'Does gan Gymru ddim byd i'w golli yn erbyn Canada' - Jones

Chwaraewyr Cymru wedi'r golled yn erbyn Yr AlbanFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe fydd Cymru yn wynebu Canada yn eu hail gêm yng Ngrŵp B ddydd Sadwrn

  • Cyhoeddwyd

Does gan Gymru "ddim byd i'w golli" pan fydda nhw'n wynebu'r ffefrynnau i ennill Grŵp B yng Nghwpan Rygbi'r Byd, Canada, yn ôl Kelsey Jones.

Fe gollodd Cymru o 38-8 yn erbyn yr Alban yn y gêm agoriadol ddydd Sadwrn, sy'n golygu ei bod hi'n debygol y bydd angen iddyn nhw drechu'r tîm sy'n ail ar restr detholion y byd os am sicrhau eu lle yn rownd yr wyth olaf.

Fe enillodd Canada yn gyfforddus o 65-7 yn erbyn Fiji yn eu gêm gyntaf yn y grŵp.

Wedi'r golled yn erbyn yr Alban, dywedodd Jones fod y garfan yn "siomedig ac yn teimlo rhwystredigaeth" ond bod "angen i ni fod yn barod i godi ein gêm yn erbyn Canada... pwy a ŵyr be all ddigwydd".

'Y golled yma'n brifo'

Roedd y gêm rhwng Cymru a'r Alban yn cael ei disgrifio fel un hollbwysig i'r ddwy wlad, gyda nifer yn rhagweld y byddai Canada yn gorffen ar frig y tabl.

Ond er y trafferthion presennol oddi ar y cae yn ymwneud â chytundebau chwaraewyr, fe sgoriodd Yr Alban chwe chais gan fanteisio ar berfformiad siomedig y Cymry.

"Dyma oedd ein ffeinal ni mewn ffordd, dyna sut roedden ni'n ei gweld hi - ond yn anffodus doedden ni ddim digon da," meddai Jones.

"Mae'r golled yma'n brifo wrth gwrs, ond mae'n gyfle nawr i gymryd cam yn ôl a dysgu o'r profiad."

Kelsey JonesFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe ddechreuodd Jones yn safle'r bachwr ddydd Sadwrn

Fe fydd Cymru yn wynebu Canada yn y Salford Community Stadium ddydd Sadwrn, ac mae Jones yn credu ei fod yn gyfle gwych i daro 'nôl.

"Dyma'r gemau y mae angen i ni edrych 'mlaen atyn nhw, 'da ni'n chwarae mewn Cwpan Byd ac mae'n achlysur arbennig," meddai.

"Pwy a ŵyr be all ddigwydd, mae'n dibynnu ar bwy sy'n chwarae orau ar y diwrnod felly 'da ni wir yn edrych 'mlaen at y cyfle i brofi ein hunain eto.

"Fe fydd Canada yn her enfawr... ond mae'r gêm yn gyfle i ni ddangos ein bod ni'n dîm anodd i'w guro.

"Fe rown ni bopeth mewn i'r gêm yma a gweld be sy'n bosib."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.