Elusen anabledd 'angen arian erbyn diwedd y mis er mwyn goroesi'

Mae Laura Bugby (dde) yn poeni na fydd ei mab John (canol) yn cael gofal o'r un ansawdd os ydy Anheddau'n cau
- Cyhoeddwyd
Mae elusen sy'n cefnogi pobl ag anableddau ar draws gogledd Cymru yn wynebu argyfwng ariannol, ac mae pobl sy'n dibynnu ar y gwasanaeth yn galw am ei hachub.
Fe allai Anheddau, sy'n helpu pobl ag amrywiaeth eang o gyflyrau ac anhwylderau ers dros 35 mlynedd, orfod cau ei ddrysau oherwydd costau uchel.
Mae teulu sy'n poeni am ddyfodol gofal eu mab pe bai'r elusen yn cau wedi lansio deiseb yn galw ar Lywodraeth Cymru i gamu i mewn.
Mae awdurdodau lleol yn y gogledd wedi cael cais am sylw, gyda rhai o'r cynghorau'n dweud eu bod yn "gweithio mewn partneriaeth â darparwyr gofal i sicrhau bod ein ffioedd yn deg a fforddiadwy".
Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn cydnabod y pryderon ymysg elusennau, a'u bod wedi cynyddu'r gefnogaeth sydd ar gael i'r sector.
- Cyhoeddwyd27 Medi 2024
- Cyhoeddwyd17 Ebrill 2024
Ar hyn o bryd, mae'r elusen yn cefnogi 140 o bobl o Wynedd, Conwy, Ynys Môn, Sir Ddinbych a Wrecsam.
Mae wedi dod i'r amlwg eu bod yn wynebu diffyg o £400,000 oherwydd cynnydd yn y Cyflog Byw Gwirioneddol a chyfraniadau Yswiriant Gwladol cyflogwr.
Yn ôl Anheddau, mae angen cyllid arnyn nhw ar frys ac os nad ydy awdurdodau lleol yn darparu pecyn er mwyn talu eu costau ychwanegol, bydd yn rhaid iddyn nhw ystyried diswyddiadau ymysg eu 400 o staff ym mis Hydref.
'Dim trawiadau gyda'i epilesi nawr'
Mae Laura a Mark Bugby, o'r Bala, yn poeni am ddyfodol gofal eu mab, John, sy'n 30 a sydd ag anabledd difrifol, os yw'r elusen yn gorfod cau.
Dywedon nhw bod y gofal mae'n ei gael yn hanfodol ar gyfer ei iechyd a'i hapusrwydd.
"Dydy John ddim yn cael trawiadau gyda'i epilepsi rŵan gan ei fod yn cael gofal mor dda", meddai Laura, sydd hefyd yn "adlewyrchiad o ba mor hapus" ydy ei mab, meddai.
Mae John wedi byw mewn tŷ â chymorth Anheddau ers 11 mlynedd.
"Mae Anheddau'n darparu'r gefnogaeth 24 awr sydd ei angen arno", ychwanegodd Laura.
"Mae'n mynd allan bob dydd" eglurodd, "yn gwneud ei siopa wythnosol ym Mhorthmadog gyda chefnogaeth ei ofalwyr.
"Mae'n mynd i nofio dair gwaith yr wythnos, ac mae'n beicio unwaith yr wythnos - mae'n brysur iawn, iawn."
Mae chwaer hŷn John, Rebecca, wedi lansio deiseb yn galw ar Lywodraeth Cymru i gamu i mewn.
Mae'r ddeiseb hefyd yn galw ar Lywodraeth Cymru i orfodi safonau comisiynu teg, gan ymgysylltu â darparwyr ar effeithiau cyllid ac ymrwymo i amddiffyn gwasanaethau gofal hanfodol yn yr hirdymor.
Os bydd 10,000 o bobl yn llofnodi'r ddeiseb, mi fydd yn cael ei hystyried ar gyfer trafodaeth yn y Senedd.

Mae Claire Higgins o Anheddau yn rhoi tan mis Medi i awdurdodau lleol gynnig rhagor o gyllid
Fe ddywedodd Prif Swyddog Gweithredol Anheddau, Claire Higgins, fod sefyllfa'r elusen bellach yn ddifrifol.
Dywedodd eu bod wedi gwneud newidiadau mawr o ran "effeithlonrwydd" o fewn y sefydliad ond bod dal "angen yr ymrwymiad ariannu ychwanegol hwnnw arnom gan yr awdurdodau lleol".
Ychwanegodd ei bod wedi rhoi tan ddiwedd mis Medi i'r awdurdodau "oherwydd dyna'r pwynt lle mae angen i mi wneud penderfyniad am ddyfodol y sefydliad".
Dywedodd mai 'r lleiafswm sydd ei angen i oroesi yw cynnydd o 8.8% mewn cyllid.
Ychwanegodd: "Rydym wedi bod yn dadlau'n gryf gyda'r awdurdodau lleol. Rwy'n obeithiol. Ond erbyn diwedd mis Medi os bydd y cynghorau'n dweud 'na', yr unig ffordd y gallwn oroesi yw gwneud diswyddiadau.
"Yna, bydd yn anhygoel o dynn y flwyddyn nesaf a'r cwestiwn mawr yw a allwn ni barhau ar ôl mis Ebrill?"
Y sector wedi'i 'dan-ariannu'n genedlaethol'
Mae cais wedi'i wneud am sylw gan yr awdurdodau lleol sydd dan sylw ac hyd yma rydym wedi cael ymateb gan Gyngor Sir Ddinbych, Conwy, Ynys Môn a Wrecsam.
Wrth ymateb maen nhw'n dweud eu bod yn "gweithio mewn partneriaeth â darparwyr gofal i sicrhau bod ein ffioedd yn deg a fforddiadwy".
Dywedon nhw hefyd eu bod yn "ymwybodol iawn bod gofal cymdeithasol wedi'i dan-ariannu'n genedlaethol ac o ganlyniad rydym wedi bod yn gweithio gydag awdurdodau lleol eraill ar draws Cymru er mwyn mynd i'r afael â hyn gyda Llywodraeth Cymru".
Ychwanegodd Cyngor Sir Ynys Môn eu bod yn "parhau i fod mewn deialog agos ag Anheddau ac wedi ymrwymo i weithio gyda'n partneriaid rhanbarthol i gefnogi'r elusen a sicrhau bod y gwasanaeth hanfodol hwn yn parhau i fod ar gael i'r rhai sydd ei angen."
Dywedodd llefarydd bod Llywodraeth Cymru yn "falch iawn o sector wirfoddol Cymru, sy'n cynnig gwasanaethau hanfodol i gymunedau a phobl sydd angen cefnogaeth".
"Rydym yn cydnabod y pryder ymysg sefydliadau ynghylch newidiadau i gyfraniadau cyflogwyr i Yswiriant Gwladol a wnaed gan Lywodraeth y DU.
"Rydym wedi cynyddu'r gefnogaeth sydd ar gael i'r sector o 7% yn y gyllideb eleni, ac mae awdurdodau lleol yn gallu cynnig hyd at 100% o ryddhad trethi busnes i elusennau cofrestredig."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.