Symud i Sweden oedd y penderfyniad cywir - Carrie Jones
- Cyhoeddwyd
Mae ymosodwr tîm pêl-droed merched Cymru, Carrie Jones yn dweud ei bod hi wedi gwneud y penderfyniad cywir er lles ei gyrfa yn symud i glwb IFK Norrköping o Bristol City dros yr Haf.
Mae Norrköping yn chwarae yn Damallsvenskan, sef y brif adran yn Sweden. Maen nhw yn y pumed safle ar y funud gyda dwy gêm o’r tymor yn weddill.
Mae Carrie, sy’n 21 oed, yn dweud ei bod hi’n cael gwersi Swedeg, ond ei bod hi’n bell o fod yn rhugl eto!
Mi fydd hi’n rhan o garfan Cymru ar gyfer rownd gynderfynol gemau ail-gyfle Euro 2025 yn erbyn Slofacia dros yr wythnos nesaf.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Hydref 2024
- Cyhoeddwyd19 Gorffennaf 2024