Pam fod Reform yn boblogaidd yn Llanelli?

Disgrifiad,

  • Cyhoeddwyd

Daeth y blaid Reform o fewn trwch blewyn o gipio sedd Llanelli yn yr etholiad cyffredinol, gyda rhyw 1,500 o bleidleisiau'n unig rhyngddyn nhw a'r ymgeisydd Lafur llwyddiannus.

Dyma oedd y tro cyntaf i Reform fod yn rhan o'r etholiad cyffredinol.

Ond nhw oedd yr ail blaid fwyaf yn 13 o'r 32 etholaeth, gan sicrhau 16.9% o'r holl bleidleisiau yng Nghymru.

Yn Llanelli, roedd y farn am eu poblogrwydd yn gymysg - gyda rhai'n synnu ac eraill yn dweud ei fod yn gwneud synnwyr yn sgil gwrthwynebiad am gynllun i roi llety i geiswyr lloches mewn gwesty lleol.