Dyn fu farw mewn damwain trên ym Mhowys wedi ei enwi
- Cyhoeddwyd
Mae'r dyn fu farw yn dilyn gwrthdrawiad rhwng dau drên ger Llanbrynmair ym Mhowys nos Lun wedi ei enwi'n lleol.
Roedd Tudor Evans yn ei 60au ac yn dod o ardal Aberystwyth.
Dydy enw'r dyn ddim wedi cael ei gadarnhau yn swyddogol eto ac mae'r ymchwiliad i achos y digwyddiad yn parhau.
Cafodd 15 o bobl eraill eu trin yn yr ysbyty wedi'r digwyddiad - pedwar ohonyn nhw am anafiadau difrifol.
Mae wedi dod i'r amlwg hefyd fod gyrrwr un o'r trenau wedi'i anafu'n "eithaf drwg".
Bydd y lein rhwng Machynlleth ac Amwythig yn parhau ar gau tan ddiwedd yr wythnos.
- Cyhoeddwyd22 Hydref
Dywedodd yr Uwcharolygydd Andrew Morgan o Heddlu Trafnidiaeth Prydain brynhawn Mawrth ei bod yn "gynnar iawn" i ddweud beth oedd achos y farwolaeth, "ond ar hyn o bryd 'dyn ni ddim yn credu taw anafiadau o'r ddamwain wnaeth achosi i'r gŵr farw".
Mae'r Gangen Ymchwilio i Ddamweiniau Rheilffordd (RAIB) yn ymchwilio i achos y digwyddiad, a dywedodd yr Heddlu Trafnidiaeth nad ydyn nhw wedi lansio ymchwiliad troseddol hyd yma.
'Torri asgwrn'
Dywedodd prif swyddog gweithredol Trafnidiaeth Cymru, Jan Chaudhary Van de Velde, bod aelodau o staff wedi eu hanafu yn y digwyddiad.
"Cafodd aelodau staff a chwsmeriaid eu hanafu, ac ry'n ni'n cydymdeimlo'n fawr gyda theulu'r unigolyn fu farw wedi'r gwrthdrawiad," meddai.
"Rydyn ni'n gwneud ein gorau i gadw mewn cysylltiad gyda'r bobl hynny gafodd eu hanafu, yn ogystal â theulu'r dyn fu farw.
"O ran ein staff ni, cafodd gyrrwr un o'r trenau ei anafu'n eithaf drwg a chafodd ei gludo i Ysbyty Amwythig... diolch i'r drefn mae bellach yn gwella'n dda o'i anafiadau.
"Fe wnaeth un o'n casglwyr tocynnau dorri asgwrn hefyd, ac mae'r person yna hefyd yn gwella."
Mewn datganiad brynhawn Mercher, ychwanegodd Mr Van de Velde bod swyddogion yr Heddlu Trafnidiaeth a'r RAIB yn parhau ar y safle, ond eu bod yn gobeithio y byddai'r safle ar gael iddyn nhw a Network Rail yn fuan.
"Bydd ein tîm ni a thîm Network Rail yn edrych yn fanwl ar y difrod i'r seilwaith ac yn dechrau llunio cynllun ar gyfer tynnu'r trenau oddi ar y cledrau ac adfer y lein.
"Byddwn yn dechrau'r broses honno yn syth, ond rydyn ni'n disgwyl i'r lein rhwng Machynlleth ac Amwythig barhau ar gau drwy ddydd Iau a Gwener."
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r digwyddiad am tua 19:30 nos Lun ar ôl adroddiadau o ddamwain cyflymder isel.
Roedd un o'r trenau yn teithio o Amwythig i Aberystwyth, a'r llall o Fachynlleth i Amwythig.
Mae'r heddlu'n credu fod y trên i gyfeiriad y gorllewin wedi taro'r trên llonydd oedd yn mynd am y dwyrain.
Mewn datganiad nos Fawrth dywedodd yr RAIB fod eu hymchwiliadau cychwynnol yn awgrymu fod y ddamwain wedi digwydd ar gyflymder o 15mya.
Ychwanegon nhw fod asesiad o'r rheilffordd yn awgrymu fod lefel y gafael rhwng yr olwynion a'r trac yn isel, gan awgrymu fod y trên wedi llithro wrth geisio dod i stop.
Mae'r BBC yn deall fod y trên o Amwythig i Aberystwyth wedi mynd tua chilomedr heibio i'r man stopio cywir, ac mae ymchwiliad ar y gweill er mwyn ceisio sefydlu'r rheswm pam na lwyddodd i stopio.
Dywedodd ffynhonnell sy'n agos at yr ymchwiliad wrth y BBC: "Dydyn ni ddim yn gwybod eto pam na stopiodd."
Mae ffordd yr A470, sydd o fewn ychydig fetrau i leoliad y gwrthdrawiad, yn parhau ynghau ddydd Mercher.
'Dysgu gwersi ar unwaith'
Dywedodd Network Rail eu bod nhw'n gobeithio "dysgu gwersi ar unwaith" er mwyn atal unrhyw wrthdrawiadau tebyg yn y dyfodol.
Yn ôl Nick Millington, Cyfarwyddwr llwybrau Network Rail yng Nghymru, mae'r ymchwiliad yn un "cymhleth".
Mynnodd nad oedd modd iddo wneud sylw am sïon bod dail ar y cledrau wedi arwain at y gwrthdrawiad, ond eglurodd eu bod yn archwilio nifer o feysydd gan gynnwys systemau rheoli a chyfathrebu.
"Cyn i ni ailagor y lein, byddwn yn sicrhau ein bod ni'n dysgu gwersi ar unwaith er mwyn atal gwrthdrawiad arall," meddai.
"Rydyn ni wir yn ddiolchgar am ba mor eang a manwl yw'r ymchwiliad, rhywbeth fydd, gobeithio, yn gysur i nifer."