Carcharu gweithiwr gŵyl oedd â lluniau anweddus o blant

Adam BellFfynhonnell y llun, Heddlu De Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Adam Bell ddedfryd o ddwy flynedd a thri mis o garchar

  • Cyhoeddwyd

Mae dyn ifanc oedd yn gweithio ar stondin fwyd i gwmni arlwyo mewn gŵyl gerddoriaeth ger Port Talbot wedi ei garcharu ar ôl i'r heddlu ganfod delweddau anweddus o blant ar ei ffôn.

Fe ddaeth yr heddlu i gyswllt â ffôn Adam Bell, 19 o Lundain, ar ôl iddo gynnig gwerthu cyffur ketamine i swyddog diogelwch – nad oedd mewn gwisg swyddogol – yng ngŵyl In It Together ym Margam ym mis Mai.

Fe ddaeth swyddogion o hyd i fagiau o bowdr gwyn yn ei babell yn ddiweddarach.

Pan gymerwyd ffôn Bell oddi wrtho, fe ddaeth yr heddlu o hyd i 146 o luniau anweddus o blant o fewn Categori A – y categori mwyaf difrifol.

Roedd peth o'r cynnwys wedi ei rannu ar ap Telegram.

Fe glywodd y llys i Bell rannu fideo o ferch fach rhwng pump a saith oed yn cael ei cham-drin yn rhywiol.

Roedd ffôn Bell hefyd yn cynnwys fideo anweddus oedd wedi ei dynnu gan Bell o dan sgert merch ifanc heb yn wybod iddi.

Ddydd Gwener, fe gafodd ei ddedfrydu i ddwy flynedd a thri mis yn y carchar.

Roedd wedi pledio'n euog i dri achos o greu delweddau anweddus o blant, un achos o rannu delweddau anweddus o blant, un achos o sbecio ar gyfer pleser rhywiol (voyeurism) ac achos o fod â chyffur Dosbarth B yn ei feddiant gyda'r bwriad o'i werthu.

'Dedfryd o garchar yr unig opsiwn'

Dywedodd yr erlynydd, y bargyfreithiwr Dean Pullig, fod negeseuon wedi eu canfod ar ffôn Bell oedd yn disgrifio ei "obsesiwn" gyda lluniau anweddus o blant.

Ar ran yr amddiffyniad, dywedodd Gerry Mohabir fod Bell wedi pledio’n euog ar y cyfle cyntaf, a’i fod yn awyddus i "ddeall ei ymddygiad yn well".

Fe ddywedodd y Barnwr Geraint Walters fod yr achos yn un difrifol ac mai dedfryd o garchar fyddai’r unig opsiwn.

Ychwanegodd: "Alla'i ddim dechrau dirnad sut y gallech chi fod wedi mynd o fod yn berson o gymeriad da yn ystod mwyafrif blynyddoedd eich llencyndod i droseddu cynifer o weithiau."

Dywedodd Jonathan Pritchard o Wasanaeth Erlyn y Goron: "Roedd tystiolaeth gref i ddangos bod Bell yn bwriadu defnyddio'r ŵyl i gyflenwi cyffuriau anghyfreithlon, ac roedd ei ffôn symudol yn dangos ei fod wedi lawrlwytho a rhannu delweddau amhriodol o blant.

"Gan weithio gyda'r heddlu, aeth Gwasanaeth Erlyn y Goron ati i adeiladu'r achos ar sail y dystiolaeth gref hon, a arweiniodd at Bell yn pledio'n euog i sawl trosedd.

"Mae Bell bellach wedi cael dedfryd am y troseddau hyn, gan gynnwys gorchmynion sydd wedi'u llunio i ddiogelu'r cyhoedd."

Pynciau cysylltiedig