Cyn-chwaraewr rygbi yn siarad am lofruddiaeth ei frawd am y tro cyntaf

Nathan BrewFfynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

“Ni fel teulu nawr yn llawer mwy agos ar ôl beth sydd wedi digwydd i Matthew," dywedodd y cyn-chwaraewr rygbi Nathan Brew

  • Cyhoeddwyd

Mae cyn-chwaraewr rygbi Cymru, Nathan Brew, yn dweud fod llofruddiaeth ei frawd wedi dod â'i deulu yn llawer agosach.

Mae rhaglen arbennig ar S4C nos Sul yn nodi mai unwaith yn unig y cafodd Matthew Thomas ei daro yn ystod ymosodiad y tu allan i glwb nos yng Nghastell-nedd yn 2022.

Mae cofnodion yn dangos bod un o bob deg llofruddiaeth a dynladdiad yn ystod y tair mlynedd ddiwethaf wedi eu hachosi gan ymosodiad un ergyd.

Gan siarad yn gyhoeddus am y tro cyntaf am farwolaeth ei frawd, dywed Nathan fod "trasiedi fel hyn yn dod â chi gyd gyda’ch gilydd".

'Ymosodiad heb reswm'

“Ni fel teulu nawr yn llawer mwy agos ar ôl beth sydd wedi digwydd i Matthew na cynt, achos mae trasiedi fel hyn yn dod â chi gyd gyda’ch gilydd," meddai Nathan wrth siarad ar y rhaglen Nathan Brew: Un Eiliad Un Ergyd.

“Gathon ni alwad am un o’r gloch y bore i ddweud bod ei vitals i gyd wedi newid, a byddai’n syniad i ni fynd lawr yna.

"A'thon ni’n syth i lawr - roedd hynna’n anodd. A'thon ni gyd fel teulu. Da’th y consultant a dweud ‘really sorry ma’ Matthew yn mynd i farw’ - bydd yn marw cyn y bore, a dyma’ch cyfle i fynd mewn a dweud eich goodbyes.

“O’n i ffaelu derbyn y ffaith rwy’n credu yn edrych nôl. O’n i’n meddwl 'what’s this going to achieve?’ ond nes i snapo allan ohono fe.

"Es i fewn at Matthew - jest ni’n dau, ac o’n i’n ymddiheuro iddo fe am y ffaith falle bod ni ddim mor agos ag oedden ni pan o’n i’n tyfu lan.”

Ffynhonnell y llun, Shaun Botterill
Disgrifiad o’r llun,

Nathan yn chwarae dros y Dreigiau yn erbyn Leicester Tigers, 30 Medi, 2006

“Peth fwya’ dwi’n cofio’n edrych nôl oedd ei wyneb. O’dd cut bach ar ei wyneb ond o’dd e’n edrych yn iawn. Bach o ddryswch rili, yn meddwl ma' fe’n edrych yn ok, so pam ma’n nhw’n dweud so fe’n debygol o ddod drwyddo?

"O’dd hwnna’n neud i fi feddwl falle bod beth o’dd yr heddlu wedi dweu' 'tho fi’n anghywir,” ychwanegodd.

Roedd Daniel Pickering, 34, wedi bod yn yfed alcohol drwy’r dydd ac wedi cymryd gwerth dros £100 o cocaine cyn iddo ymosod ar Matthew Thomas.

Cafodd Pickering ei ddedfrydu i leiafswm o 18 mlynedd dan glo, gyda'r heddlu’n disgrifio'r ymosodiad fel un heb reswm ac yn enghraifft o sut y gall gor-yfed a chymryd cyffuriau sbarduno ymddygiad treisgar.

Wrth edrych yn ôl ar y diwrnod hwnnw yn y llys dywedodd Nathan: “O’dd look hollol ddidrugaredd ar ei wyneb. O’dd dim remorse o gwbl.

“I glywed yr hanes tu ôl i Daniel Pickering – bod e 'di gwneud rhywbeth tebyg cynt er nid i’r un lefel - o’dd hwnna’n gwneud ni’n eithaf crac, nid jest at Daniel Pickering ond at y system achos dyle fe byth fod wedi bod allan.”

'Byd pobl yn cwympo'

Bydd y rhaglen Nathan Brew: Un Eiliad Un Ergyd yn dilyn ditectifs Heddlu De Cymru wrth iddyn nhw geisio mynd i’r afael â’r broblem o farwolaethau un ergyd.

Bydd y rhaglen hefyd yn edrych ar dri achos torcalonnus arall fu yn y penawdau yng Nghymru dros gyfnod o flwyddyn.

Dywed Ditectif Neil Jones o Heddlu De Cymru: “Fel arfer, dynion yn eu hugeiniau neu dridegau sy’n mynd mas ac yfed gormod a chymryd cyffuriau sy’n troseddu.

"Pan mae cymysgedd o’r ddau beth, mae pobl yn mynd i fihafio’n wahanol.

“Ni’n cael nifer bob blwyddyn sy’n anffodus yn marw o ganlyniad i ymosodiad un ergyd.

"Adeg Covid roedd lot llai; doedd tafarndai ddim ar agor; doedd pobl ddim yn mynd mas shwt gymaint, ond nawr, mae’r ymosodiadau wedi cynyddu unwaith eto.

“Yn yr un eiliad ‘na ma’ byd pobl yn cwympo dan eu traed.

"I’r heddlu mae’n achosi gwaith, ond yn bennaf, beth sy’n digwydd i’r teulu. Mae’n dostrwydd i weld teulu yn ymateb i rhywbeth mor ddibwrpas.”

Bydd y rhaglen i’w gweld ar S4C am 21:00 nos Sul, 24 Mawrth ac yna ar S4C Clic a BBC iPlayer.

Pynciau cysylltiedig