O barti gwaith i ddrama'r geni - hen luniau traddodiadau'r 'Dolig
- Cyhoeddwyd
Plant fel bugeiliaid efo tyweli am eu pen, cinio Merched y Wawr, canu carolau a pharti staff - fel mae’r hen luniau yma yn ei ddangos mae traddodiadau'r wythnosau cyn y Nadolig yn rhan bwysig o'r ŵyl ers amser maith.
Er bod nifer o’r lluniau yn yr oriel yma'n rhai du a gwyn, y ffasiwn wedi newid ac ambell i beth yn codi’r aeliau (fyddai plant heddiw yn smalio smocio pibell mewn drama Nadolig?) mae’r delweddau yn debyg iawn i'r rhai sydd i'w gweld ar hyd a lled Cymru heddiw.
Dyma ddetholiad o luniau Casgliad y Werin o ddathliadau'r ŵyl yn yr wythnosau cyn y Diwrnod Mawr.

Drama'r geni yn Aberystwyth, o gwmpas 1959

Cinio Nadolig Cangen Merched y Wawr Deudraeth, Meirionnydd, yng Nghastell Rhuthun, Tachwedd 1969

Parti Nadolig Ysgol Ysbyty Ystwyth (dim dyddiad)

Cangen Merched y Wawr Llangefni yn dathlu cinio Nadolig yn 1973

Cyngerdd Nadolig Eglwys Cribyn yn yr 1950au

Drama geni Ysgol Boduan gafodd ei pherfformio yn Eglwys St Buan tua 1960

Glowyr yn canu carolau Nadolig o dan ddaear yng Nglofa'r Bers, Rhostyllen, Wrecsam, o gwmpas 1950

Dawns a swper Nadolig ffatri Christie-Tyler yn Neuadd y Ddinas Caerdydd (dim dyddiad)

Cyngerdd Nadolig Ysgol Llangynfelyn, 1996

Parti Nadolig plant Capel Siloam, Cydweli, yn yr 1950au

Ysgol Gynradd Hafod, Abertawe, 1965

Cinio Nadolig pobl hŷn Tal-y-bont, 1986

Cyngerdd Nadolig Ysgol Llangynfelyn, 1989

Parti Nadolig Ysgol Bodlondeb, Conwy (dim dyddiad)

Cangen Merched y Wawr Dinbych, Glyn Maelor, yn barod am wledd parti Nadolig 1977

Cinio Nadolig Cangen Merched y Wawr Llangefni yn 1974

Siôn Corn yn ymweld ag Ysgol Cofadail, Trefenter, 1964

Merched y Wawr Tegryn yn canu carolau (dim dyddiad)