Siarad am dy ffydd? Haws dweud na gwneud!
- Cyhoeddwyd
Mae llais ac enw Gareth Iwan Jones yn gyfarwydd i nifer o wrandawyr BBC Radio Cymru fel un o'r criw ar raglen Tudur Owen bob prynhawn Gwener a bore Sadwrn am flynyddoedd.
Ond yn ddiweddar, mae Gareth, sydd yn gweithio fel Uwch Gynhyrchydd i'r orsaf, wedi cael ei benodi yn Ganon Lleyg â Chadeirlan Deiniol Sant ym Mangor. Yma mae'n egluro fod y penodiad wedi codi'r cwestiwn ynglŷn â sut wyt ti'n 'cyfaddef' dy fod gen ti ffydd...
Siarad am grefydd yn 'no-no'
Mae nhw’n deud fod ‘na ddau beth na ddylia chi byth drafod hefo ffrindiau – gwleidyddiaeth a chrefydd.
Mae’n rhaid i mi ddeud mod i’n torri’r rheol am wleidyddiaeth yn reit aml ac wedi rhoi’r byd gwleidyddol yn ei le am oriau yn nhafarndai Bangor, Caernarfon a Sir Fôn ar hyd y blynyddoedd.
Ond mae siarad am grefydd - neu’n waeth fyth ffydd - yn bendant dal yn ‘no-no’. Mae hynny’n un rheswm pam fod rhai o fy ffrindiau wedi cael dipyn o syndod yn ddiweddar pan nes i sôn mod i’n mynd i fod yn Ganon Lleyg yn y Gadeirlan ym Mangor.
Rŵan, mae rhannu’ch profiad o ffydd hefo ffrindiau neu gyd-weithwyr yn medru bod yn brofiad digon chwithig i unrhyw un am wn i, ond pan mae un o’ch ffrindiau gora yn ddigrifwr doniol iawn, a dau arall yn cyd-gyflwyno hefo fo ar y radio, mae’r lefel o risg yn teimlo’n eithaf uchel...
Ond dwi’n ystyried Tudur Owen, Dyl Mei a Manon Rogers-Hyphen-Thomas yn ffrindiau agos iawn, felly roedden nhw ymysg y cyntaf i glywed y newyddion.
'Canon Gareth'
Gyrru neges Facebook nes i yn y lle cyntaf – “O, gyda llaw, dwi am fod yn Ganon...” gan drio gwneud i’r peth swnio mor ddi-nod a naturiol a phosib.
Mi oedd yr ymateb yn hollol hyfryd – wrth gwrs ei fod o, ma' nhw’n griw caredig ac yn ffrindiau annwyl.
Do, mi wnaethon nhw dynnu coes ar y radio - ma' hynny’n rhan o’n perthynas ni, ac i fod yn onest mi fyddwn i wedi bod yn siomedig petai nhw ddim wedi sôn a chael hwyl am y peth.
Fe wnaeth un o’r gwrandawyr gysylltu hefo’r (hen) jôc “Llongyfarchiadau ar fod yn Ganon – dim ond pistol oedd Paul!” ac ar yr awyr o hyn allan ‘Canon Gareth’ fydda i, nid ‘Rhew A Lemon’ neu ‘Mam’.
Ond mi ges i negeseuon hyfryd ganddyn nhw a gweddill y tîm ym Mangor, ac mi oedd hynny’n golygu lot fawr.
Anodd sôn am ffydd
Mae pawb wrth gwrs yn holi be' goblyn ydy Canon Lleyg. Yr esboniad dwi’n ei roi ydy ei fod o’n debyg i lywodraethwr ysgol ond yn y Gadeirlan – a mae o, ond dyna’r ateb hawdd i’w roi yn y swyddfa yn hytrach na’r holl stori.
Byddaf, mi fydda i’n cael y fraint o gynrychioli’r gynulleidfa Gymraeg yn y Gadeirlan. Mae’r Gymraeg o’r diwedd yn cael lle teilwng yn ein gwasanaethau, diolch i’r Is-Ddeon Sion Rhys Evans a’r tîm.
Ond dros y blynyddoedd diwethaf yn y Gadeirlan, dwi hefyd wedi cael profiadau gwirioneddol arbennig. Nid tröedigaeth fel mellten oddi fry, ond teimlad gynyddol gartrefol - ac ysbrydol.
A dyma eto lle mae trafod ffydd yn anodd i rywun sydd heb arfer. Mae’n lot haws sôn am ‘brofiad ysbrydol’ na sôn am ffydd. Mae’n lot haws sôn am bwysigrwydd cynyddol y Gymraeg yn y Gadeirlan, na sôn am ffydd. Mae’n lot haws sôn am ddyletswydd a braint ac anrhydedd, na sôn am ffydd.
Roeddwn i ar y radio dros y penwythnos, ac ar Bwrw Golwg nid rhaglen Tudur Owen; dipyn o newid, i mi a’r gwrandawyr! Fe soniais wrth John Roberts na fyddwn i wedi medru derbyn yr anrhydedd yma petawn i ddim yn meddwl fod y Gadeirlan yn lle sy’n croesawu pawb, yn adeilad a sefydliad gwbl gynhwysol sy’n dangos cariad tuag at bawb yn ein cymdeithas.
Mae medru bod yn chi eich hun yn rhywbeth mor bwysig mewn bywyd, a dwi’n credu hynny’n gryf iawn.
Be' nes i ddim ei ddweud ydy na fyddwn i chwaith wedi medru derbyn y swydd heb ffydd. Ond am ryw reswm mae hynny dal yn anodd i’w ddweud, hyd yn oed fel Canon Gareth ar Bwrw Golwg! Felly, diolch Cymru Fyw am gael dweud hynny rŵan, ac am gael sgwennu ychydig am be' fydd bod yn Ganon yn ei olygu – i mi, o leiaf.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Ionawr 2023
- Cyhoeddwyd15 Mawrth 2023
- Cyhoeddwyd8 Rhagfyr 2022