Arestio dau wedi i ddyn, 20, gael ei drywanu
![Heol Fair, Blaendulais](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/f88f/live/fabbb160-4d03-11ef-b2d2-cdb23d5d7c5b.jpg)
Cafodd yr heddlu eu galw i Heol Fair yn yr oriau mân ddydd Sadwrn
- Cyhoeddwyd
Mae dau berson wedi cael eu harestio wedi i ddyn cael ei drywanu yn Sir Castell-nedd Port Talbot.
Fe gafodd yr heddlu eu galw i Heol Fair ym mhentref Blaendulais yn yr oriau mân ddydd Sadwrn 27 Gorffennaf.
Cafodd dyn 20 oed o'r pentref ei gludo i'r ysbyty ac mae mewn cyflwr sefydlog.
Dywed Heddlu De Cymru bod dyn 18 oed a bachgen 16 oed - y ddau o bentref Banwen - wedi cael eu harestio ar amheuaeth o ymosod.
Ychwanegodd y llu bod yr ymholiad i'r achos yn parhau.