Croesawu'r Urdd i Faldwyn ond dim gorymdaith yn sgil tywydd

Mae 'na ddisgwyl eiddgar yn Sir Drefaldwyn ar gyfer yr ŵyl y flwyddyn nesa
- Cyhoeddwyd
Wedi wythnos o weithgareddau i nodi Gŵyl Gyhoeddi Eisteddfod yr Urdd Maldwyn 2024, daeth penllanw'r cyfan yn Y Drenewydd ddydd Sadwrn.
Ond yn sgil tywydd gwael, ni fu'n bosib cynnal gorymdaith oedd wedi ei threfnu.
Roedd disgwyl i gannoedd o blant a phobl ifanc orymdeithio drwy'r dref, gyda phob ysgol ar hyd y sir wedi eu gwahodd i gymryd rhan.
Ond gyda rhybudd melyn am dywydd garw mewn grym i rannau dywedodd Eisteddfod yr Urdd na fyddai'n digwydd.
Caniatáu cynnwys X?
Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Er hynny, fe gafodd prynhawn o weithgareddau ei gynnal er bod angen newid y lleoliad.
Yn hytrach na'u bod yn y parc, fe gawson nhw eu cynnal dan do yn Ysgol Dafydd Llwyd.
Dywedodd y mudiad mewn neges ar-lein eu bod wedi cael "diwrnod gwych er gwaetha'r tywydd".
Daeth y diwrnod cyhoeddi wedi i dîm o wirfoddolwyr lleol fod ar daith feicio i ymweld ag ysgolion y sir i godi ymwybyddiaeth.
Taith feicio i nodi Gŵyl Gyhoeddi Eisteddfod yr Urdd 2024
Yn rhan o weithgareddau’r cyhoeddi ddydd Sadwrn roedd yna berfformiadau gan ysgolion lleol wnaeth gynrychioli rhanbarth Maldwyn yn Eisteddfod yr Urdd yn Llanymddyfri fis Mai, yn ogystal â Jambori a pherfformiad hwyliog gan Aeron Pughe a Mari Lovgreen.
Roedd ‘na ddarlleniad o’r Cywydd Croeso sydd wedi ei ysgrifennu gan Arwyn 'Groe' Davies gyda chefnogaeth plant Ysgol Dafydd Llwyd ac Ysgol Pontrobert.
Ac roedd modd clywed 'Cân y Cyhoeddi' hefyd sydd wedi ei hysgrifennu gan Ann Fychan a chyn-enillydd Cân i Gymru, Rhydian Meilyr
Nos Sadwrn yng Nghanolfan Hamdden Caereinion mae ‘na noson o adloniant gan dalentau lleol, ac fe fydd yna gymanfa ganu yng Nghapel Heol China, Llanidloes brynhawn Sul.
Dydy Eisteddfod yr Urdd ddim wedi ymweld â Sir Drefaldwyn ers 1988, pan gafodd ei chynnal yn y Drenewydd.
Bydd Eisteddfod yr Urdd 2024 yn cael ei chynnal rhwng 27 Mai a 1 Mehefin y flwyddyn nesaf ym Meifod.
Pynciau cysylltiedig
Straeon Perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Mawrth 2023
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Mehefin 2023