Arwyddion newydd Llanymddyfri i nodi 'man geni rygbi yng Nghymru'

Arwydd wrth gyrraedd Llanymddyfri
Disgrifiad o’r llun,

Mae enw Coleg Llanymddyfri yn adnabyddus ym myd rygbi a nifer o sêr y gamp yn gyn-ddisgyblion, fel Alun Wyn Jones a George North

  • Cyhoeddwyd

Mae arwyddion ffordd newydd wedi eu codi wrth gyrraedd Llanymddyfri o bob cyfeiriad, yn nodi mai dyma yw "man geni rygbi yng Nghymru".

Am flynyddoedd Llanbedr Pont Steffan oedd wedi ymfalchïo yn y teitl, ar sail gêm rygbi gafodd ei chwarae rhwng Coleg y Dre a Choleg Llanymddyfri yn 1866.

Hon oedd y gêm rygbi gystadleuol gyntaf yng Nghymru.

Ond ar ôl ymchwil hanesyddol, mae Undeb Rygbi Cymru wedi cytuno y dylai'r ddwy dref rannu'r teitl o hyn ymlaen.

Les Rees
Disgrifiad o’r llun,

"Rygbi yw calon y dref," medd Les Rees

Mae cael cadarnhad yr Undeb a gweld yr arwyddion newydd yn cael eu codi yn "sbeshal", yn ôl Lee Rees, capten tîm Llanymddyfri, Y Porthmyn, a hyfforddwr tîm merched Coleg Llanymddyfri.

"Mae hanes rygbi Llanymddyfri yn bwysig. Rygbi yw calon y dref," meddai.

"Ma' pawb yn joio rygbi ac mae'r gymuned a'r chwaraewyr yn uno gyda'i gilydd.

"Dyna'r peth gorau amdano fe."

Mae enw Coleg Llanymddyfri yn adnabyddus ym myd rygbi a nifer o sêr y gamp yn gyn-ddisgyblion, gan gynnwys enwau fel Alun Wyn Jones a George North.

Bu'r athrylith rygbi, Carwyn James, hefyd yn athro a hyfforddwr rygbi yno.

Harrison Roberts
Disgrifiad o’r llun,

Mae Harrison Roberts yn "teimlo yn prowd iawn" o fod wedi helpu i ymchwilio i stori'r gêm rygbi gyntaf

Bu'r hanesydd Coleg, Harrison Roberts, yn helpu i ymchwilio i stori'r gêm rygbi gyntaf.

Dywedodd Mr Roberts bod pennod newydd wedi agor yn llyfr hanes Llanymddyfri, wrth i Undeb Rygbi Cymru a'r arwyddion ffordd newydd gydnabod pwysigrwydd y dref i rygbi yng Nghymru.

"Sy' moin credu fod neb wedi ishte lawr a dweud: 'reit ma' ishe neud tamed bach o ymchwil mewn i hyn i gael yr ateb'."

"Oedd e' ddim di bwrw fi a bod yn onest, tan bo fi'n gweld yr arwyddion newydd yn mynd lan yn dweud: 'man geni rygbi yng Nghymru' a fi yn teithio mewn i gwaith ac yn meddwl 'jiawch nes i part o hynna' a fi yn teimlo yn prowd iawn."

Ychwanegodd Mr Roberts ei bod hi'n "bwysig fod Llambed a Llanymddyfri yn cael bach o limelight!".

Handel Davies
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Handel Davies fod yr arwyddion yn "dod a chlod i'r dre a'n perthynas cryf a rygbi i sylw pawb"

Breuddwyd y cynghorydd sir lleol, Handel Davies, sydd hefyd yn llywydd ac aelod oes o Glwb Rygbi Llanymddyfri, oedd gweld yr arwyddion yn cael eu codi.

"Mae'n dod ag anrhydedd i'r dre, ein bod ni yn Llanymddyfri - gyda Llambed, yn fan geni rygbi," meddai.

"Mae'n dod â chlod i'r dre a'n perthynas cryf a rygbi i sylw pawb. Ni yn dal i chware rygbi yma i safon uchel rhwng y Coleg a'r clwb lleol."

Gareth Salt
Disgrifiad o’r llun,

"Bydd pobol yn cofio hyn am flynydde i ddod," medd Gareth Salt

Roedd derbyn cydnabyddiaeth swyddogol Undeb Rygbi Cymru a chael rhannu'r teitl "man geni rygbi Cymru", yn bwysig i'r dyfodol meddai Gareth Salt, is-ysgrifennydd Clwb Rygbi Llanymddyfri.

"Ma' rygbi yn hynod bwysig yn y dre. Ma' balchder mawr fod rygbi wedi dechre fan hyn," meddai.

"Ma' fe yn rhywbeth hanesyddol - bydd pobol yn cofio hyn am flynydde i ddod wrth i bobol symud mewn 'ma i fyw ac wrth i blant dyfu fyny.

"Bydd e'n atgoffa ni am pa mor bwysig ma' rygbi i ni a pha mor hanesyddol yw Llanymddyfri a rygbi gyda'i gilydd," ychwanegodd Mr Salt.

Pentre Caio
Disgrifiad o’r llun,

Ym Mhentre Caio cafodd y gêm gyntaf ei chwarae rhwng timau'r ddau goleg ym 1866

Tra bod Llanymddyfri a Llambed ar y cyd yn nodi pwysigrwydd y ddwy dref i rygbi yng Nghymru, mae Pentre Caio, sydd union hanner ffordd rhwng y ddau, hefyd yn sôn am gydnabyddiaeth.

Dyma lle cafodd y gêm gyntaf yna ei chware rhwng timau'r ddau goleg ym 1866, ar gaeau Glanyrannell.

Mae galw nawr am gydnabod hefyd pwysigrwydd y pentre' bach tawel gwledig yma i stori rygbi Cymru.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.