Storm Bert: Cyhuddo Cyfoeth Naturiol o rybuddio pobl awr yn hwyr
- Cyhoeddwyd
Gallai pobl a gafodd eu taro gan lifogydd yn ystod Storm Bert fod wedi cael eu rhybuddio awr cyn ei bod hi'n rhy hwyr, yn ôl arweinydd cyngor.
Fe welodd rhannau o dde Cymru lifogydd difrifol dros y penwythnos, ac mae gwleidyddion a phobl leol wedi dweud na fu rhybuddion digonol a phrydlon.
Fe wnaeth cartrefi a busnesau ym Mhontypridd ddioddef rhai o sgil effeithiau gwaethaf y tywydd garw, bedair blynedd ers i Storm Dennis daro'r dref.
Dywedodd y Cynghorydd Andrew Morgan, arweinydd cyngor Rhondda Cynon Taf, fod data Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi dangos lefelau uchel afonydd y cymoedd fwy nag awr cyn i drigolion Pontypridd gael eu rhybuddio.
Mewn ymateb dywedodd CNC eu bod wedi rhybuddio eu partneriaid a'r cyhoedd am y llifogydd ddydd Mercher, 20 Tachwedd.
- Cyhoeddwyd26 Tachwedd 2024
- Cyhoeddwyd26 Tachwedd 2024
- Cyhoeddwyd25 Tachwedd 2024
Fe wnaeth Cyngor Rhondda Cynon Taf gyhoeddi digwyddiad difrifol oherwydd "llifogydd sylweddol" ar draws y sir dros y penwythnos.
Dywed y cyngor bod 200 eiddo wedi eu heffeithio, gyda gwerth mwy na mis o law yn disgyn mewn cyfnod byr iawn.
Dywedodd Andrew Morgan iddo gyfarfod â CNC ddydd Mawrth a’u “herio” ar amseroedd rhybuddion llifogydd ddydd Sul.
“Cyflwynais eu tystiolaeth eu hunain iddyn nhw, o’u hystadegau eu hunain yn CNC, oedd yn dangos - er enghraifft - bod lefelau afonydd yn y Gelli a Thynewydd yn y Rhondda, ac Aberdâr, am 06:30 yn cyfateb i lefelau Storm Dennis,” meddai.
“Ac eto, fe gymerodd awr ac 11 munud cyn i rybudd llifogydd gael ei roi i bobl Pontypridd.
“Erbyn hynny… roedd y dŵr eisoes droedfedd o ddyfnder yn y strydoedd ac roedd yr afon yn gorlifo.”
Dywedodd Mr Morgan nad yw’r systemau presennol ynghylch rhybuddion llifogydd yn gweithio.
“Os yw’r systemau’n gweithio’n iawn, a bod y bobl hyn ddim wedi cael rhybudd nes bod dŵr yn eu tai, mae rhywbeth o’i le,” ychwanegodd.
“Pe byddem ni wedi gwybod, gydag awr o rybudd, bod yna debygolrwydd o lifogydd, fe fydden ni wedi gwneud ein gorau glas i gael bagiau tywod yno o leiaf.”
Dywedodd yn flaenorol ei fod wedi ei "syfrdanu" mai dim ond rhybudd tywydd melyn gafodd ei roi yn ei le gan y Swyddfa Dywydd.
Dywedodd y Swyddfa y byddai'n cynnal asesiad llawn ond bod y storm wedi'i "rhagweld yn dda" gyda nifer o rybuddion wedi'u cyhoeddi.
Difrod 'gwerth miliynau o bunnoedd'
Mae ymgyrch lanhau fawr wedi bod ar waith yn y dref ers y storm.
Fe gafodd lido Pontypridd ar safle Parc Ynysangharad, lle gafodd yr Eisteddfod Genedlaethol ei chynnal eleni, ei gau oherwydd difrod.
Cafodd pont yn Abercynon, oedd yn cael ei thrwsio yn sgil difrod Storm Dennis, ei golchi i ffwrdd yn llwyr.
“Ry’n ni’n sôn am ddifrod gwerth miliynau o bunnoedd,” meddai’r Cynghorydd Morgan.
“Mae dwsinau ar ddwsinau o gontractwyr wedi glanhau’r strydoedd. Mae sgipiau y tu allan i dai pobl.
“Mae cael hyn yn digwydd bedair wythnos cyn y Nadolig yn ofnadwy.”
Ychwanegodd Mr Morgan y bydd cyngor RCT yn rhoi arian i bobl sydd wedi’u heffeithio gan Storm Bert o gronfeydd brys, gyda grantiau o £1,000 i fusnesau bach a chanolig, a thrigolion sydd wedi eu heffeithio.
Mae hynny ar ben cyllid Llywodraeth Cymru o £1,000 ar gyfer cartrefi heb yswiriant, a £500 i’r rhai sydd ag yswiriant
Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Eluned Morgan hefyd fod angen gwell rhybuddion llifogydd yng Nghymru.
Mewn ymateb, dywedodd llefarydd ar ran CNC: "Ein neges i bartneriaid proffesiynol a’r cyhoedd o ddydd Mercher yr wythnos ddiwethaf, cyn Storm Bert, oedd bod llifogydd sylweddol yn bosibl ledled Cymru, ac i fod yn barod.
"Ar y dydd Gwener cyn y storm, wnaethon ni gyhoeddi datganiad i'r wasg a gafodd ei ddefnyddio yn eang yn rhybuddio am lifogydd eang posibl.
"Fe wnaethom gyhoeddi rhybudd llifogydd ar gyfer Afon Taf ym Mhontypridd ddydd Sadwrn yn rhoi rhybudd ymlaen llaw i bobl fod llifogydd yn bosibl, ac i fod yn barod.
"Yn gynnar fore Sul, disgynnodd law dwys iawn yn nalgylch Taf, gyda hyd at 160mm wedi'i gofnodi mewn rhai lleoliadau.
"Cafodd rhybudd llifogydd - sy'n nodi bod disgwyl llifogydd, a bod angen gweithredu ar unwaith - ei gyhoeddi ar gyfer Afon Taf ym Mhontypridd am 07:41 ddydd Sul pan gyrhaeddodd yr afon y lefel sy'n sbarduno rhybuddion llifogydd."