Reform yn 'edrych ymlaen' at etholiad Senedd Cymru yn 2026
- Cyhoeddwyd
Mae'r blaid Reform yn edrych ymlaen at etholiad y Senedd ar ôl ennill 16.9% o'r holl bleidleisiau yng Nghymru - y tu ôl i Lafur a'r Ceidwadwyr yn unig.
Dywedodd yr ymgeisydd Oliver Lewis, a ddaeth yn ail ym Maldwyn a Glyndŵr, y gallai'r blaid ennill rhwng 20 a 25 o seddi yn 2026.
Dywedodd ei fod "wedi gwirioni" â'r canlyniadau, ond bod y system cyntaf i'r felin yn "annheg iawn".
Reform oedd yr ail blaid fwyaf yn 13 o'r 32 etholaeth, gan sicrhau 223,018 o bleidleisiau yng Nghymru yn etholiad cyffredinol 2024.
"Cofiwch fod system cynrychiolaeth gyfrannol yn etholiadau’r Senedd," medd Mr Lewis, "a felly mae pob pleidlais wirioneddol yn cyfri."
"Felly mae cyfle go iawn i ni fod yn rym wleidyddol pwerus iawn yng Nghymru, a 'dwi’n hyderus y gwnawn ni’n dda iawn yn 2026."
Ychwanegodd bod datganoli'n rhoi mantais bellach i'r blaid.
"Mae etholwyr yn teimlo nad ydy Llafur yn llwyddo yma yng Nghymru, a nad ydi'r Ceidwadwyr wedi llwyddo dros y 14 mlynedd diwethaf yn San Steffan."
Daeth Reform o fewn trwch blewyn i gipio sedd Llanelli, ond fe lwyddodd Llafur i gadw gafael ar y sedd honno gyda mwyafrif o 1,504.
Yn Lloegr, fe gafodd Nigel Farage ei ethol yn Aelod Seneddol am y tro cyntaf - un o bedair sedd i'r blaid ei hennill.
'Diffyg hyder yn y system'
Fe lwyddodd Nia Griffith i ddal ei gafael ar sedd Llanelli, ond mae maint y mwyafrif yn rhywbeth all beri pryder i'r blaid Lafur.
Yn ôl Gareth Beer, ymgeisydd Reform yn Llanelli, mae Llafur wedi bod yn hunanfodlon, ac o ganlyniad mae mwyafrif cadarn y blaid wedi diflannu.
"Fe welwn ni nawr pa mor llwyddiannus fydd Llafur yn San Steffan, ac os ydyn nhw'n glynu at eu haddewid i drwsio popeth y mae'r Torïaid wedi ei dorri," meddai.
"Mae Reform wedi dechrau symudiad, sy'n rhan o stori fwy na'r etholiad."
Yn ogystal, fe ostyngodd mwyafrif Chris Bryant o'r Blaid Lafur yn Rhondda ac Ogwr o bron i 10,000.
Roedd Reform yn ail, tua 7,790 o bleidleisiau y tu ôl i Lafur.
Mae poblogrwydd Reform yn Llanelli yn adlewyrchu "diffyg ffydd yn y system wleidyddol," medd ymgeisydd llwyddiannus yr etholaeth Nia Griffith, o'r Blaid Lafur.
"Mae pobl wedi gweld cymaint o broblemau gyda'r Ceidwadwyr, maen nhw'n meddwl nad oes neb yn gallu 'neud dim byd i helpu nhw," meddai ar raglen Dros Ginio BBC Radio Cymru.
"Ac wrth gwrs, maen nhw'n mynd yn erbyn wedyn yr holl system wleidyddol. Fel y Blaid Lafur, ry'n ni'n rhan o'r system yna.
"Felly mae sialens nawr i ni nid yn unig i fynd ymlaen gyda'n cynllun i wella bywydau pobl, ond hefyd creu ffydd unwaith eto yn y system wleidyddol, creu ffydd mewn pleidiau fel y Blaid Lafur.
"Achos dyna pham mae pobl wedi troi at rywbeth arall, wedi troi at Reform."
Ychwanegodd bod y "problemau o bobl yn dod yma mewn cychod bychain" hefyd wedi cyfrannu at y bleidlais dros Reform.
"Maen nhw moyn bod rhywbeth yn cael ei wneud ynglŷn â hyn."
'Cam cyntaf'
Cafodd arweinydd y blaid, Nigel Farage, ei ethol yn Aelod Seneddol am y tro cyntaf yn sedd Clacton gyda mwyafrif o dros 8,000 o bleidleisiau.
Fe enillodd y blaid gyfanswm o bedair sedd - gan gynnwys buddugoliaeth y cyn-AS Ceidwadol, Lee Anderson yn Ashfield.
Mewn araith wedi ei fuddugoliaeth yn Clacton, dywedodd Mr Farage: "Dyma'r cam cyntaf ar siwrnai sydd am eich syfrdanu chi gyd.
"Mae 'na fwlch enfawr yng nghanol yr asgell dde yng ngwleidyddiaeth Prydain, a fy rôl i yw llenwi’r bwlch yna."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Gorffennaf 2024
- Cyhoeddwyd5 Gorffennaf 2024
- Cyhoeddwyd5 Gorffennaf 2024