Gwasanaeth 15 munud: Yr eglwys sy’n ‘addasu er mwyn herio’

  • Cyhoeddwyd

“Dwi’n credu bod ein bywydau ni yn orbrysur. Mae 'na bwysau dychrynllyd ar iechyd meddwl pobl oherwydd hynna. A 'dan ni mewn gwirionedd ddim yn ildio i hynna drwy gynnig gwasanaeth 15 munud, 'dan ni’n herio hynna drwy drio gwneud yn siŵr bod drws yr eglwys yn agored i bobl yng nghanol prysurdeb y byd cyfoes.”

Fel ymateb i brysurdeb pobl yn ei blwyf mae’r offeiriad John Gillibrand wedi cychwyn cynnig gwasanaeth ‘sydyn’ 15 munud ar brynhawn dydd Llun.

Ffynhonnell y llun, John Gillibrand
Disgrifiad o’r llun,

Yr offeiriad John Gillibrand

Mae’r gwasanaeth, sy’n digwydd yn eglwys Dewi Sant ym Mhenllergaer ger Abertawe, yn digwydd am 4:45 y prynhawn er mwyn denu pobl sy’n gorffen gwaith.

Meddai Mr Gillibrand: “Dwi’n ymwybodol bod cynifer o bobl yn y plwyf ac yn y gymdeithas gyfoes sy’ dan bwysedd gyda phethau gwaith a teuluol ac eisiau rhoi cyfle i bobl ddod i’r eglwys am 15 munud a chael cymorth sylweddol, blasu tangnefedd er mwyn copeio gyda'r pwysedd hyn.

“Dwi ddim yn siŵr o le mae’r syniad wedi dod.

“Ond dwi’n credu bod 'na fyd o les i bobl dan bwysau yn y sefyllfa gyfoes - mae 'na fyd o gyfoeth mewn bywyd ysbrydol a gan amlaf mae eglwysi yn ymddangos fel llefydd codi pres a phoeni am y to ac ati felly 'dan ni’n arwain gyda’r cynnig mwya’ sy’ gyda ni, sef bywyd ysbrydol.

“Yn hytrach na phoeni pobl am bethau eraill fel y pres a’r adeilad 'dan ni’n arwain efo’r hyn sy’n wirioneddol bwysig – o dragwyddol bwys.”

Ffynhonnell y llun, John Gillibrand
Disgrifiad o’r llun,

Eglwys Dewi Sant

Ymateb

Mae Mr Gillibrand yn dweud fod ymateb y gynulleidfa wedi bod yn gadarnhaol iawn ac yn pwysleisio fod 'na groeso diamod – nid i aelodau’r eglwys yn unig ond i bawb.

Mae wedi dewis yr amser 4.45 er mwyn ffitio mewn gyda diwedd y shifft cyntaf i weithwyr yr Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau ac Ysbyty Treforus, meddai:

“Cawsom ni dros 20 yn y cwrdd cynta’ gyda phobl yn dod i’r eglwys o’r newydd. Ac hefyd mae’n amlwg bod 'na rai sy’ wedi bod yn bwriadu dod yn gyson.

“Pobl yn dod ar y ffordd o gwaith, pobl oedd wedi gweld y cyhoeddusrwydd yn The Telegraph a The Guardian ac wedi dod o ran diddordeb i weld sut oedd pethau’n mynd.

“Mi oedd pobl o’r Iseldiroedd a’r Philippines yn aros yn yr ardal yn dod ac mi oedd y grŵp yna gyda profiad o arwain yn eu heglwysi eu hunain a gyda diddordeb o weld sut oedd y syniad yn gweithio.”

Ffynhonnell y llun, John Gillibrand

Adborth

Mae eglwysi eraill wedi cysylltu gyda diddordeb mewn cychwyn gwasanaethau sydyn yn eu hardaloedd nhw hefyd.

Ac mae’r adborth gan y gynulleidfa wedi bod yn dda iawn, yn ôl John: “Pob dim yn bositif – ac hefyd mae cefnogaeth wedi bod yn fwy gan y gynulleidfa gyson. Yn realistig mewn eglwysi dyw pobl ddim yn croesawu syniadau newydd ond mae pobl Dewi Sant wedi bod fel arall, yn barod i groesawu rhywbeth newydd, barod i arbrofi ac oedd hynny’n dod mas yn eglur yn y pwyllgor eglwys cyn i ni sefydlu hyn i gyd.”

Felly beth mae’n dweud am gymdeithas fod angen gwasanaethau byr ar bobl?

Meddai Mr Gillibrand: “Mi oedd 'na un sylw gan rywun 'mod i’n rhoi i mewn i ffordd yr oes ond dydw i ddim yn cytuno gyda hynny – 'dan ni’n gwneud hyn er mwyn herio a helpu unigolion yng nghanol hyn i gyd.

“Rydyn ni’n addasu er mwyn herio.

“Mae’n gwneud byd o les i finnau hefyd.

“Un o’r pethau sy’ wedi bod yn drawiadol, yw mod i wedi teimlo, oherwydd bod chi’n gorfod canolbwyntio am y chwarter awr mae’n syndod faint o sylwedd sydd i’r gwasanaeth. 'Dan ni gyd yn gweddïo gyda’n gilydd yn ddistaw ac mae’r distawrwydd wedi bod yn ddwfn ac yn llesol."

Ffynhonnell y llun, John Gillibrand
Disgrifiad o’r llun,

Eglwys Dewi Sant

Fformat y gwasanaeth

“Dwi’n ei rannu’n dair rhan sef pum munud sy’n cynnwys gair o groeso ac egluro i bobl fod y croeso yn ddiamod a darlleniad Beiblaidd sy’n gosod thema y gwasanaeth.

“Wedyn meicro-bregeth pum munud yn pwysleisio ffordd mae bywyd ysbrydol Cristnogol yn medru helpu ni yng nghanol prysurdeb y byd. Wedyn pum munud yn y diwedd o weddïo a ddefnyddio distawrwydd jest i fod yn yr eglwys yn llonydd gyda’n gilydd.

“Dwi’n offeiriad eitha’ profiadol sy’ wedi bod wrthi ers 36 o flynyddoedd ac felly dwi’n gwybod pan fydd ymateb dwfn fel yna ac maen sicr wedi dod i hyn.

Rôl yr eglwys

“Dwi’n credu ei fod hi’n bwysig i eglwysi arbrofi ac ymestyn allan a dangos eu bod nhw’n gwasanaethu y gymuned lleol.

“Os ydy pobl yn troi lan i’r gwasanaeth 15 munud a gwneud hynny’n hapus a chyson, mae’n ffordd arall o fod yn eglwys.

“Yr eglwysi sy’n mynd i dyfu yw’r eglwysi lle mae pobl yn gweld y ffydd yn gwneud gwahaniaeth. Ac hefyd eglwys sy’n ymddiddori mewn pethau sy’n bwysig i bobl – ein bod ni’n dangos y cysylltiad rhwng ffydd a bywyd cyfoes.

"Mae’n syndod beth allwch chi gyflawni mewn 15 munud.”

Pynciau cysylltiedig