Arloesi ym maes gofal gyda chapiau siampŵ di-ddŵr

  • Cyhoeddwyd

Mewn stâd ddiwydiannol yn Abertawe mae gwaith arloesol yn cael ei wneud yn datblygu nwyddau a allai wneud y maes gofal yn llawer mwy cynaliadwy.

Mae'r cwmni Waterless sy'n cael ei redeg gan frawd a chwaer, Victor a Jess Efford, yn cynhyrchu capiau golchi gwallt heb ddŵr sy'n gwbl bydradwy (biodegradable) – y cyntaf o'u math yn y byd.

Disgrifiad,

Cwmni o Abertawe sydd wedi creu'r cap golchi gwallt cyntaf o'i fath yn y byd

Cafodd y cwmni ei sefydlu gan Peter Efford yn 2009, ond bellach ei blant sydd wrth y llyw yn edrych ar ôl y busnes a'r ffatri yn Abertawe. Creu a gwerthu nwyddau ymolchi eco-gyfeillgar y mae Waterless, ac fel mae'r enw'n awgrymu mae'r nwyddau yn caniatáu unigolyn i ymolchi o'u corun i'w sawdl heb ddefnyddio dŵr.

Ond mae un eitem maen nhw'n ei gynhyrchu wedi dwyn sylw ar draws y byd yn enwedig o fewn y maes gofal iechyd, sef cap sydd yn caniatáu i rywun olchi ei wallt heb ddŵr.

Disgrifiad o’r llun,

Victor Efford

Dywedodd Victor Efford, sy'n beirianydd: "Mae capiau siampŵ wedi'u hen sefydlu yn y maes gofal ac iechyd. Maen nhw'n cael eu defnyddio gan bobl sy'n cael trafferth gyda symudedd, yn gaeth i'w gwely a gofal diwedd oes er enghraifft.

"Ond mae llawer o'r nwyddau hyn yn cynnwys plastig untro ac yn mynd yn syth i ffwrnais losgi, y domen sbwriel neu dirlenwad."

Nod y cwmni yw ceisio lleihau hynny. Ar hyn o bryd mae'r capiau ymolchi safonol yn y diwydiant yn cael eu cynhyrchu yn China. Yn ôl Victor mae hynny'n anghynaliadwy yn enwedig o safbwynt morio cannoedd o filoedd ohonynt i Brydain bob blwyddyn.

Disgrifiad o’r llun,

Y capiau ymolchi plastig safonol

Felly aeth Victor a Jess ati i ddatblygu a chreu cap ymolchi eu hunain yn eu ffatri fechan yn Abertawe a'r canlyniad yw'r wrap siampŵ.

Proses anodd

Roedd y broses yn un anodd a chymleth medd Victor:

"Roedd datblygu fformiwla'r capiau yn gofyn am lawer o fynd a dod rhyngom ni a gwyddonwyr i gael y fformiwla'n gywir.

"Mae'r wrap siampŵ yn un y gallwch ei gynhesu yn y microdon felly roedd angen ymchwilio'r effaith yr oedd cynhesu'n ei gael ar yr arogl, strwythur y ffibrau, ac effeithiau gwrth-ficrobig y fformiwla.

"Yn naturiol bydd unrhyw hylif sy'n cysylltu â rhywbeth pydradwy yn datblygu rhywfath o bathogenau mewn rhyw ffordd. Felly roedd angen darganfod y blend cywir yn y fformiwla i greu hylif ymolchi da, eco-gyfeillgar na fyddai'n arw ar y croen."

Sut mae'n gweithio?

Mae'r wrap wedi'i drochi mewn siampŵ "towel off" sef siampŵ y gellir ei ddefnyddio heb ddŵr i'w olchi allan. Mae'n cael ei lapio o amgylch y pen ac mae'r siampŵ yn cael ei dylino mewn i'r gwallt. Mae'r weithred yna'n creu ewyn sebon gan godi baw a saim o'r gwallt. Bydd hyn yn gwlychu'r gwallt ac yn ei wneud yn sebonllyd.

Yna rhaid defnyddio lliain i amsugno'r sebon a'r baw o'r gwallt gan ei adael yn lân.

Disgrifiad o’r llun,

Jess Efford yn arddangos pecynnau'r ddau arogl o'r wrap

'Ateb i broblem fawr'

Dywedodd Waterless bod y maes gofal yn chwilio am ragor o ffyrdd i leihau gwastraff a bod y wrap siampŵ yn cynnig ateb perffaith i broblem eco fawr.

Mae'r ymateb i'w nwyddau wedi bod yn gadarnhaol iawn gyda Bwrdd Iechyd Lloegr eisoes wedi eu hychwanegu at ei fframwaith i geisio cyrraedd eu nodau net sero.

Pynciau cysylltiedig