'Angen gwell arwyddion' at gartref Owain Glyndŵr

SycharthFfynhonnell y llun, COMISIWN BRENHINOL HENEBION CYMRU
  • Cyhoeddwyd

Mae angen arwyddion twristiaeth ym Mhowys er mwyn cyfeirio ymwelwyr at gartref Owain Glyndŵr, medd trigolion lleol.

Maen nhw'n dweud bod rhai yn mynd ar goll wrth geisio dod o hyd i Gastell Sycharth.

Yn ddiweddar, dywedodd Llywodraeth Cymru na fyddai'n prynu'r safle er i filoedd arwyddo deiseb yn galw am wneud hynny.

Ond yn ôl un aelod o gabinet Cyngor Powys fe allai gosod arwyddion brown ddenu gormod o ymwelwyr.

Arwydd brown o gymorth

Mae Castell Sycharth wedi'i leoli i'r de o Lansilin.

Dros 600 mlynedd yn ôl roedd y lle yn llawn bywyd gydag ymwelwyr yn dod o bell ac agos.

Yn fwy diweddar mae’r castell wedi cael cryn sylw wrth i ddeiseb ag arni dros 10,000 o lofnodion alw ar Lywodraeth Cymru i brynu'r safle gan berchennog preifat - a hynny er mwyn ei ddiogelu ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

Nawr mae 'na alw am osod arwyddion twristiaeth brown ar hyd y ffyrdd i’r castell mwnt a beili er mwyn hwyluso’r broses o ddarganfod y safle.

Disgrifiad,

Ai dyma sut oedd llys Glyndŵr yn edrych?

Dywedodd y Cynghorydd Elwyn Vaughan o Blaid Cymru: "Mae eisiau gwneud y mwyaf o’n treftadaeth - ma' eisiau 'neud y mwyaf o’n twristiaeth dreftadol.

“Y flwyddyn nesa', mae gyda chi Eisteddfod yr Urdd lawr y ffordd a’r math o bobl fydde â diddordeb yn ein treftadaeth hanesyddol ac felly ma' angen gwneud y mwya' o hynny - nid gweld e fel problem ond gweld e fel cyfle.

“Y peth pwysig yw mater syml o hwyluso. Ma' 'na arwyddbyst sydd ddim yn bell o fan hyn yn cyfeirio at Lansilin, at Groesoswallt ac yn y blaen a bydde'n hawdd iawn rhoi Sycharth a chyfeirio pobl heb lawer o gost.

“Ma 'na arwyddion i fynd i Gastell Dolforwyn sy’n ffordd llawer iawn gwaeth a chulach ac mae rhiw serth i fynd ato o'r Drenewydd - da o beth yw hynny ond pam na allwn ni gael un yn fan hyn hefyd?"

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Cyngorydd Elwyn Vaughan yn meddwl bydd yr arwyddion yn annog pobl i ymweld â Sycharth

I gyrraedd Castell Sycharth mae’n rhaid gyrru ar hyd lonydd cefn sir Drefaldwyn - maen nhw’n lonydd cul, ac hyd yn oed ar ddiwrnod braf a chlir dyw hi ddim yn gwbl amlwg lle mae safle’r castell.

Mae pobl yn mynd ar goll “byth a beunydd” wrth geisio dod o hyd i’r castell yn ôl Bryn Davies, sy’n gynghorydd sir ac yn byw gerllaw.

“Ni’n clywed am bobl sy’n trio cyfarfod yn y lle a methu dod o hyd iddo.

"Mae ‘na amaturiaid wedi bod yn rhoi arwyddion fyny bob hyn a hyn ond beth sydd angen yw arwyddion swyddogol i ddangos yn glir o’r tri cyfeiriad gwahanol ble mae Sycharth.”

Sycharth yn rhy fach?

Yn ddiweddar fe ysgrifennodd Aelodau Senedd Plaid Cymru, Cefin Campbell a Heledd Fychan at Gyngor Powys yn galw arnyn nhw i ystyried codi arwyddion twristiaeth.

Mewn ymateb fe ddywedodd y Cynghorydd Jackie Charlton, Aelod Cabinet ar gyfer Powys Wyrddach ei bod hi’n “deall yr angen i gael arwyddion digonol ar gyfer ein safleoedd hanesyddol amlwg a phwysig” ond taw “nifer cyfyngedig o lefydd parcio oedd yn Sycharth ac y gallai arwyddion ddenu mwy o ymwelwyr na mae’r safle’n gallu ei ddal".

Ychwanegodd Ms Charlton bod maint y lleoliad o bosib yn golygu “na fyddai’n cael ei ystyried ar gyfer arwyddion twristiaeth”.

Disgrifiad o’r llun,

Dyw'r arwyddion presennol ddim yn ddigon clir, medd rhai trigolion lleol

Yn ôl yr Athro Rhys Jones, o Adran Ddaearyddiaeth Prifysgol Aberystwyth, prin yw’r dystiolaeth bod arwyddion twristiaeth yn denu rhagor o ymwelwyr i safleoedd penodol.

“Mae’r dystioaleth gyfyngedig sydd ar gael yn dangos nad oes lot fawr o impact gan yr arwyddion brown beth bynnag - yn sicr ar gyfer pobol sydd yn digwydd teithio ar hyd yr hewl ac yn meddwl 'dwi’n gweld arwydd brown fan hyn ar gyfer safle penodol - 'nai daro mewn i weld beth sydd i’w gynnig gan y safle'.

"Maen nhw’n fwy defnyddiol i bobol sy’n teithio ac sydd ddim yn gwybod ble mae’r safle, ond ma rheina’n bobol sydd wedi cynllunio i fynd i’r safle beth bynnag. Ma’r arwyddion brown falle yn gallu bod o gymorth fynna.”

'Syniad da' hyrwyddo hanes lleol

Disgrifiad o’r llun,

Mae Iestyn yn meddwl ei bod yn "syniad da" i bobl ddod i wybod am y lleoliad

Yn nhre Llanfyllin, oddeutu wyth milltir o’r castell, roedd pobl leol yn sicr yn credu bod codi arwyddion brown ar gyfer y safle yn syniad da.

“Mae’n syniad da i gael pobol i wybod am y lle ac i wybod am yr hanes,” medd Iestyn. “Mae e’n le pwysig yn hanes Cymru.”

“Dwi wedi byw ‘ma ers naw mlynedd,” medd Jo “a dyw e ddim yn le o’n i wedi clywed am o’r blaen.

"Byddai [codi arwyddion brown] yn cael rhagor o bobl i fynd 'na a byddai pobl leol yn clywed am y lle.”

“Wrth gwrs” oedd ateb Ann. “Dwi’n gwybod ble mae Sycharth, ond does ‘na ddim arwyddion yno cyn belled â wela i. Wrth gwrs, i bobol cael gwybod lle mae o, achos mae o allan yn y wlad a does na ddim arwyddion na dim byd.”

Pynciau cysylltiedig