Gofyn i filoedd barhau i ferwi dŵr wedi Storm Bert

Gweithwyr Dŵr Cymru yn llenwi cefn car a photeli dwr.
Disgrifiad o’r llun,

Mae modd i bobl gasglu poteli dŵr o dri lleoliad gwahanol

  • Cyhoeddwyd

Mae miloedd o bobl yn wynebu gorfod berwi eu dŵr am wythnos arall, wrth i'r gwaith i drwsio difrod i safle trin dŵr yn Rhondda Cynon Taf barhau wedi Storm Bert.

Mae Dŵr Cymru wedi ymddiheuro, a chynyddu faint mae'r cwmni'n ei gynnig mewn iawndal i gwsmeriaid.

Dywedodd y prif weithredwr bod timau'n gweithio "24 awr y dydd" i drwsio'r tanc dŵr yfed ar safle trin dŵr Tynywaun ger Treherbert.

Mae bron i 100 o staff bellach ynghlwm â rheoli ymateb y cwmni i'r digwyddiad, gan gynnwys rhedeg gorsafoedd dŵr potel a chludo cyflenwadau i gwsmeriaid bregus.

Cafodd 'hysbysiad berwi dŵr' ei gyflwyno ddydd Sul - gan effeithio ar 12,000 o gartrefi yn Rhondda Cynon Taf.

Mae'r hysbysiad hwnnw bellach wedi'i ymestyn i ddydd Sul, 8 Rhagfyr.

Cymunedau Blaenrhondda, Blaencwm, Tynewydd, Treherbert, Treorci, Cwm-parc, Ton Pentre, Gelli, rhannau o Pentre, Tonypandy ac Ystrad sydd wedi'u heffeithio.

Mae 14 ysgol, dau ysbyty, wyth cartref gofal ac 17 o ofalwyr plant yn cael eu cefnogi â chyflenwadau dŵr amgen hefyd, naill ai gyda thanceri neu ddŵr potel.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Rhys Richards yn poeni y bydd newid hinsawdd yn golygu mwy o broblemau tebyg yn y dyfodol

Dywedodd Rhys Richards, athro sy'n byw yn Nhreorci, bod y sefyllfa'n "eithaf anghyfleus i fod yn onest".

"Mae'n rhaid i ni ferwi dŵr er mwyn yfed, golchi dannedd, golchi llestri - mae'n boen," meddai.

"Mae'n bwnc llosg - a chwpl o bobl yn eitha' grac amdano fe - ond i fod yn realistig dwi'n teimlo bod e bach mas o reolaeth Dŵr Cymru.

"I fod yn deg maen nhw wedi bod yn eitha' glir gyda negesuon - ond yn sicr mae'n anghyfleus i bobl sy'n byw yn lleol."

'Effeithio ni yn ariannol'

Ychwanegodd Victoria Vickery o siop frechdanau Only Crumbs yn Nhreorci: "Dy'n ni ddim yn medru gweini diodydd poeth ar y funud a pan y'n ni'n paratoi bwyd mae'n rhaid golchi'r llysiau a'r salad mewn dŵr berw neu dŵr potel.

"Mae'n cymryd amser ac wrth reswm yn ein heffeithio ni yn ariannol."

Ar y stryd fawr, dywedodd Janice Cook, oedd allan yn siopa, ei bod hi'n "ofnadwy" gorfod berwi dŵr drwy'r amser yn y tŷ.

"Ry'ch chi'n anghofio weithiau ac yna'n meddwl 'o well i fi beidio defnyddio hwnna nawr' - mae'n waith caled," meddai.

"'Na i ddim twtsho'r tap," meddai Ann Clarke, ond fe ychwanegodd bod Dŵr Cymru wedi bod yn dod â photeli i'w thŷ gan ei bod hi wedi cofrestru fel cwsmer bregus - a bod hynny'n "wych".

Disgrifiad o’r llun,

Roedd llifogydd wedi effeithio ar y tanc sy'n storio dŵr yfed yn safle trin dŵr Tynywaun

Mewn llythyr at bobl leol, dywedodd Peter Perry, prif weithredwr Dŵr Cymru bod mesurydd tywydd yn Nhynywaun wedi mesur "yr ail lawiad uchaf yn y DU ddydd Sadwrn a dydd Sul diwethaf".

"Arweiniodd hyn at lawer iawn o lifogydd ar y safle a dŵr wyneb yn rhedeg o'r bryn i'r tanc storio dŵr yfed gan effeithio ar y tanc."

