o fyw.
“Yn bendant ein bwriad wrth roi’r iaith Gymraeg fel un o’n chwe egwyddor fel rhan o’r adolygiad buddsoddi oedd gosod y Gymraeg yng nghanol creadigrwydd, ac yn fuan byddwn yn cyhoeddi ein strategaeth hirdymor a’i is-gynlluniau, gan gynnwys Cynllun y Gymraeg a’r Celfyddydau, gyda’r bwriad i roi ffocws i’r gwaith o fewn Cyngor y Celfyddydau a’r sector gelfyddydol ehangach.
"Rydym yn falch bod Jeremy wedi cyfrannu’n ymgynghorol i’r datblygiadau fel aelod o’r Consortiwm Celf Cymraeg.”