Caernarfon: Arestio dyn ar amheuaeth o gynnau tân yn fwriadol

Cae LlwybrFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd swyddogion eu galw i ardal Cae Llwybr am tua 14:00 brynhawn Llun

  • Cyhoeddwyd

Mae dyn wedi cael ei arestio ar amheuaeth o gynnau tân yn fwriadol yn dilyn digwyddiad yng Nghaernarfon.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i Gae Llwybr yn y dref am 14:03 brynhawn Llun yn dilyn adroddiadau o dân mewn adeilad preswyl.

Dywedodd Heddlu'r Gogledd fod dyn 32 oed wedi cael ei arestio ar amheuaeth o gynnau tân yn fwriadol gyda'r bwriad o beryglu bywyd.

Mae swyddogion yn galw ar unrhyw un sydd â gwybodaeth all fod o ddefnydd i'r ymchwiliad i gysylltu â nhw.

Pynciau cysylltiedig