Mewn cyfweliad â BBC Cymru, dywedodd Mr Perry y byddai'r gwaith i selio'r tanc fel arfer yn cymryd "dros fis", ond bod staff yn gweithio "flat out" i geisio cwblhau’r dasg o fewn pythefnos.

Mae glaw parhaus wedi arafu'r ymdrech, gyda chyfnod o dywydd sych yn angenrheidiol er mwyn cwblhau elfen o'r gwaith.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Peter Perry bod Storm Bert yn brawf cynnar o baratoadau Dŵr Cymru cyn y gaeaf

"Ry'n ni'n deall yr anghyfleustra mae hyn wedi'i achosi i gwsmeriaid... a ry'n ni'n gwneud popeth y gallwn ni i godi'r hysbysiad berwi dŵr mor fuan â phosib," meddai Mr Perry.

Mae £100 yn ychwanegol yn cael ei gynnig i gartrefi sydd wedi'u heffeithio, ar ben y £150 sydd wedi'i addo'n barod, tra bod busnesau yn medru hawlio cyfanswm o £500.

Paratoadau'r gaeaf

Mae Dŵr Cymru'n dweud eu bod wedi treulio misoedd yn paratoi ar gyfer heriau'r gaeaf, yn dilyn cyfres o adroddiadau beirniadol gan reoleiddwyr yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

Ym mis Hydref, roedd y cwmni'n un o dri drwy Gymru a Lloegr i gael eu rhoi yng nghategori isaf OFWAT o ran cyrhaeddiad, gan orfod talu dirwy o £24.1m.

Roedd y rheoleiddiwr yn feirniadol o'u perfformiad mewn meysydd fel taclo toriadau mewn cyflenwadau dŵr, gollyngiadau ac achosion o lygredd.

Cafodd enw da'r cwmni o ran yr amgylchedd ei israddio droeon hefyd gan Gyfoeth Naturiol Cymru, gan syrthio o raddfa pedair seren (arwain y diwydiant) i ddwy (angen gweld gwelliannau).

Disgrifiad o’r llun,

Kit Wilson sy'n gyfrifol am arwain nifer o'r cyfarfodydd sy'n cydlynu ymateb y cwmni pan fo argyfwng yn taro'r rhwydwaith dŵr

Dywedodd Kit Wilson, rheolwr gwasanaethau gweithredol Dŵr Cymru, bod y craffu presennol ar y sector yn golygu ei bod hi "hyd yn oed yn fwy pwysig" sut mae'r cwmni yn rheoli'r misoedd oerach, a gwlypach i ddod.

"Y gaeaf yw'r adeg pan y'n ni'n gweld y mwyaf o effeithiau ar ein rhwydwaith, ac mae hynny'n dod yn fwy a mwy amlwg wrth i effaith newid hinsawdd gryfhau," meddai.

Wrth gael ei holi pam ddylai pobl ymddiried ym mharatoadau'r cwmni, dywedodd Mr Wilson ei bod hi "wastad yn siomedig pan nad y'n ni fel cwmni yn cwrdd â disgwyliadau ein cwsmeriaid a'n rheoleiddwyr".

"Ond mae gennym ni raglen buddsoddi hynod uchelgeisiol dros y pum mlynedd nesa', fydd yn buddsoddi swm anferth o arian - dros £4bn - i'n rhwydwaith.

"Ry'n ni wir yn credu y bydd hyn yn cynrychioli newid sylweddol, fydd yn dechrau newid hefyd sut mae pobl yn teimlo [am y cwmni]."

Defnyddio AI i ragweld problemau

Yn eu pencadlys ar gyrion Caerdydd, dangosodd Mr Wilson eu "stafell aur", lle mae digwyddiadau fel toriadau mewn cyflenwadau neu achosion o lygredd sylweddol yn cael eu rheoli.

Esboniodd bod technoleg deallusrwydd artiffisial (AI) yn cael ei ddefnyddio am y tro cynta', gan ddefnyddio data i helpu rhagweld lle allai problemau ddigwydd ar y rhwydwaith.

"Mae hynny'n galluogi'n timau ni i ymyrryd cyn bod y problemau'n gwaethygu," meddai Mr Wilson.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Dŵr Cymru'n dweud eu bod wedi dosbarthu 150,000 o boteli ers trafferthion Storm Bert

Dywedodd Mr Perry bod Storm Bert yn brawf cynnar o'u paratoadau eleni.

"Roedd gennym ni ymarferiad cynllunio ar gyfer argyfwng yn yr amserlen ar gyfer yr wythnos hon," meddai.

"Bellach ma'r cynllun yna wrthi'n cael ei weithredu - a fe wnawn ni gadw ati am mor hir â sy'n rhaid i ni."

Pynciau cysylltiedig